1 / 8

Ymasiad Niwclear Rheoledig Y prosiect JET

Egni Niwclear. Ymasiad Niwclear Rheoledig Y prosiect JET. JET (Joint European Torus). Cliciwch ar y rhannau o'r JET a danlinellir am ragor o wybodaeth a defnyddiwch hyn i lenwi'r map cysyniad yn eich taflenni. Plasma. Stêm i'r tyrbinau. Torws. Pwmp. Cynhwysydd. Dŵr o'r tyrbinau.

erna
Download Presentation

Ymasiad Niwclear Rheoledig Y prosiect JET

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Egni Niwclear Ymasiad Niwclear Rheoledig Y prosiect JET

  2. JET (Joint European Torus) Cliciwch ar y rhannau o'r JET a danlinellir am ragor o wybodaeth a defnyddiwch hyn i lenwi'r map cysyniad yn eich taflenni. Plasma Stêm i'r tyrbinau Torws Pwmp Cynhwysydd Dŵr o'r tyrbinau Blanced

  3. Plasma Cyflwr mater penodol yw hwn ble caiff electronau eu stripio oddi ar yr atomau. Yn y cyflwr hwn, mae'r mater wedi'i wneud o niwclysau yn unig, felly mae'r plasma wedi'i wefru'n bositif. Felly, mae'n gallu cario cerrynt trydan. Mewn adweithyddion D-T caiff cerrynt anferth (106 A) ei basio drwy'r plasma i roi'r egni cychwynnol i ddechrau'r adwaith ymasiad trwy gynhesu'r plasma i 108 K. Mae tymereddau uchel o’r fath yn digwydd yn naturiol yn yr Haul a sêr eraill, ble mae'r egni a ddarperir i'r electronau yn yr atomau yn rhy uchel i'r grymoedd electrostatig o'r protonau yn y niwclews ddal gafael ynddynt.

  4. Blanced lithiwm Mae'r Lithiwm yn y flanced yn cael ei beledu'n barhaus gan y niwtronau a gynhyrchir yn yr adwaith ymasiad. Mae hyn yn achosi adwaith niwclear arall lle mae’r niwclysau Lithiwm yn eu had-drefnu eu hunain yn niwclysau He a Tritiwm. Wedyn, maen nhw’n cael eu casglu yn y craidd i ffurfio rhan o'r plasma. Yn fuan wedyn, caiff y niwclysau He (gronynnau alffa) eu stopio gan y cynhwysydd concrit ac yn ddiweddarach maen nhw'n ennill electronau, gan ddod yn atomau Heliwm. Felly, yr unig gynnyrch gwastraff mewn adweithydd D-T yw Heliwm. Mae'r peledu cyson a'r agosrwydd at y plasma poeth yn cynyddu tymheredd y flanced i tua103 K.

  5. Cynhwysydd Haen drwchus o goncrit yw'r cynhwysydd sy'n amgylchynu'r flanced a chraidd yr adweithydd. Mae'r haen hon yn atal y niwtronau a gynhyrchir yn yr adwaith ymasiad rhag dianc o du mewn yr adweithydd a niweidio'r staff sy'n gweithredu'r peiriannau.

  6. Torws Mae'r torws ar ffurf toesen ac fe’i lluniwyd i gynnwys y plasma mewn gofod cyfyngedig, fel na fyddai'r niwclysau dewteriwm a thritiwm yn dianc o'r craidd ac fel na fyddai'r gwres tanbaid yn effeithio ar rannau eraill yr adweithydd. Cyflawnir hyn drwy linellau maes magnetig cryf a chymhleth o gwmpas y torws sy'n gorfodi'r plasma i ddilyn dolen gaeedig. Mae'r gronynnau plasma'n troelli o gwmpas y llinellau maes ac yn gwrthdaro â’i gilydd. Mae'n rhaid atal y plasma rhag cyffwrdd â'r cynhwysydd dur neu fe fyddai'n colli ei egni.

  7. JET (Joint European Torus) Mae'r gronynnau plasma'n aros yn y craidd ac mae'r adwaith yn parhau Cyflawnir drwy gerrynt anferth (106 A) Tymheredd 108 K Yn gallu cario cerrynt Yn gorfodi'r plasma i ddilyn llwybr cymhleth EC uchel i electronau  yn dianc o'r niwclews Cyfyngiad Niwclysau D a T gyda'u helectronau wedi'u stripio Plasma Wedi'i amgylchynu gan feysydd magnetig cryf Stêm i'r tyrbinau Siâp toesen Torws Pwmp Yn ymgasglu yn y craidd Cynhwysydd Yn atal niwtronau rhag cyrraedd y staff Tritiwm Dŵr o'r tyrbinau Blanced Yn newid i Concrit Tymheredd 103 K Lithiwm Rhyddheir niwtronau yn yr adwaith ymasiad

  8. Defnyddiwch y grid isod i gymharu adweithydd ymholltiad ac adweithydd ymasiad

More Related