1 / 66

Luc 24:48

“Chwi yw’r tystion i’r pethau hyn”. Luc 24:48. Galwad i Addoli. Arweinydd: Y mae fy llygaid wedi gweld dy iachawdwriaeth, a ddarperaist yng ngŵydd yr holl bobloedd. Pawb: Goleuni i fod yn ddatguddiad i'r Cenhedloedd ac yn ogoniant i'th bobl Israel. Y Newyddion wrth y Bedd Gwag.

Download Presentation

Luc 24:48

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. “Chwi yw’r tystion i’r pethau hyn” Luc 24:48

  2. Galwad i Addoli Arweinydd:Y mae fy llygaid wedi gweld dy iachawdwriaeth, a ddarperaist yng ngŵydd yr holl bobloedd. Pawb:Goleuni i fod yn ddatguddiad i'r Cenhedloedd ac yn ogoniant i'th bobl Israel.

  3. Y Newyddion wrth y Bedd Gwag

  4. Efengyl yr Ymgynnull:Luc 24: 1 - 12

  5. Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, ar doriad gwawr, daethant at y bedd gan ddwyn y peraroglau yr oeddent wedi eu paratoi.Cawsant y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd oddi wrth y bedd, ond pan aethant i mewn ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu. Yna, a hwythau mewn penbleth ynglŷn â hyn, dyma ddau ddyn yn ymddangos iddynt mewn gwisgoedd llachar. Daeth ofn arnynt, a phlygasant eu hwynebau tua'r ddaear. Meddai'r dynion wrthynt, "Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy'n fyw?

  6. Nid yw ef yma; y mae wedi ei gyfodi. Cofiwch fel y llefarodd wrthych tra oedd eto yng Ngalilea, gan ddweud ei bod yn rhaid i Fab y Dyn gael ei draddodi i ddwylo pechaduriaid, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd atgyfodi.” A daeth ei eiriau ef i'w cof.

  7. Dychwelsant o'r bedd, ac adrodd yr holl bethau hyn wrth yr un ar ddeg ac wrth y lleill i gyd. Mair Magdalen a Joanna a Mair mam Iago oedd y gwragedd hyn; a'r un pethau a ddywedodd y gwragedd eraill hefyd, oedd gyda hwy, wrth yr apostolion. Ond i'w tyb hwy, lol oedd yr hanesion hyn, a gwrthodasant gredu'r gwragedd.Ond cododd Pedr a rhedeg at y bedd; plygodd i edrych, ac ni welodd ddim ond y llieiniau. Ac aeth ymaith, gan ryfeddu wrtho'i hun at yr hyn oedd wedi digwydd.

  8. Dyma Efengyl Crist.Moliant am wawrio dy wirionedd.

  9. Canwn gyda’n gilyddCân o fawl am yr atgyfodiad

  10. Croeso a chyflwyno’r thema‘Chwi yw’r tystion i’r pethau hyn ...’

  11. Gweddi agoriadol o werthfawrogiad am bresenoldeb DuwGweddïwn am fod yn barod i gael ein galw gan Sanctaidd Air Duw. Hollalluog Dduw, a roddaist y fath ras i’th apostol Sant Andreas fel yr ufuddhaodd ar unwaith i alwad dy Fab Iesu Grist a dod â’i frawd gydag ef:

  12. galw ni trwy dy air sanctaidd, a dyro inni ras i’th ddilyn yn ddi-oed a chyhoeddi newyddion da dy deyrnas; trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi, yn undod yr Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr a byth. Amen.

  13. II: Stori’r Ffordd i Emaus

  14. Darlleniad o’r BeiblLuc 24: 13 - 24

  15. Yn awr, yr un dydd, yr oedd dau ohonynt ar eu ffordd i bentref, oddeutu un cilomedr ar ddeg o Jerwsalem, o'r enw Emaus. Yr oeddent yn ymddiddan â'i gilydd am yr holl ddigwyddiadau hyn. Yn ystod yr ymddiddan a'r trafod, nesaodd Iesu ei hun atynt a dechrau cerdded gyda hwy,ond rhwystrwyd eu llygaid rhag ei adnabod ef.

  16. Meddai wrthynt, "Beth yw'r sylwadau hyn yr ydych yn eu cyfnewid wrth gerdded?" Safasant hwy, a'u digalondid yn eu hwynebau.Atebodd yr un o'r enw Cleopas, "Rhaid mai ti yw'r unig ymwelydd â Jerwsalem nad yw'n gwybod am y pethau sydd wedi digwydd yno y dyddiau diwethaf hyn." "Pa bethau?" meddai wrthynt.

