1 / 16

Dogfen Bolisi: Pryderon Pobl Ifanc a’u Hargymhellion ar gyfer Addasu at Newid Hinsawdd yng Nghymru

Dogfen Bolisi: Pryderon Pobl Ifanc a’u Hargymhellion ar gyfer Addasu at Newid Hinsawdd yng Nghymru. Eric W Pritchard Jeanette Reis Tara Thrupp Mai 2011. Crynodeb Gweithredol

ethel
Download Presentation

Dogfen Bolisi: Pryderon Pobl Ifanc a’u Hargymhellion ar gyfer Addasu at Newid Hinsawdd yng Nghymru

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Dogfen Bolisi: Pryderon Pobl Ifanc a’u Hargymhellion ar gyfer Addasu at Newid Hinsawdd yng Nghymru Eric W Pritchard Jeanette Reis Tara Thrupp Mai 2011

  2. Crynodeb Gweithredol • Pobl ifanc heddiw yw gwneuthurwyr polisi yfory ac felly mae’n holl-bwysig eu bod yn wybodus a’u bod yn cael cyfle i gyfrannu at brosesau penderfynu a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar eu dyfodol. • Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r casgliadau a gafwyd mewn cyfres o weithdai ledled Cymru, a oedd yn cynnwys pobl ifanc 15-16 oed. Yn benodol, mae’r ddogfen yn pwysleisio ymatebion y bobl ifanc i dri senario realistig ynglŷn â newid hinsawdd, ar sail gwaith ymchwil gan Brifysgol Caerdydd. Bu aelodau’r gweithdai yn edrych ar faterion cludiant, materion seilwaith hanfodol a materion anheddu sy’n gysylltiedig â newidiadau mewn tymheredd, glawiad a lefel y môr heddiw, yn y flwyddyn 2040 ac yn y flwyddyn 2060. Yn ogystal ag enwi risgiau, gofynnwyd i’r bobl ifanc ystyried opsiynau ar gyfer addasu a thrafod materion ynglŷn â chyfrifoldeb. • Y PWYNTIAU ALLWEDDOL: • Mae’r materion y gofynnwyd i’r bobl ifanc eu hystyried yn arbennig o berthnasol i’r gronfa o dystiolaeth ac i Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd. • Cydnabyddir yn eang mai cymryd rhan yn gynnar a deialog gynnar yw’r cyfle gorau i sicrhau llwyddiant wrth addasu. Mae’r ddogfen hon yn gam cyntaf tuag at gynnwys pobl ifanc mewn gwaith i lunio polisi Cymru ar addasu at newid hinsawdd. • Mae ar bobl ifanc angen gwybodaeth glir, gywir, gytbwys. Ond mae yna ansicrwydd o hyd ynghylch amcanestyniadau enghreifftiol. • Barn y bobl ifanc yw y dylai’r cyfrifoldeb dros addasu at y risgiau y mae newid yn yr hinsawdd yn eu creu gael ei rannu rhwng unigolion, cymunedau a’r llywodraeth. • Bernir mai llifogydd ar yr arfordir ac ar y tir yw’r risg fwyaf arwyddocaol i systemau cludiant Cymru, yn ôl y bobl ifanc. • Mae tarfu ar y cyflenwad pŵer yn peri pryder penodol i bobl ifanc. • Mae pobl ifanc o’r farn y gallai anawsterau anheddu yn 2040 gael eu datrys gan dechnoleg sydd eisoes yn bod. Er hynny, maen nhw’n awgrymu bod angen dulliau mwy dyfeisgar erbyn 2060. • Mae angen rhoi mwy o bwyslais ar addysgu pobl ifanc a’u paratoi nhw i addasu at hinsawdd sy’n newid. • Mae gan bobl ifanc lawer i’w gyfrannu o ran syniadau a mynd ati i’w rhoi ar waith. Mater i Lywodraeth Cymru bellach yw gwrando ar eu neges, ymwneud â nhw ac ymateb gan eu cynnwys nhw ymhellach i benderfynu ar eu dyfodol.

  3. Pryderon disgyblion Ysgol y Brenin Henry VIII ac Ysgol Gyfun Blaen-gwawr am newid yn yr hinsawdd, Mawrth 2011. Bwriadau disgyblion Ysgol y Brenin Henry VIII ac Ysgol Gyfun Blaen-gwawr at y dyfodol, Mawrth 2011.

