1 / 13

Modiwl 2: Gwasanaethau yn yr Ardal Leol

Modiwl 2: Gwasanaethau yn yr Ardal Leol. Gwasanaethau gofal ledled Cymru. Sut, yn eich barn chi, fyddai gwasanaethau gofal yn amrywio ledled Cymru?. Cofnodwch eich syniadau yma :. Dyma rai rhesymau posib:. Gwahanol lefelau poblogaeth. Nifer uwch o henoed. Nifer uwch o bobl ifanc.

anise
Download Presentation

Modiwl 2: Gwasanaethau yn yr Ardal Leol

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Modiwl 2: Gwasanaethau yn yr Ardal Leol

  2. Gwasanaethau gofal ledled Cymru Sut, yn eich barn chi, fyddai gwasanaethau gofal yn amrywio ledled Cymru? Cofnodwcheichsyniadauyma: Dyma rai rhesymau posib: • Gwahanol lefelau poblogaeth • Nifer uwch o henoed • Nifer uwch o bobl ifanc • Lefelau uwch o ddiweithdra Modiwl 2: Gwasanaethau yn yr Ardal Leol

  3. Demograffeg Un o'r rhesymau pam mae gwasanaethau gofal yn amrywio yw demograffeg. Astudiaeth o boblogaethau o bobl yw demograffeg, yn seiliedig ar ffactorau fel oed a hil. Allwch chi feddwl am wyth ffactor arall? Trafodwch, wedyn cliciwch ar y delweddau. Priodasau Ysgariadau Cyfraddau geni Statws economaidd ? Ffactorau demograffeg ? ? gender Lefel addysg Cyfraddau marw Disgwyliad oes Mae'r ffactorau hyn yn cael eu defnyddio i gynllunio gwasanaethau ar gyfer y boblogaeth, fel iechyd a lles, addysg a thai. Modiwl 2: Gwasanaethau yn yr Ardal Leol

  4. Defnyddio demograffeg i gynllunio gwasanaethau lleol Defnyddir chwe phrif nodwedd ddemograffig wrth gynllunio gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau plant. Sef: • Proffil oed y boblogaeth Image of old people: 18868967 • Lefel diweithdra • Lefel amddifadedd • Nifer y rhieni sengl • Lefel anabledd • Anghenion iechyd Darllenwch y disgrifiad hwn o Gaerffili. Beth yw’r brif nodwedd a gaiff ei defnyddio a sut mae hyn yn effeithio wrth gynllunio gwasanaeth? Mae gan Gaerffili broffil iechyd cyffredinol sydd, at ei gilydd, yn waeth na chyfartaledd Cymru. Un o'r ffactorau penodol yw'r nifer gynyddol o bobl hŷn yng Nghaerffili. Rhagwelir y bydd hyn yn arwain at gynnydd yn yr afiechydon sy'n gysylltiedig ag oedran, mwy o ofyn ar y gwasanaethau iechyd yn y dyfodol a marwolaethau yn sgil canserau a chlefyd y galon. Canolfan Iechyd Cymru. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth. Modiwl 2: Gwasanaethau yn yr Ardal Leol

  5. Cynllunio gwasanaethau Cysyllta'r nodwedd ddemograffig ar y chwith gyda'r cynllunio gwasanaeth y gall effeithio arno. Cliciwch y gwasanaethau sydd eu hangen i ddangos y lliw sy'n cyfateb i'r nodwedd, yn eich barn chi. Gall rhai gwasanaethau gyfateb i sawl nodwedd. Proffil oed y Boblogaeth (1 clic) Angenmwy o ganolfannaudydd Angenmwy o ysbytaiarbenigol Angenmwy o daicymdeithasol Anghenion iechyd (2 glic) Angenmwy o ganolfannaugwaith Angenmwy o gyfleusteraugofal plant Angenmwy o gartrefipreswyl Nifer y rhieni Sengl (3 glic) Angenmwy o therapi galwedigaethol Angenmwy o feddygfeydd MeddygonTeulu Angenmwy o lefydd mewnysgolioncynradd Lefel anabledd (4 glic) Modiwl 2: Gwasanaethau yn yr Ardal Leol

