1 / 4

TGAU ECONOMEG Y CARTREF

TGAU ECONOMEG Y CARTREF. TGAU Datblygiad y Plentyn Gwybodaeth Bwnc.

Download Presentation

TGAU ECONOMEG Y CARTREF

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. TGAU ECONOMEG Y CARTREF TGAU Datblygiad y Plentyn Gwybodaeth Bwnc • Mae’r cwrs hwn yn angenrheidiol i unrhyw un sy’n gwybod y byddent yn hoffi gweithio gyda phlant neu i’r rheiny sydd eisiau dysgu am deuluoedd, beichiogrwydd a sut mae plentyn yn datblygu – yn gorfforol, yn gymdeithasol, yn emosiynol ac yn ddeallusol hyd at 5 mlwydd oed. • Mae 6 prif faes astudio: • Adran 1 – Y Teulu a’r Plentyn • Adran 2 – Bwyd a Iechyd • Adran 3 – Beichiogrwydd • Adran 4 – Datblygiad Corfforol • Adran 5 – Datblygiad Deallusol • Adran 6 – Datblygiad Cymdeithasol ac Emosiynol • Mae cysylltiad â phlant ifanc yn hanfodol

  2. TGAU Datblygiad y Plentyn Gwybodaeth Bwnc CRYNODEB O’R ASESIAD

  3. TGAU Datblygiad y Plentyn Gwybodaeth Bwnc Gellir cael y wybodaeth ofynnol trwy gwblhau llyfrynnau gwaith, Gweithgareddau chwarae rôl e.e. trafod gyda ffrind peryglon ysmygu yn ystod beichiogrwydd; Gemau e.e. bingo, dominos, datganiadau cywir neu anghywir; Gwylio fideos e.e. Teenage Mums a Gwaith Ymarferol e.e. paratoi prydau bwyd addas ar gyfer gwraig feichiog. Gellir hefyd defnyddio siaradwyr gwadd i gyflwyno materion sensitif megis Moesoldeb, Cynllunio Teulu ac Erthyliad. LLWYBR AWGRYMEDIG TRWY’R FANYLEB BLWYDDYN 10 – Tymor 1 (tua 30/35 gwers) Awgrymir cymryd gwaith o feysydd astudio craidd 3 a 4 gan mwyaf. Ar ddiwedd y tymor, cyflwyniad sylfaenol i’r datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol a chymdeithasol, h.y. meysydd craidd 4, 5 a 6. Mae hwn i baratoi ar gyfer cychwyn ar Uned 2, yr asesiad dan reolaeth ym mis Ionawr. Blwyddyn 10 – Tymor 2 (tua 30 gwers) Dylid cymryd gwaith y tymor hwn o feysydd astudio 4, 5 a 6 gan bydd y rhain yn cefnogi Uned 2, y dasg dan reolaeth. Bydd angen cydblethu’r addysgu â rhywfaint o’r 15 awr dan reolaeth sydd yn rhaid eu treulio ar Uned 2 y dasg dan reolaeth. Bydd angen amser ar yr ymgeiswyr rhwng y sesiynau dan oruchwyliaeth fel y bod modd iddynt gasglu gwybodaeth a chwblhau arsylwadau o’u hastudiaeth.

  4. TGAU Datblygiad y Plentyn Gwybodaeth Bwnc Blwyddyn 10 – Tymor 3 (tua 28 gwers) Bydd gwaith y tymor hwn yn canolbwyntio ar faes astudio 2 – Bywd a Iechyd a’r gweddill yn oriau tasg dan reolaeth Uned 2. Blwyddyn 11 – Tymor 1 (tua 30/35 gwers) Bydd gwaith y tymor hwn yn canolbwyntio ar y maes astudio cyntaf – Y Teulu a’r Plentyn. Bydd angen cyflwyno Uned 3 a dylid rhoi arweiniad i ymgeiswyr o ran y dull cwblhau ym mis Ionawr. Blwyddyn 11 – Tymor 2 (tua 30 gwers) Bydd gwaith y tymor hwn yn cwblhau testunau o faes astudio 1 a bydd yr ymgeiswyr yn cwblhau asesiad dan reolaeth Uned 3, 15 awr. Bydd gweddill y gwersi y tymor hwn ar gyfer cwblhau testunau, adolygu a chwblhau papurau arholiad enghreifftiol. Llwybrau dilyniant i Astudio Pellach: UG/U2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol U/UG Seicoleg / Cymdeithaseg BTEC Cyrsiau gofalu Llwybrau dilyniant i Yrfa a Chyflogaeth: Nyrs Feithrin, Arweinydd Cylch Chwarae, Nani, Athro/Athrawes, Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu, Nyrs Paediatreg. Cyfuniadau pwnc: Gwyddoniaeth – elfen fiolegol, TG ar gyfer cynhyrchu gwaith cwrs, Technoleg (tecstilau neu ddefnyddiau gwrthiannol), Lletygarwch ac Arlwyo – ar gyfer sgiliau ymarferol, asesiad dan reolaeth a Maeth.

More Related