  4. Cynnwys Crynodeb Gweithredol 2 Cynnwys 4 Cydnabod 5 1. Rhagymadrodd 6 2. Y sefyllfa gyfoes: Beth wyddon ni am wyddor newid hinsawdd yng Nghymru, a beth yw’r materion rydyn ni’n eu rhag-weld? 8 3. Pam mae angen safbwyntiau pobl ifanc mewn polisïau ar addasu at newid yn yr hinsawdd? 10 4. Y Farn am Gludiant 11 5. Y Farn am Seilwaith Hanfodol 12 6. Y Farn am Anheddu 13 7. Y Farn am Gyfrifoldeb 14 8. Casgliadau 15

  5. Cydnabod Mae’r ddogfen hon wedi’i chynhyrchu gan Brosiect yr Oleufa ar Newid Hinsawdd a Phobl Ifanc (YoCCo). Hoffem ddiolch i’n harianwyr, sef Rhaglen Goleufa Cymru,1 Cyngor Cefn Gwlad Cymru2 a phrosiect IMCORE3 INTERREG IVb am gefnogi’r gwaith. Hoffem ddiolch hefyd i athrawon a disgyblion yr ysgolion am eu syniadau a’u brwdfrydedd. Dyma’r ysgolion a fu’n cymryd rhan yn y gwaith: Ysgol Gyfun y Barri Ysgol Gyfun Penglais, Aberystwyth Ysgol Tryfan, Bangor Ysgol Gyfun Tre-gŵyr, Abertawe Ysgol y Brenin Henry VIII, Y Fenni Ysgol Gyfun Blaen-gwawr, Aberdâr. 1 http://www.engagingwales.org/ 2 www.ccw.gov.uk/ 3Rheolaeth Arloesol ar gyfer Adnoddau Arfordirol Newidiol Ewrop (IMCORE): http://www.severnestuary.net/sep/imcore/index.html

  6. 1. Rhagymadrodd • Mae’r dystiolaeth wyddonol sy’n ategu dadleuon bod yr hinsawdd yn newid yn cryfhau ac mae’n edrych yn fwyfwy tebyg y bydd pobl ifanc heddiw yn gorfod gwneud newidiadau mawr yn eu ffordd o fyw yn y dyfodol. Pobl ifanc heddiw yw gwneuthurwyr polisi yfory hefyd ac felly mae’n holl-bwysig eu bod yn wybodus a’u bod yn cael cyfle i gyfrannu at brosesau penderfynu a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar eu dyfodol. • Mae’r ddogfen hon wedi’i pharatoi i gyflwyno barn pobl ifanc yng Nghymru i wneuthurwyr polisïau a gwleidyddion sy’n rhan o’r ddadl ar newid yn yr hinsawdd. Mae’n crynhoi’r ymatebion a gafodd eu casglu mewn cyfres o weithdai i ysgolion a gafodd eu cynnal yn 2010 a 2011, wedi’u trefnu gan Brifysgol Caerdydd, Fforwm Ieuenctid Cymru ar Ddatblygu Cynaliadwy a Phartneriaeth Môr Hafren. • Yn ystod y gweithdai, gofynnwyd i 160 o bobl ifanc 15-16 oed ystyried nifer o senarios yn y dyfodol ar gyfer Scott, cymeriad dychmygol sy’n byw mewn anheddiad isel ar yr arfordir, sef un sy’n nodweddiadol o lawer o drefi bach Cymru. Yn ystod ei oes, mae’n gorfod nodi ac ystyried opsiynau ar gyfer addasu cludiant, seilwaith hanfodol ac aneddiadau, gan gymryd y newid yn yr hinsawdd i ystyriaeth. Cafodd senarios eu datblygu a oedd yn cymryd i ystyriaeth y tymheredd, y glawiad a lefel y môr yng Nghymru heddiw, yn y flwyddyn 2040 ac yn y flwyddyn 2060. • Cafodd gweithgareddau’r prosiect eu datblygu’n unswydd mewn ymateb i dystiolaeth a strategaethau ar y newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Er enghraifft, daeth ymchwil gan Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru4 a gyhoeddwyd yn 2009 i’r casgliad: • bod 220,000 o adeiladau yng Nghymru mewn perygl o lifogydd, gan effeithio ar un ym mhob naw o’r boblogaeth • bod 33% o reilffyrdd Cymru ac 11% o brif ffyrdd Cymru mewn perygl o lifogydd • bod seilwaith sy’n bwysig yn genedlaethol megis purfeydd olew (Aberdaugleddau) a gorsafoedd pŵer (Wylfa, Aberddawan, Aber-wysg a Phenfro) wedi’u lleoli ar yr arfordir, yn ogystal â chyfleusterau cyflenwi a thrin dŵr, safleoedd cyflenwi trydan a safleoedd dosbarthu trydan. • 4 Llifogydd yng Nghymru: Asesiad Bygythiad Llifogydd Cenedlaethol, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru 2009

