1 / 11

CYDRANNAU FFITRWYDD

CYDRANNAU FFITRWYDD. Erbyn diwedd yr uned fe fyddwch yn gwybod:. Beth yw enwau’r cydrannau ffitrwydd? I ba gr ŵp maent yn perthyn? Beth yw diffiniad pob cydran?. Categoreiddio. Mae’r cydrannau hyn yn disgyn i ddau faes: C yffredinol neu Cysylltiedig ag Iechyd

summer
Download Presentation

CYDRANNAU FFITRWYDD

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. CYDRANNAU FFITRWYDD Erbyn diwedd yr uned fe fyddwch yn gwybod: • Beth yw enwau’r cydrannau ffitrwydd? • I ba grŵp maent yn perthyn? • Beth yw diffiniad pob cydran?

  2. Categoreiddio Mae’r cydrannau hyn yn disgyn i ddau faes: • Cyffredinol neu Cysylltiedig ag Iechyd • Penodol neu Cysylltiedig â Sgiliau Fe edrychwn yn awr ar y ddau faes yn fwy manwl.

  3. Diffiniadau - Cyffredinol / Cysylltiedig ag Iechyd Cryfder Y grym y mae’r cyhyrau’n ei weithredu wrth gyfangu. Hyblygrwydd Amrediad y symud mewn cymal. Cyfansoddiad y corff Y canrannau o fraster, cyhyr ac asgwrn yn y corff. Stamina • Gallu’r corff i ddal ati am gyfnodau hir • heb flino. Mae’n gyfuniad o ddygnwch • cardiofasgwlaidd a chyhyrol.

  4. Cryfder Y grym y mae’r cyhyrau’n ei weithredu wrth gyfangu. Statig Dynamig Ffrwydrol (pŵer) Cryfder sydd ei angen i wthio neu dynnu gwrthrych trwm iawn neu i ddal pwysau trwm uwch eich pen. Cryfder sydd ei angen i gadw llwyth i symud dros gyfnod hir. (e.e. rhwyfo) Cryfder sydd ei angen ar gyfer un weithred ffrwydrol (e.e. naid uchel) • Bydd dal llwyth trwm yn llonydd yn gwella’ch cryfder statig. • Bydd symud y llwyth yn gwella’ch cryfder dynamig. • Bydd symud y llwyth mor gyflym ag sy’n bosibl yn gwella’ch pŵer.

  5. Hyblygrwydd Amrediad y symud mewn cymal. I wella hyblygrwydd dylech ymestyn y cyhyrau o amgylch y cymal a dal yr ymestyniad am o leiaf 8 – 10 eiliad. Mae hyn yn cael ei alw yn YMESTYN STATIG. Gall fod yn weithredol neu’n oddefol. • Mae gymnastwraig yn dangos hyblygrwydd wrth berffomio yr hollt (splits). • Mae bachwr angen hyblygrwydd yn ei ysgwyddau wrth berfformio yn y sgrym. • Mae athletwr angen hyblygrwydd yn yr asgwrn cefn wrth berfformio’r naid uchel.

  6. Cyfansoddiad y corff Y canrannau o fraster, cyhyr ac asgwrn yn y corff. Gallech fod â’r pwysau iawn ond eto i gyd yn anffit am fod gennych lawer o fratser a chyhyrau bach gwan. Mae cyfansoddiad y corff yn rhoi gwell syniad o ffitrwydd ac mae’n nodi pa ganran o bwysau eich corff sy’n fraster.

  7. Stamina • Gallu’r corff i ddal ati am gyfnodau hir • heb flino. Mae’n gyfuniad o ddygnwch • cardiofasgwlaidd a chyhyrol. Cardiofasgwlaidd Gallu system cylchrediad y gwaed i ddosbarthu’r ocsigen sydd ei angen ar y cyhyrau. Mae hyn yn cael ei alw hefyd yn Ffitrwydd aerobig. Cyhyrol Gallu’r cyhyrau i gyfangu dro ar ôl tro heb flino. • Mae angen lefel uchel o ffitrwydd • aerobig i redeg marathon. Pam? • Mae angen lefel uchel o ffitrwydd • aerobig i barhau trwy gydol gêm • bêl droed / hoci. • Mae angen lefel uchel o • ddygnwch cyhyrol i feicwyr yn • y ras ‘Tour de France’. • - Mae angen lefel uchel o • ddygnwch cyhyrol i barhau i • rwyfo mewn ras gystadleuol.

  8. DIFFINIADAU - PENODOL / CYSYLLTIEDIG A SGILIAU Ystwythder Newid ystum a chyfeiriad y corff yn gyflym. Cydbwysedd Cynnal ystum arbennig heb siglo na chwympo. Cyd-drefniant Symud rhannau o’r corff yn esmwyth ac yn gywir mewn ymateb i’r negesau gan y synhwyrau. Pŵer Cyfuniad o gryfder a chyflymder. Amser Adweithio • Cyflymder adweithio yw’r term am yr • amser a gymerir i ymateb i symbyliad. Cyflymder Y gallu i symud eich corff neu ran o’ch corff yn gyflym.

  9. PENODOL / CYSYLLTIEDIG A SGILIAU - Enghreifftiau Ystwythder Ochor gamu mewn gêm rygbi. Symudiad yr ‘Indian dribble’ - hoci. Cydbwysedd STATIG = Pensafiad - gymnasteg. DEINAMEG = Sglefrio – sglefrio iâ. Cyd-drefniant Serfiad mewn tennis. Dal pêl – gôl geidwad. Pŵer Taflu’r ddisgen/ Naid hir Amser Adweithio • Cychwyn ras 100m. • ‘Slip catch’ o fewn gêm griced. Cyflymder • Mae angen cyflymder mewn ras can medr.

  10. Cyflymder Y gallu i symud eich corff neu ran o’ch corff yn gyflym. Nid ystyr y term ‘cyflymder’ bob tro ydi’r gallu i symud o A i B gynted â phosib. Gall olygu y gallu i symud rhannau gwahanol o’r corff yn gyflym. Gweler yr enghreifftiau isod. • Mae angen cyflymder mewn ras can medr. • Mae angen cyflymder i gyrraedd y bêl yn gyntaf mewn gemau tîm. • Mae angen cyflymder yn y fraich wrth daflu picell.

  11. GALLWN YN AWR ATEB Y CWESTIYNAU YMA? Beth yw enwau’r cydrannau yma? Ym mha grŵp maent yn perthyn? Beth yw diffiniad pob cydran?

More Related