  17. Atebasant hwythau, "Y pethau sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth, dyn oedd yn broffwyd nerthol ei weithredoedd a'i eiriau yng ngŵydd Duw a'r holl bobl. Traddododd ein prif offeiriaid ac aelodau ein Cyngor ef i'w ddedfrydu i farwolaeth, ac fe'i croeshoeliasant.Ein gobaith ni oedd mai ef oedd yr un oedd yn mynd i brynu Israel i ryddid, ond at hyn oll, heddiw yw'r trydydd dydd er pan ddigwyddodd y pethau hyn.The chief priests and our rulers handed him over to be sentenced to death, and they crucified him; but we had hoped that he was the one who was going to redeem Israel. And what is more, it is the third day since all this took place.

  18. Er hynny, fe'n syfrdanwyd gan rai gwragedd o'n plith; aethant yn y bore bach at y bedd, a methasant gael ei gorff, ond dychwelsant gan daeru eu bod wedi gweld angylion yn ymddangos, a bod y rheini'n dweud ei fod ef yn fyw. Aeth rhai o'n cwmni allan at y bedd, a'i gael yn union fel y dywedodd y gwragedd, ond ni welsant mohono ef."

  19. Myfyrdod

  20. Darlleniad o’r Beibl:Luc 24: 25 - 35

  21. Meddai Iesu wrthynt, "Mor ddiddeall ydych, a mor araf yw eich calonnau i gredu'r cwbl a lefarodd y proffwydi! Onid oedd yn rhaid i'r Meseia ddioddef y pethau hyn, a mynd i mewn i'w ogoniant?" A chan ddechrau gyda Moses a'r holl broffwydi, dehonglodd iddynt y pethau a ysgrifennwyd amdano ef ei hun yn yr holl Ysgrythurau.

  22. Wedi iddynt nesáu at y pentref yr oeddent ar eu ffordd iddo, cymerodd ef arno ei fod yn mynd ymhellach. Ond meddent wrtho, gan bwyso arno, "Aros gyda ni, oherwydd y mae hi'n nosi, a'r dydd yn dirwyn i ben." Yna aeth i mewn i aros gyda hwy.

  23. Wedi cymryd ei le wrth y bwrdd gyda hwy, cymerodd y bara a bendithio, a'i dorri a'i roi iddynt. Agorwyd eu llygaid hwy, ac adnabuasant ef. A diflannodd ef o'u golwg.Meddent wrth ei gilydd, "Onid oedd ein calonnau ar dân ynom wrth iddo siarad â ni ar y ffordd, pan oedd yn egluro'r Ysgrythurau inni?"

  24. Codasant ar unwaith a dychwelyd i Jerwsalem. Cawsant yr un ar ddeg a'u dilynwyr wedi ymgynnull ynghyd ac yn dweud fod yr Arglwydd yn wir wedi ei gyfodi, ac wedi ymddangos i Simon. Adroddasant hwythau yr hanes am eu taith, ac fel yr oeddent wedi ei adnabod ef ar doriad y bara.

  25. Dyma Efengyl Crist.Moliant am wawrio dy wirionedd.

  26. Canwn gyda’n gilydd‘A ddoi di i’m dilyn i?’

  27. A ddoi di i’m dilyn i os galwaf d’enw di?A ddoi di heb wybod mwy pa lwybyr fydd i ti?Wnei di rannu cariad Duw,wnei di ddweud mai cariad yw,wnei di er fy mwyn i fyw yn un – tydi a mi?

  28. Wnei di droi dy gefn ar ddoe os galwaf d’enw nawr?Wnei di garu’r gwan a’r gwael a chladdu y fi-fawr?Wnei di herio pob sarhad,wnei di dderbyn briw a brad,wnei di siarad â dy Dad yn un – tydi a mi?

  29. A fydd deillion eto’n gweld os galw eto wnaf?A fydd caeth yn dod yn rhydd a iechyd i’r rhai claf?Wnei di garu’r unig rai,maddau’r camwedd heb weld bai,heb ddim ymffrost, a dim llaiyn un – tydi a mi?

  30. Wnei di blygu’n wylaidd iawn pan ddaw fy ngalwad i? Wnei di ildio pob rhyw ofn yn ymyl Calfari? Fydd dy ffydd yn mentro byw i gyfannu dynol-ryw, teulu dyn yn deulu Duw, yn un – tydi a mi?