  7. Yn ychwanegol, mae dogfen Llywodraeth Cymru “Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd: Ymgynghoriad ar Raglen Weithredu”5 yn cydnabod: ‘O ganlyniad i’r allyriadau tŷ gwydr sydd eisoes wedi’u rhyddhau, ni allwn osgoi effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn gyfan gwbl. Mae angen i ni addasu i’r newidiadau na allwn mo’u hosgoi, ond mae’n rhaid i ni barhau i leihau allyriadau ar yr un pryd neu bydd yr effeithiau yn waeth byth.’ Mae hefyd yn argymell: ‘Gorau po gyntaf y mae Cymru’n dechrau paratoi – drwy ddeall pa mor agored ydyw i effeithiau newid yn yr hinsawdd, cynyddu gallu i wrthsefyll a datblygu gallu – er mwyn i ni allu ymdopi’n well ag effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.’ Y PWYNT ALLWEDDOL: Mae’r materion y gofynnwyd i’r bobl ifanc eu hystyried yn arbennig o berthnasol i’r gronfa o dystiolaeth ac i Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd. 5Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd: Ymgynghoriad ar Raglen Weithredu, Dogfen Gryno, Gorffennaf 2009 http://wales.gov.uk/docs/desh/consultation/090625climateactionsummarycy.pdf Pobl ifanc yn ymateb i’r gronfa o dystiolaeth

  8. 2. Y sefyllfa gyfoes: Beth wyddon ni am wyddor newid hinsawdd yng Nghymru, a beth yw’r materion rydyn ni’n eu rhag-weld? Os yw pobl ifanc heddiw am baratoi at y dyfodol, mae arnyn nhw angen gwybodaeth glir, gywir, gytbwys. O gofio rhychwant eang a dilysrwydd amheus yr wybodaeth sydd eisoes ar gael, dechreuodd y gweithdy drwy roi’r cefndir, cyflwyno’r wyddoniaeth orau sydd ar gael ynghylch newid yn yr hinsawdd a’r hyn y gallai newid yn yr hinsawdd ei olygu i bobl sy’n byw yng Nghymru. Cafodd yr wybodaeth a gyflwynwyd yn y gweithdai ei chasglu yn wreiddiol gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ar sail Rhagfynegiadau Hinsawdd y Deyrnas Unedig.6 Ym mhob achos, senario allyriadau canolig a ragdybiwyd (hynny yw lle mae lefelau’r nwyon tŷ gwydr a ollyngir yn y dyfodol drwy weithgareddau pobl yn dal i godi yn ôl y cyflymder presennol). Gofalwyd trafod lle mae ansicrwydd yn bodoli. Er enghraifft, anodd iawn yw darogan lefelau’r nwyon tŷ gwydr a fydd yn cael eu gollwng yn y dyfodol: mae’r wyddoniaeth yn dal i ddatblygu ac mae amrywiadau naturiol yn digwydd hefyd ochr yn ochr â’r newid hinsawdd sy’n cael ei greu gan bobl. Y PWYNTIAU ALLWEDDOL: Mae ar bobl ifanc angen gwybodaeth glir, gywir, gytbwys. Ond mae yna ansicrwydd o hyd ynghylch amcanestyniadau enghreifftiol. 6 http://ukclimateprojections.defra.gov.uk/ Faint? Os byddwn yn parhau i ollwng nwyon tŷ gwydr ar y cyflymder presennol, erbyn y flwyddyn 2095 mae’r gwyddonwyr yn amcangyfrif y gallai lefel y môr yng Nghymru fod wedi codi 35cm yn y Gogledd a 50cm yn y De.

