1 / 6

Egni Niwclear

Egni Niwclear. Egni Clymu. Defnyddir y term egni clymu i ddangos yr egni y byddai ei angen i ffurfio atom o brotonau, electronau a niwtronau ar wahân. Yr egni clymu felly yw'r gwaith y byddai angen ei wneud i wahanu'r atom i'w ronynnau unigol. Noder

afi
Download Presentation

Egni Niwclear

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Egni Niwclear

  2. Egni Clymu Defnyddir y term egni clymu i ddangos yr egni y byddai ei angen i ffurfio atom o brotonau, electronau a niwtronau ar wahân. Yr egni clymu felly yw'r gwaith y byddai angen ei wneud i wahanu'r atom i'w ronynnau unigol. Noder Nid yr egni sy'n dal yr atom at ei gilydd yw egni clymu. Felly pan gaiff atom ei ffurfio, mae niwtronau a phrotonau'n syrthio i mewn i ffynnon botensial niwclear y niwclews ac mae eu hegni potensial (EP) yn lleihau hefyd. Os tybiwn bod yr EP yn sero pan gânt eu gwahanu, mae eu EP yn lleihau i werth negatif. Ar gyfer pob isotop, gellir cyfrifo'r egni clymu fesul niwcleon trwy rannu cywerthedd egni y diffyg màs gyda'r nifer o niwcleonau.

  3. Cromlin Egni Clymu Cysylltwch y disgrifiad cywir gyda saeth ar y man cywir ar y graff. Os gellir uno'r atomau hyn â'i gilydd i ffurfio atomau trymach, mae'r diffyg màs yn cynyddu, felly mae egni’n cael ei ryddhau Os caiff yr atomau hyn eu hollti'n ddwy ran sydd bron yn unfaint, rhyddheir egni ac eto mae'r diffyg màs yn cynyddu Mae unrhyw newid yn yr adeiledd niwclear sy'n achosi symudiad tuag at y pwynt hwn yn arwain at egni’n cael ei ryddhau. Yn wir, ceir cymaint o'r elfen hon yn y bydysawd oherwydd bod ganddi’r diffyg màs uchaf

  4. Egni Clymu (E.C.) • Mae'r graff blaenorol yn dweud wrthym mai: • Yr E.C. mwyaf fesul niwcleon yw tua A = 50 (Fe). Yn y parth hwn, bydd y niwclysau'n fwy sefydlog am fod ganddynt fwy o E.C. fesul niwcleon, sy'n golygu bod angen mwy o egni i godi niwcleon o ffynnon botensial y niwclews (sydd ar ei dyfnaf). • Ar y naill ochr a'r llall o'r E.C. mwyaf fesul niwcleon, mae'r niwclysau'n llai sefydlog oherwydd bod ganddynt lai o E.C. fesul niwcleon, sy'n golygu ei bod yn haws gwahanu'r niwclews i’w niwcleonau cyfansoddol, h.y. nid yw'r niwcleonau wedi'u clymu'n mor dynn wrth ei gilydd ag ar y pwynt uchaf

  5. Egni Clymu (parhad) • Pan fod niwclews mawr yn ymddatod, mae pob niwcleon yn dod yn aelod o niwclews llai, felly mae’r E.C. fesul niwcleon yn cynyddu. Mae'r ymddatodiad hwn wedi creu ffynnon botensial ddyfnach; mae'r niwcleonau'n gostwng ymhellach hyd yn oed, fel bod eu E.C. yn cynyddu. Rhyddheir yr EP a gollir, h.y. y cynnydd mewn E.C., fel egni cinetig (EC) niwclysau'r cynnyrch. Mae ymholltiad yn digwydd pan fod y niwclews gwreiddiol yn hollti'n ddau hanner sydd mwy neu lai’n unfaint. Mae ymddatodiad ymbelydrol yn digwydd pan fod y niwclews gwreiddiol yn colli gronyn α, β, neu γ. Pan fod yr allyriadau hyn yn digwydd mae'r niwclews yn mynd yn ysgafnach nag o'r blaen, fel bod y E.C. fesul niwcleon yn cynyddu ac mae'r niwclews yn fwy sefydlog. • Mae ymasiad yn digwydd pan fod niwclysau ysgafn yn uno â'i gilydd. Pan fod gan niwclews y cynnyrch A < 50, mae'r E.C. fesul niwcleon yn cael ei gynyddu drwy'r broses ymasiad ac fe gaiff egni ei ryddhau.

More Related