1 / 35

TGAU Hamdden a Thwristiaeth

TGAU Hamdden a Thwristiaeth. Cyflwyniad i Hamdden a Thwristiaeth Uned 3. DALIER SYLW: Mae angen i osodiad diogelwch macro eich rhaglen PowerPoint fod ar ‘canolig’ er mwyn gallu cael y gweithgareddau Llusgo a Gollwng i weithio. Cliciwch flwch i ddewis gweithgaredd

dwight
Download Presentation

TGAU Hamdden a Thwristiaeth

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. TGAU Hamdden a Thwristiaeth Cyflwyniad i Hamdden a Thwristiaeth Uned 3 DALIER SYLW: Mae angen i osodiad diogelwch macro eich rhaglen PowerPoint fod ar ‘canolig’ er mwyn gallu cael y gweithgareddau Llusgo a Gollwng i weithio.

  2. Cliciwch flwch i ddewis gweithgaredd (Mae ymyl coch i’r blwch yn dangos fod y gweithgaredd yn un rhyngweithiol). Gweithgareddau 13 1 7 19 25 2 20 8 26 14 3 21 15 9 27 16 10 4 22 28 5 11 23 17 29 6 12 18 24

  3. Gweithgaredd 1 Defnyddiwch y wybodaeth ar dudalennau 123 i 126 o’r E-lyfr ar gyfer Uned 1 i gwblhau’r ymarferiad isod drwy lusgo’r gair neu’r ymadrodd cywir o’r bocs i’r tabl. Cliciwch a llusgwch yr atebion yma i’r blychau priodol ar y graff uchod buddran sector gwirfoddol sector cyhoeddus y gymuned elw ffioedd aelodaeth rhoddion sefydliadau masnachol Loteri Genedlaethol amcan

  4. Gweithgaredd 2 Mae’n bwysig eich bod chi’n deall sut mae sefydliadau hamdden a thwristiaeth yn eich ardal chi yn gweithredu fel busnes. Efallai y gallwch chi ymweld â nifer o sefydliadau hamdden a thwristiaeth neu wneud ymchwil desg gan ddefnyddio’r rhyngrwyd i ddysgu sut maen nhw'n gweithredu. Ar gyfer amrywiaeth o fusnesau hamdden a thwristiaeth yn eich ardal, chwiliwch: • Ym mha sector o’r diwydiant maen nhw’n gweithredu - cyhoeddus, preifat neu wirfoddol? • Beth yw amcanion y sefydliad? • Beth yw’r strwythur cyflogaeth - faint o reolwyr a gweithwyr cyflogedig eraill sydd yno? Beth yw teitl swydd y person sydd â’r prif gyfrifoldeb? • Sut mae’r sefydliad yn cael ei ariannu? Gall fod yn haws cael y wybodaeth hon am fusnes lleol yn hytrach na busnesau cenedlaethol neu ryngwladol hyd yn oed. Fel arfer, gwnewch restr o’r ffynonellaugwybodaeth rydych chi wedi’u defnyddio.

  5. Gweithgaredd 3 • Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn enghraifft dda o sefydliad sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol ac yn gwerthu amrywiaeth o gynhyrchion. • Ewch i’r wefan www.nationaltrust.org.uk Defnyddiwch y ddolen ‘about us’ ar yr hafan i ddysgu am amcanion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ewch ati i grynhoi’r amcanion hyn neu baratoi cyflwyniad am waith yr ymddiriedolaeth. • 2. Cliciwch ar y ddolen ‘shop’ i weld pa gynhyrchion sy’n cael eu gwerthu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Crynhowch yr amrywiaeth o gynhyrchion sydd ar gael. • Y ‘Cwestiwn Mawr’ yw: • Pam ei bod hi’n bwysig i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gynyddu’r incwm drwy werthu cynhyrchion i ymwelwyr?