  9. Newid Tymheredd Cymru 2020au-2080au Faint? Erbyn y 2080au gallai tymheredd cyfartalog Cymru gynyddu hyd at 4 ˚C. Mae’r cynnydd yn debyg o fod ar ei fwyaf ym misoedd yr haf. 2020s 2050s 2080s Ffynhonnell: http://ukclimateprojections.defra.gov.uk/content/view/1492/499/ Data based on medium emissions scenario > 3 - 4 ˚C > 2-3 ˚C > 1-2 ˚C Faint? Erbyn y 2080au gallai glawiad yr haf ostwng hyd at 30% mewn rhannau o’r Canolbarth a’r De a hyd at 40% mewn rhannau o’r Gorllewin. Faint? Erbyn y 2080au gallai glawiad y gaeaf fod wedi cynyddu hyd at 30% yn y De a’r Gorllewin, yn enwedig ar hyd yr arfordir.

  10. 3. Pam mae angen persbectif pobl ifanc mewn polisïau ar addasu at newid yn yr hinsawdd? • “Nid etifeddu’r ddaear gan ein hynafiaid wnawn ni, ond ei fenthyg oddi wrth ein plant” • - Hen Ddihareb gan Frodorion America • Mae’n debyg y bydd y genhedlaeth sydd ar fin troi’n oedolion yn gweld newid mawr yng Nghymru yn sgil newid hinsawdd, yn enwedig ar yr arfordir, ac mae’n bosibl y bydd rhaid iddyn nhw addasu’n sylweddol i ymdopi â newid mewn tymheredd, glawiad a lefel y môr. Mae pwysigrwydd cynnwys safbwyntiau pobl ifanc wrth i bolisi gael ei lunio wedi’i gydnabod eisoes ar lefel y Deyrnas Unedig. • Ym mis Rhagfyr 2010, cyhoeddodd Panel Ieuenctid Ymgynghorol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd eu hadroddiad cyntaf7 yn hoelio sylw ar eu gwaith ac yn ystyried y llwybrau egni posibl hyd at 2050, ar sail Prosiect Llwybrau DECC. Cafodd yr adroddiad hwn ar bolisïau egni’r Deyrnas Unedig ei gynhyrchu gan bobl rhwng 16 a 25 oed, a’i ysgrifennu o safbwynt y rhai a fydd yn gorfod byw â phenderfyniadau’r presennol drwy gydol eu bywyd fel oedolion. Mae’r adroddiad yn galw ar y Llywodraeth i wneud y canlynol: • Sicrhau bargen deg i bobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau; • Gweithio’n galed i sicrhau nad yw’r Llywodraeth yn cloi’r genhedlaeth ifanc a chenedlaethau’r dyfodol mewn dyled ecolegol; • Parhau i gynnal deialog â phobl ifanc a rhanddeiliaid ifanc i sicrhau bod safbwynt yr ifanc yn cael ei glywed gan y Llywodraeth a bod y Llywodraeth yn ymateb iddo. • Y PWYNT ALLWEDDOL: • Cydnabyddir yn eang mai cymryd rhan yn gynnar a deialog gynnar yw’r cyfle gorau i sicrhau llwyddiant wrth addasu. Mae’r ddogfen hon yn gam cyntaf tuag at gynnwys pobl ifanc mewn gwaith i lunio polisi Cymru ar addasu at newid hinsawdd. • 7Energy: How fair is it anyway? Panel Ieuenctid Ymgynghorol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd. Rhagfyr 2010: Diwrnod Confensiwn Fframwaith y CU ar Newid Hinsawdd, Cenedlaethau Ifanc a Chenedlaethau’r Dyfodol, Llundain, Brwsel, Cancun, ar gael ar http://www.decc.gov.uk/en/content/cms/about/youth_panel/youth_panel.aspx

