1 / 16

Diwrnodau olaf yr Iesu

Diwrnodau olaf yr Iesu. Iesu’n mynd mewn i Jeriwsalem. Roedd Iesu wedi myned i Jeriwsalem ar gefn asyn i ddangos taw un o’r bobl ydoedd, dim Brenin ar geffyl ond dyn syml ar asyn. Fe ddanfonodd ei ddisgyblion i gael hyd iddo ac fe’i cafwyd yn union lle dywedodd y byddai. Sul y blodau.

kennita
Download Presentation

Diwrnodau olaf yr Iesu

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Diwrnodau olaf yr Iesu

  2. Iesu’n mynd mewn i Jeriwsalem • Roedd Iesu wedi myned i Jeriwsalem ar gefn asyn i ddangos taw un o’r bobl ydoedd, dim Brenin ar geffyl ond dyn syml ar asyn. Fe ddanfonodd ei ddisgyblion i gael hyd iddo ac fe’i cafwyd yn union lle dywedodd y byddai.

  3. Sul y blodau • Wrth i’r Iesu farchogaeth heibio i’r bobl yn y dyrfa, roeddynt yn chwifio canghennau palmwydd tuag ato ac yn eu gosod ger ei draed. Rydym yn galw y diwrnod yma yn “Sul y blodau.”

  4. Ogof Lladron • Aeth Iesu i mewn i’r Deml a gweld pobl yn prynnu a gwerthu nwyddau yn dwyllodrus. • Gwrth droiodd y byrddau gan weiddi “Dyma dŷ fy Nuw ond gwnaethoch chwi ef yn ogof lladron.”

  5. Y Swper Olaf

  6. Geiriau’r Iesu • Eisteddodd Iesu gyda’i ddisgyblion yn yr Oruwch ystafell gan ddathlu y swper olaf gyda nhw. • Fe gyhoeddodd mai “ei gorff” oedd y bara ac “ei waed” oedd y gwin. • Dywedodd wrth y lleill y basai un ohonynt yn ei wadu 3 gwaith a basai un ohonynt yn ei fradychu gyda cusan.

  7. Gardd Gethsemane • Aeth Iesu i weddio yng ngardd Gethsemane. • Gofynnodd i’w Dad, “Pam yr wyt ti’n gwneud hyn i mi?” • Wedyn cusannodd Jwdas yr Iesu ac fe gafodd ei arestio gan y milwyr.

  8. Ar brawf • Daethant â’r Iesu o flaen Pilat a ddywedodd ei fod yn golchi ei ddwylo o’r mater ac yn gadael i’r bobl benderfynnu. Roedd y dyrfa wedi pleidleisio i Barabas – lleidr – fynd yn rhydd a dedfrydu Iesu i farwolaeth.

  9. Gorfodwyd yr Iesu i gario ei groes ei hun i galfari. Cerddodd ar hyd y ‘Via Dolorosa’ ar ôl stopio sawl gwaith. Cynnigodd rhai pobl i’w helpu ond fe stopiodd y milwyr Rhufeinig nhw. Roeddynt eisiau gweld yr Iesu yn dioddef achos ei honiad taw Fe oedd Brenin yr Iddewon.

  10. Ar y Groes • Cafodd Iesu ei hoelio i’r groes trwy ei arddyrnau a’i draed. • Gwisgodd Goron ddrain ar ei ben a wnaeth iddo waedu. Casglodd y bobl o gwmpas. • Cafodd ei groeshoelio gyda dau leidr.

  11. Mae’r Diwedd yn Agos • Fe drywanodd milwr Rhufeinig yr Iesu yn ei ochr a phan ofynnodd am ddŵr, fe gafodd sbwng wedi ei ymdrochi mewn finegar. • Gwnaeth hyn ef yn fwy sychedus ac roedd yn beth creulon I wneud.

  12. Dydd Gwener y Groglith • Ar unwaith fe droiodd yr awyr yn ddu ac roedd pawb yn gwybod bod Iesu wedi marw. • Troiodd Un milwr Rhufeinig at ei ffrind a dweud, “Hwn oedd mab Duw”. Roedd nawr yn credu. • Cymerwyd yr Iesu i lawr o’r groes a’i gario i ogof o fedd dinesydd cyfoethog a gredai yn Iesu, mab Duw.

  13. At yr Ogof • Cafodd yr Iesu ei rwymo mewn dillad-claddu a’i eneinio â pheraroglau fel ‘sandalwood’. Gosodwyd ei gorff wedyn mewn bedd. • Roedd y bedd wedi ei orchuddio â maen trwchus a gafodd ei dreiglo dros y fynedfa.

  14. Atgyfodiad • Ar y dydd Sul ar ôl marwolaeth yr Iesu, aeth ei fam i lawr i’r bedd ond cafodd y maen wedi ei symud a doedd y corff ddim yno. • Pengliniodd Mair ac wylo. • Clywodd lais tu ôl iddi’n gofyn beth oedd yn bod…

  15. Mae’r Iesu yn Fyw • …Iesu oedd yn siarad gyda Mair. • Roedd wedi dod nôl yn fyw a dywedodd wrth Mair am fynd i ddweud wrth y disgyblion. • Roedd Mair mewn syndod ond gwnaeth fel yr oedd Iesu’n dymuno. • Cychwynnodd ei thaith i’w darganfod.

  16. Esgyniad • Siaradodd Iesu â’r disgyblion ac yna esgynnodd i’r Nef i eistedd ar ddeheulaw Duw, ei Dad.

More Related