  6. Gweithgaredd 4 • Meddyliwch am y sefydliadau hamdden a thwristiaeth yn yr ardal lle rydych chi’n byw. Nodwch bump sy’n gweithredu’n bennaf ar lefel leol, pump sy’n gweithredu’n bennaf ar lefel genedlaethol a phump sy’n gweithredu ar lefel ryngwladol. • Nodwch pam a sut y gall pob sefydliad weithredu ar raddfeydd gwahanol. • Gweithiwch gyda phartner i nodi pum peth rydych chi wedi’u dysgu am sut mae sefydliadau hamdden a thwristiaeth gwahanol yn gweithredu ar raddfeydd gwahanol. (Ymarferiad meddwl, paru a rhannu.)

  7. Gweithgaredd 5 Trwy glicio’r bocsys gwyrdd ar ochr dde y tabl, dangoswch a yw’r datganiadau canlynol ynglŷn â gwaith a swyddogaethau adrannau gwahanol yn gywir neu’n anghywir. CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR CYWIR ANGHYWIR

  8. Gweithgaredd 6 Mae system fodern Canolfan Mileniwm Cymru yn golygu bod cwsmeriaid yn gallu archebu a thalu am docynnau ar-lein. Ewch i www.wmc.org.uk Dewiswch gynhyrchiad sy’n cael ei gynnal yn y dyfodol agos ac ewch drwy’r broses o archebu un sedd neu ddwy ar gyfer y digwyddiad. Eglurwch y broses archebu i’ch partner.

  9. Gweithgaredd 7 Hyfforddwr tîm pêl-droed i fechgyn Hyfforddwr nofio sy’n gweithio gyda’r nos Nodwch ym mha flwch yn y tabl isod mae’r swyddi yn perthyn. Gyrrwr trên Trefnwr teithiau sy’n gweithio tri diwrnod yr wythnos Rheolwr teithio i grŵp roc Hyfforddwr personol sy’n ymweld â chwsmeriaid Gweinydd mewn tŷ bwyta Hyfforddwr saethyddiaeth a gyflogir ar gyfer rhaglen gweithgarwch yr haf Peilot awyren Rhywun sy’n helpu yn un o adeiladau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Rheolwr gwesty Cynrychiolydd sy’n gweithio mewn canolfan sgïo

  10. Gweithgaredd 8 Mae yna fanteision ac anfanteision wrth weithio gyda’r nos neu ar benwythnos. Hefyd, mae’n well gan rai pobl weithio shifftiau ac mae eraill yn hapus i dreulio amser oddi cartref fel rhan o’u gwaith. Nodwch y pethau da (manteision) a’r pethau drwg (anfanteision) am swyddi nad ydynt yn rhai ‘9 tan 5’. PETHAU DA PETHAU DRWG

  11. Gweithgaredd 9 Darllenwch y darn isod a llenwch y bylchau gan ddefnyddio’r geiriau yn y bocs ar waelod y dudalen. Buan iawn y sylweddolodd Jill fod strwythur y canolfannau hamdden mawr ble roedd hi newydd ddechrau gweithio yn gymhleth iawn. Roedd y Rheolwr Cyffredinol yn cyfarfod â phedwar uwch-reolwr arall i wneud penderfyniadau strategol . Hwn oedd y tîm uwch-reoli . Roedd y rheolwr cyffredinol yn gyfrifol am bron i 100 o bobl a oedd yn gweithio yn y ganolfan. Dyma oedd ei rychwant rheoli ef. Roedd gan yr uwch-reolwyr yr awdurdod i wneud y penderfyniadau pwysicaf. Ei rheolwr uniongyrchol/ rheolwr llinell oedd Matthew. Roedd e’n gyfrifol am wasanaeth i gwsmeriaid yn y ganolfan hamdden. Roedd yr adran hon neu’r maes swyddogaethol hwn yn bwysig iawn. Eglurodd Matthew i Jill fod ganddi’r hawl i wneud llawer o benderfyniadau ei hun. Eglurodd fod rhoi grym (empowerment) i staff yn bwysig iawn i’r ganolfan. Dywedodd Matthew ei fod yn hapus i drosglwyddo penderfyniadau, neu ddirprwyo cyfrifoldeb iddi hi. awdurdod rhychwant rheoli maes swyddogaethol rheolwr llinell strategol tîm uwch-reoli rhoi grym dirprwyo