  11. 4. Y Farn am Gludiant Ffactorau Risg Bu’r bobl ifanc yn trafod y risg uwch y bydd cynnydd mewn tymheredd, glawiad a lefel y môr yn ei chreu ar gyfer y seilwaith ffyrdd, rheilffyrdd a llongau. Bernid mai llifogydd oedd y risg fwyaf arwyddocaol i systemau cludiant Cymru. Roedd hyn yn cynnwys llifogydd mewndirol a llifogydd ar yr arfordir. Opsiynau ar gyfer Addasu Cynigiwyd y gallai fod angen codi neu symud cysylltiadau ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd ac adeiladu argloddiau neu bontydd. Credid bod rheilffyrdd a systemau cludiant torfol fel monorail yn systemau ymarferol at gymudo yn y dyfodol, er bod y bobl ifanc yn cyfaddef hefyd y gallai cerdded, beicio a gweithio gartref er mwyn osgoi cymudo fod yn opsiynau poblogaidd hefyd. Roedd yna ddiddordeb mewn teithio ar y dŵr mewn hofrenfadau, tacsis dŵr, badau a cherbydau amffibiaidd, gan ddangos bod cynnydd yn lefel y môr yn gyfle yn hytrach nag yn broblem i rai! Wrth gwrs, os bydd llifogydd yn taro ardal mae yna dri opsiwn, teithio o amgylch y dŵr, drwy’r dŵr a thros y dŵr. Yn achos yr opsiwn olaf, roedd rhai o’r aelodau’n disgwyl gweld awyrennau personol yn cael eu defnyddio’n helaeth erbyn 2060. Y PWYNT ALLWEDDOL: Bernir mai llifogydd ar yr arfordir ac ar y tir yw’r risg fwyaf arwyddocaol i systemau cludiant Cymru.

  12. 5. Y Farn am Seilwaith Hanfodol Ffactorau Risg Bernid bod yna risg benodol i seilwaith hanfodol, megis llinellau cyflenwi egni, gorsafoedd pŵer a systemau cyfathrebu, yn sgil llifogydd ar yr arfordir ac ar y tir, yn ogystal ag yn sgil cynnydd mewn tymheredd. Yn benodol, roedd y bobl ifanc yn ofidus y gall aneddiadau sydd ag ardaloedd sy’n tueddu i ddioddef llifogydd rhyngddyn nhw a’r canolfannau dosbarthu orfod dysgu byw gyda thoriadau pŵer. Opsiynau ar gyfer Addasu Bernid y gall fod angen symud llinellau pŵer, hyd yn oed cyn 2040, er mwyn osgoi toriadau yn y cyflenwad egni yn sgil llifogydd lleol. Egni adnewyddadwy (gwynt, llanw, trydan dŵr) ac egni niwclear oedd y prif gynigion ar gyfer cynhyrchu egni ar raddfa fawr, gyda meicro-gynhyrchu i ategu hynny, megis paneli haul ffotofoltäig a thyrbinau gwynt domestig. Roedd systemau cymunedol yn cael eu ffafrio hefyd, gan gynnwys cynhyrchu pŵer geothermol, ffermydd gwynt lleol a biomas. Awgrymwyd cysylltu generadur â’r gampfa leol fel un ffordd i sicrhau egni i’r gymuned leol wrth i bobl gadw’n heini! Y PWYNT ALLWEDDOL: Mae tarfu ar y cyflenwad pŵer yn peri pryder penodol.

  13. 6. Y Farn am Anheddu Ffactorau Risg Bernid bod tai unigol, pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru mewn perygl, yn enwedig yn sgil llifogydd ar y tir ac ar yr arfordir. Bernid hefyd y gallai amodau byw yn y dyfodol fod yn anghysurus neu hyd yn oed yn beryglus i’r oedrannus neu i gleifion hirdymor, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Rhagwelid y gallai problemau 2040 gael eu datrys drwy addasiadau rhesymol, ond y byddai angen dulliau mwy dyfeisgar erbyn 2060. Opsiynau ar gyfer Addasu Roedd y bobl ifanc o’r farn bod angen addasu at y risg uwch o lifogydd drwy gadw cyflenwad lleol o fagiau tywod, gwella’r systemau traenio, diddosi tai rhag gwlybaniaeth, gosod falfiau i atal adlif drwy draeniau, codi lefel socedi trydan, ac weithiau codi tai uwchlaw lefelau’r dŵr. Ar ben mesurau ar gyfer anheddau unigol, bu rhai yn trafod posibilrwydd amddiffyn aneddiadau â strwythurau atal llifogydd neu symud pentrefi cyfan i dir uwch. Awgrymodd un aelod o weithdy y byddai’n bosibl datblygu “pentrefi o gychod preswyl”. Roedd yr opsiynau a drafodwyd ynglŷn ag addasu at gynnydd mewn tymheredd yn cynnwys peintio tai mewn lliwiau golau adlewyrchol, plannu coed i roi cysgod naturiol ac, o dan rai amgylchiadau, gosod systemau tymheru. Y PWYNT ALLWEDDOL: Gallai anawsterau anheddu yn 2040 gael eu datrys gan dechnoleg sydd eisoes yn bod. Er hynny, gall fod angen dulliau mwy dyfeisgar erbyn 2060.