  31. Arglwydd, mae dy alwad daer yn toddi’r galon hon;’does ’na neb ond ti all lenwi’r gwacter sy’n fy mron:dilyn ôI dy droed heb fraw,byw yn ffyddlon, law yn llaw,ddydd i ddydd dy hedd a ddaw wrth im dy ddilyn di.

  32. Anerchiad, Pregeth neu Fyfyrdod‘Dyma’r Efengyl yr ydym yn ei rhannu.’

  33. Chwi yw’r Tystion

  34. Darlleniad o’r BeiblLuc 24: 36 - 44

  35. Wrth iddynt ddweud hyn, ymddangosodd ef yn eu plith, ac meddai wrthynt, “Tangnefedd i chwi.” Yn eu dychryn a'u hofn, yr oeddent yn tybied eu bod yn gweld ysbryd. Gofynnodd iddynt, "Pam yr ydych wedi cynhyrfu? Pam y mae amheuon yn codi yn eich meddyliau?Gwelwch fy nwylo a'm traed; myfi yw, myfi fy hun. Cyffyrddwch â mi a gwelwch, oherwydd nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn fel y canfyddwch fod gennyf fi."

  36. Wrth ddweud hyn dangosodd iddynt ei ddwylo a'i draed. A chan eu bod yn eu llawenydd yn dal i wrthod credu ac yn rhyfeddu, meddai wrthynt, “A oes gennych rywbeth i'w fwyta yma?” Rhoesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio.Cymerodd ef, a bwyta yn eu gŵydd. Dywedodd wrthynt, "Dyma ystyr fy ngeiriau a leferais wrthych pan oeddwn eto gyda chwi: ei bod yn rhaid i bob peth gael ei gyflawni sy'n ysgrifenedig amdanaf yng Nghyfraith Moses a'r proffwydi a'r salmau."

  37. Yna agorodd eu meddyliau, iddynt ddeall yr Ysgrythurau. Meddai wrthynt, "Fel hyn y mae'n ysgrifenedig: fod y Meseia i ddioddef, ac i atgyfodi oddi wrth y meirw ar y trydydd dydd, a bod edifeirwch, yn foddion maddeuant pechodau, i'w gyhoeddi yn ei enw ef i'r holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem.Chwi yw'r tystion i'r pethau hyn. Ac yn awr yr wyf fi'n anfon arnoch yr hyn a addawodd fy Nhad; chwithau, arhoswch yn y ddinas nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth."

  38. Dyma Efengyl Crist.Moliant am wawrio dy wirionedd.

  39. Credwn i Iesu, y Crist, y Meseia, ddioddef a chyfodi o blith y meirw ar y trydydd dydd, a bod edifeirwch a maddeuant pechodau i’w cyhoeddi yn ei enw ef i’r holl genhedloedd.

  40. Ymbiliau Yr ymateb: “Tyrd â’th orau i’w gwaethaf.”

  41. Gweddi’r Arglwydd

  42. YTangnefedd

  43. Y Tangnefedd Arweinydd: Daeth y Crist atgyfodedig a sefyll ymhlith ei ddisgyblion a dweud, ‘Tangnefedd i chwi!’ Pan welsant yr Arglwydd, llawenychodd y disgyblion. Tangnefedd yr Arglwydd a fo gyda chwi bob amser. PAWB A hefyd gyda thi.

  44. Mae ein haddoliad yn parhau gydaChân neu emyn

  45. Gwahoddiad i Ymrwymo

  46. Ein HymrwymiadYmhle yr ydym yn ymrwymo i fod?

  47. Gweddi o ymrwymiad Cymer ni o’r man lle’r ydym i’r man lle yr wyt ti am inni fod;gwna ni nid yn unig yn geidwaid treftadaeth ond yn arwyddion byw o’th Deyrnas sydd i ddod;cynnau ynom angerdd dros gyfiawnder a heddwch ymhlith yr holl bobl;llanw ni â’r ffydd a’r gobaith a’r cariad sydd wrth galon yr Efengyl;

  48. a thrwy nerth yr Ysbryd Glân gwna ni’n un. Fel y credo’r byd, y gorsedder dy enw yn ein cenedl, ac y byddo’r eglwys yn gorff mwy effeithiol iti, ymrwymwn i’th garu ac i’th wasanaethu, ac i’th ddilyn megis pererinion nid dieithriaid. Amen.

  49. Anfon Allan

  50. Y Fendith Arweinydd: Rhodded Duw, a gyfododd Iesu Grist oddi wrth y meirw, hyder i chwi i ymddiried yn y deyrnas sydd i ddod. Pawb: Amen.

More Related