  12. Gweithgaredd 10 Meddyliwch am sefydliad hamdden neu dwristiaeth rydych wedi’i astudio, a llenwch y tabl isod gan enwi 6 swydd, rhoi disgrifiad cryno o’r swydd a nodi os mai rheolwr, goruchwyliwr neu weithredwr sy’n gwneud y swydd. Enw’r sefydliad

  13. Gweithgaredd 11 Ar gyfer pob un o’r sefyllfaoedd isod, nodwch y sgil mwyaf priodol a llusgwch y gair i’r bocs cywir. sgiliau cyfathrebu sgiliau technegol hyblygrwydd a gallu i addasu sgiliau rhyngbersonnol arwain a rheoli gwaith tîm sensitifrwydd amlddiwylliannol sgiliau dadansoddi datrys problemau cynllunio a threfnu

  14. Gonestrwydd a bod yn Ddidwyll Y Gallu i Addasu a Hyblygrwydd Dangos/cuddio’r daflen wybodaeth Gweithgaredd 12 Ar gyfer pob un o’r rhinweddau a restrir ar y dudalen wybodaeth, ysgrifennwch am sefyllfa yn y diwydiannau hamdden a thwristiaeth lle byddai’r rhinwedd yn bwysig.

  15. Ymroddiad a Gwaith Caled Dibynadwy Dangos/cuddio’r daflen wybodaeth Gweithgaredd 12 Ar gyfer pob un o’r rhinweddau a restrir ar y dudalen wybodaeth, ysgrifennwch am sefyllfa yn y diwydiannau hamdden a thwristiaeth lle byddai’r rhinwedd yn bwysig.

  16. Teyrngarwch Agwedd a Chymhelliant Cadarnhaol Dangos/cuddio’r daflen wybodaeth Gweithgaredd 12 Ar gyfer pob un o’r rhinweddau a restrir ar y dudalen wybodaeth, ysgrifennwch am sefyllfa yn y diwydiannau hamdden a thwristiaeth lle byddai’r rhinwedd yn bwysig.

  17. Proffesiynoldeb Hunanhyder Dangos/cuddio’r daflen wybodaeth Gweithgaredd 12 Ar gyfer pob un o’r rhinweddau a restrir ar y dudalen wybodaeth, ysgrifennwch am sefyllfa yn y diwydiannau hamdden a thwristiaeth lle byddai’r rhinwedd yn bwysig.

  18. Parodrwydd i ddysgu Hunan-gymhelliant Dangos/cuddio’r daflen wybodaeth Gweithgaredd 12 Ar gyfer pob un o’r rhinweddau a restrir ar y dudalen wybodaeth, ysgrifennwch am sefyllfa yn y diwydiannau hamdden a thwristiaeth lle byddai’r rhinwedd yn bwysig.

  19. Dangos/ cuddio’r daflen wybodaeth Gweithgaredd 13 Ysgrifennwch lythyr yn egluro pam eich bod yn ymgeisydaddas ar gyfer y swydd hon, gan gyfeirio at y sgiliau a’r rhinweddau ar y daflen wybodaeth.

  20. Gweithgaredd 14 Mae parciau thema yn enghraifft amlwg o sefydliadau hamdden a thwristiaeth mawr sy’n darparu amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau. Defnyddiwch y wefan www.legoland.co.uk i nodi a disgrifio pob un o’r cynhyrchion a/neu’r gwasanaethau yn y lluniau isod.

  21. Gweithgaredd 15 Defnyddiwch wefannau a ffynonellau gwybodaeth eraill i lunio crynodeb o’r cynhyrchion a’r gwasanaethau a ddarperir gan brif atyniad neu gyfleuster hamdden yn eich ardal chi. Enw’r atyniad:

  22. Gweithgaredd 16 Meddyliwch am dair eitem a ddefnyddiwch ar gyfer hamdden yn y cartref. Nodwch beth ydynt a sut rydych chi’n eu defnyddio. Eitem 1: Eitem 2: Eitem 3:

  23. Gweithgaredd 17 Llusgwch y term cywir i’r bocs sy’n cyfateb i’r disgrifiad/eglurhad. Arolygon ffôn Segmentu ar sail oedran Arolygon Datblygu cynhyrchion Marchnata Cynhyrchion anghyffyrddadwy Hysbysu cwsmeriaid Segmentu daearyddol Grŵp ethnig Ffordd o fyw Casglu a dadansoddi data