  14. 7. Y Farn am Gyfrifoldeb Roedd y bobl ifanc yn ymwybodol o risgiau byw ar yr arfordir ac o’r angen i addasu, ond roedden nhw o’r farn bod y llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol wedi rhoi caniatâd i gartrefi gael eu codi mewn mannau sy’n agored i risg, ac felly y dylen nhw dderbyn rhan o’r cyfrifoldeb a rhoi cymorth ar ffurf ariannol a thechnegol i helpu cymunedau unigol i addasu. Gan fod addasu at effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cael ei weld fel problem genedlaethol, awgrymodd rhai o’r bobl ifanc sefydlu cronfa ganolog a allai gael eu dyrannu i gynghorau lleol i ddatblygu adnoddau ymarferol a rhaglenni addysg. Pobl Ifanc yn Trafod Opsiynau ar gyfer Anheddu yn 2080 Y PWYNT ALLWEDDOL: Barn y bobl ifanc yw y dylai’r cyfrifoldeb dros addasu at y risgiau y mae newid yn yr hinsawdd yn eu creu gael ei rannu rhwng unigolion, cymunedau a’r llywodraeth.

  15. 8. Casgliadau • Mae’r gweithdai a gynhaliwyd fel rhan o brosiect YoCCo yr Oleufa wedi bod yn gyfle gwerthfawr i gasglu safbwyntiau rhychwant eang o bobl ifanc yng Nghymru am newid yn yr hinsawdd ac addasu ato. Cipolwg o’r safbwyntiau hynny sydd yn y ddogfen hon. Yn benodol: • Barn y bobl ifanc yw y dylai’r cyfrifoldeb dros addasu at y risgiau y mae newid yn yr hinsawdd yn eu creu gael ei rannu rhwng unigolion, cymunedau a’r llywodraeth. • Bernir mai llifogydd ar yr arfordir ac ar y tir yw’r risg fwyaf arwyddocaol i systemau cludiant Cymru. • Mae tarfu ar y cyflenwad pŵer yn peri pryder penodol. • Gallai anawsterau anheddu yn 2040 gael eu datrys gan dechnoleg sydd eisoes yn bod. Er hynny, mae’n debyg y bydd angen dulliau mwy dyfeisgar erbyn 2060. • Roedd y bobl ifanc a fu’n cymryd rhan yn y gweithdai yn frwdfrydig ac yn rhoi ymatebion pwyllog. Yn ddiddorol iawn, doedd yr ymatebion i “Beth wnewch chi’n wahanol yn y dyfodol?” ddim yn canolbwyntio ar opsiynau ar gyfer addasu, fel y bwriadwyd, ond yn hytrach ar ymdrechion lliniaru megis defnyddio llai o egni, ailgylchu ac ati. Mae angen rhoi pwyslais ychwanegol ar addysgu pobl ifanc a’u paratoi i addasu at hinsawdd sy’n newid. • Y casgliad yw bod gan bobl ifanc lawer i’w gyfrannu o ran syniadau a mynd ati i’w rhoi ar waith. Mater i Lywodraeth Cymru bellach yw gwrando ar eu neges a’u cynnwys nhw ymhellach wrth benderfynu ar eu dyfodol. • Y PWYNTIAU ALLWEDDOL: • - Mae angen rhoi mwy o bwyslais ar addysgu pobl ifanc a’u paratoi nhw i addasu at hinsawdd sy’n newid. • Mae gan bobl ifanc lawer i’w gyfrannu o ran syniadau a mynd ati i’w rhoi ar waith. Mater i Lywodraeth Cymru bellach yw gwrando ar eu neges, ymwneud â nhw ac ymateb gan eu cynnwys nhw ymhellach wrth benderfynu ar eu dyfodol.

  16. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Y Dr Rhoda Ballinger (BallingerRC@caerdydd.ac.uk) Y Dr Jeanette Reis (ReisJ@caerdydd.ac.uk) Tara Thrupp (ThruppT@caerdydd.ac.uk) Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, Prifysgol Caerdydd, Y Prif Adeilad, Plas y Parc, Caerdydd CF10 3YE. Gwefan y prosiect http://www.severnestuary.net/yocco/index.html

More Related