1 / 1

Beth y darganfuom yn ei gylch?

Prosiect ymchwil bywydau arbennig. Beth oedd yn cael ei ymchwilo?

Download Presentation

Beth y darganfuom yn ei gylch?

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Prosiect ymchwil bywydau arbennig Beth oedd yn cael ei ymchwilo? Gweithiodd 4 ymchwilydd gydag 8 o bobl ifanc er mwyn darganfod mwy am eu bywydau bob dydd. Roedd yr ymchwil yn ymwneud â bywydau pobl ifanc mewn gofal. Nid oedd unrhyw un o’r bobl ifanc a gymerodd ran yn byw gyda’u rhieni. Roedd rhai yn byw gyda’u mam-gu a’i tad-cu, eraill yn byw gyda theuluoedd maeth a rhai o’r plant hŷn yn byw ar ben eu hun neu gyda ffrindiau. Fe gynorthwyom ni hwy i wneud prosiectau eu hunain am eu bywydau gyda grŵp me, myself and I. Fe ysgrifenom am y storïau a rannodd y bobl ifanc gyda ni, y pethau a wnaethom ac am eu barn am y prosiect. Gwnaethom rai ffilmiau byr y gallwch eu gweld heddiw. Cynhaliwyd grŵp me, myself and I rhwng mis Hydref 2006 a mis Gorffennaf 2007. Cymerodd 8 o bobl ifanc rhwng 10-20 oed ran. Roedd y gweithgareddau oedd yn cael eu cynnig yn cynnwys ffotograffiaeth, cynhyrchu fideos, animeiddio, cynhyrchu cerddoriaeth a chelf a chrefft. Defnyddiodd y bobl ifanc y gweithgareddau hyn i rannu manylion eu bywydau bob dydd gyda ni. Nhw oedd yn dewis beth oeddent eisiau ei wneud a nhw oedd yn dewis beth, os unrhyw beth, oeddent eisiau ei rannu gyda ni o’r hyn yr oeddent wedi ei wneud. Pwy ydym ni? Beth y darganfuom yn ei gylch? Oherwydd i’r plant fyw gyda mwy nag un teulu roeddent yn gallu dweud llawer ynghylch y ffyrdd roedd gwahanol deuluoedd yn gwneud pethau. Mae pobl ifanc eisiau i’w gweithwyr cymdeithasol ddod i’w hadnabod, i ddangos diddordeb, i wrando arnynt, i wneud yr hyn maent yn addo gwneud, ac i weithredu. Nid oeddent yn hoffi cael llawer o wahanol weithwyr cymdeithasol. Mae pobl ifanc eisiau i’w gofalwyr (y bobl maent yn byw gyda hwy) eu caru, gofalu amdanynt, bod yn ymwybodol o’r pethau arferol amdanynt, eu trin fel un o’r teulu, ac i ofalu amdanynt tan eu bod wedi tyfu i fyny. Roedd rhai yn poeni am ba mor hir y byddant yn cael aros gyda’u gofalwyr. Mae rhai pobl yn credu y bydd pobl ifanc mewn gofal yn cael problemau yn yr ysgol. Rhanodd y bobl ifanc eu profiadau ysgol gyda ni. Dwedodd y rhai hŷn am sut roedd eu hathrawon wedi cael eu synnu pan lwyddon nhw i basio eu haroliadau. Credwn fod y dull y gwnaethom yr ymchwil yn ffordd dda o ddarganfod mwy am fywydau’r bobl ifanc mewn gofal oherwydd ei fod yn cynnig llawer o ddewis iddynt am beth i wneud a beth i rannu gyda ni ynghylch eu bywydau, y da a’r drwg, y personol a’r cyffredin. Ond er mwyn cadw pethau’n breifat, rydym yn ofalus am beth rydym yn eu rannu gyda phobl eraill. Rydym oll yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd Nicola Emma Sally Alex Pam y gwnaethom ni hyn? Roeddem eisiau cynnig y cyfle i bobl ifanc mewn gofal ddweud wrthom ni am eu bywydau bob dydd ac am beth sy’n bwysig iddyn nhw yn y ffordd yr oeddent am wneud. Ein gobaith oedd y byddai’r hyn a fyddai’n cael ei ddatgelu’n helpu i wneud gwahaniaeth i’r ffordd mae pobl yn meddwl am ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â phobl ifanc mewn gofal. Gallwch ddarganfod mwy am yr ymchwil ar ein gwefan:www.caerdydd.ac.uk/socsi/qualiti/dp4.html neu gallwch gysylltu â ni ar qualiti@caerdydd.ac.uk neu drwy ffonio 02920875345.

More Related