  24. Gweithgaredd 18 Ar gyfer pob un o’r datganiadau isod, ysgrifennwch ddwy frawddeg arall am y pwnc. Mae arolygon yn ddull cyffredin o gasglu gwybodaeth ar gyfer ymchwil marchnata. Mae’n bosibl segmentu marchnad mewn sawl ffordd. Mae marchnata yn broses eang sy’n cynnwys sawl cam. Mae marchnata yn ymwneud â pherswadio cwsmeriaid i brynu cynnyrch.

  25. Gweithgaredd 19 Defnyddiwch wefannau sefydliadau hamdden a thwristiaeth mawr i fewnforio delweddau neu logos i’r bocsys isod.

  26. Gweithgaredd 20 Ymchwiliwch i bedwar sefydliad hamdden a thwristiaeth gwahanol sy’n cynnig amrywiaeth o gynhyrchion. Llenwch y tabl isod drwy ddangos y prisiau a godir gan y sefydliadau ar gyfer pedwar cynnyrch gwahanol.

  27. 1 6 2 7 3 8 4 9 5 10 Gweithgaredd 21 Meddyliwch am 10 ffaith rydych chi wedi’u dysgu am y Cymysgedd Marchnata yn yr adran hon ac ysgrifennwch frawddeg fer am bob un.

  28. Gweithgaredd 22 Casglwch amrywiaeth o hysbysebion ar gyfer cynhyrchion hamdden a thwristiaeth sy’n cael eu defnyddio i hyrwyddo gwerthiant. Awgrymwch pam y byddant yn llwyddo i helpu i werthu’r cynnyrch.

  29. Gweithgaredd 23 Casglwch bedair enghraifft o ddeunydd hyrwyddo o sefydliadau hamdden a thwristiaeth gwahanol, gan gynnwys un wefan. Defnyddiwch AIDA i nodi pam y mae pob un yn effeithiol. Os yw’n bosibl, awgrymwch sut y gellid gwella pob un o’r deunyddiau.

  30. Gweithgaredd 24 Cynlluniwch daflen ar gyfer digwyddiad mewn atyniad yn eich ardal chi. Eglurwch pam y bydd y deunydd hyrwyddo yn effeithiol yn eich barn chi. Gallwch werthuso’ch deunydd drwy ddefnyddio AIDA.

  31. Gweithgaredd 25 Defnyddiwch y tabl isod i lunio dadansoddiad SWOT ar gyfer sefydliad hamdden a thwristiaeth sy’n gyfarwydd i chi. Enw’r sefydliad:

  32. Gweithgaredd 26 Rhowch saith cam y broses werthu yn y drefn gywir. Gwybodaeth dda am y cynnyrch Iaith gorfforol dda Gwasanaeth ôl-werthu Meithrin perthynas Derbyn a phrosesu’r taliad Cyfarchiad dymunol Taro bargen

  33. Gweithgaredd 27 Ar gyfer sefydliad hamdden a thwristiaeth rydych wedi’i astudio, llenwch y tabl isod ag enghreifftiau o sefyllfaoedd gwasanaeth i gwsmeriaid a allai godi. Enw’r sefydliad:

  34. Gweithgaredd 28 Gweithiwch gyda phartner. Meddyliwch am ddwy sefyllfa lle rydych chi, neu’ch teulu, wedi derbyn gwasanaeth i gwsmeriaid da neu wael. Dywedwch wrth eich partner am eich dwy enghraifft a gwrandewch ar enghreifftiau’ch partner. Dewiswch yr enghraifft orau o’r pedair a’i rhannu gyda gweddill eich dosbarth.

  35. Gweithgaredd 29 Llusgwch y termau cywir i’r rhannau cywir o’r tabl. Deddfau a Rheoliadau Deddf Diogelwch Meysydd Chwarae Perygl Risg Dyletswydd gofal Codau Ymarfer Terasau Mesurau Iechyd a Diogelwch Deddf Trwyddedu Gweithgareddau Antur Symud pobl o le peryglus i le diogel

More Related