  6. Cynllunio gwasanaethau lleol mewn dwy ardal Cymharwch y darlun ar iechyd ar gyfer y ddwy ardal hyn yng Nghymru a thrafodwch sut y bydd hyn yn effeithio ar gynllunio gwasanaethau lleol yn y ddwy ardal. Darlun ar iechyd yng Nghaerdydd Darlun ar iechyd ym Merthyr Tudful Gwaethaf Gweddol Gorau Gwaethaf Gweddol Gorau Disgwyliad oes dynion Disgwyliad oes dynion Disgwyliad oes menywod Disgwyliad oes menywod % di-waith % di-waith Sgôr Iechyd corfforol cyffredinol Sgôr Iechyd corfforol cyffredinol Pobl sy'n dweud eu bod yn ysmygu Pobl sy'n dweud eu bod yn ysmygu Yfed mwy o alcohol na'r hyn sy'n cael ei argymell Yfed mwy o alcohol na'r hyn sy'n cael ei argymell Cliciwch yma i weld mwy o fanylion am broffil iechyd Caerdydd, Merthyr Tudful ac ardaloedd eraill Cymru. Modiwl 2: Gwasanaethau yn yr Ardal Leol

  7. Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru Cymharwch broffiliau'r tri Bwrdd Iechyd Lleol yn y tabl isod. Beth yw’r rhesymau dros y gwahaniaethau? Beth mae’r gwahaniaethau yn ei olygu i'r ddarpariaeth o wasanaethau? Cliciwch yma i weld proffiliau demograffig ardaloedd eraill yng Nghymru. Modiwl 2: Gwasanaethau yn yr Ardal Leol

  8. Poblogaeth sy’n heneiddio Nawrgwyliwch y clip fideohwn am y pwysausyddar y system iechyd a gofalcymdeithasol am fod y boblogaethynheneiddio. Wedii chi wylio’r clip fideo, penderfynwch a yw’rdatganiadauhynyngywirneu’nanghywir. Anghywir Cywir • Erbynhynmaemwy o bobldros 65 oed nag o dan 16 oed. • Arhyn o brydmaegwasanaethauargaelargyferunrhywlefelangen. • Dim ondifateriongofaliechyd y maellesynberthnasol. • Mae angeniawdurdodaulleolwneudrhagorigynlluniogwasanaethau. Modiwl 2: Gwasanaethau yn yr Ardal Leol

  9. Safonau Cenedlaethol, targedau a blaenoriaethau Y rhain yw'r fframweithiau cynllunio a osodwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer yr holl wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Eu nod yw gwella iechyd y boblogaeth, fel y nodwyd gan y nodweddion demograffig. Allwch chi feddwl am bedair enghraifft o safonau, targedau a blaenoriaethau y gellid eu gosod? I wella nifer y menywod sy'n mynd ar raglenni sgrinio'r fron. I gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar raglenni imiwneiddio ar gyfer plant ifanc. ? Safonau, targedau a blaenoriaethau I leihau'r amser aros ar gyfer apwyntiadau yn dilyn cyfeirio i ofal eilaidd. ? MaeIechydCyhoeddusCymruynsefydliad y GIG sy'ndarparucyngor a gwasanaethauannibynnolargyferiechyd y cyhoedd ac yngwellaiechyd a llespoblogaethCymru. I leihau nifer yr achosion o ferched yn eu harddegau sy'n feichiog a nifer yr heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI). Modiwl 2: Gwasanaethau yn yr Ardal Leol

  10. Cynlluniau'r Llywodraeth Dyma ambell gynllun gan y Llywodraeth i wella iechyd a darpariaeth gwasanaethau yng Nghymru. Cliciwch y lluniau a dilynwch y dolenni i gael gwybod beth maen nhw'n eu cynnig. Modiwl 2: Gwasanaethau yn yr Ardal Leol

  11. Sut mae'r cynlluniau hyn yn cael eu rhoi ar waith? Edrychwch ar y cynlluniau cenedlaethol canlynol a thrafodwch beth maent yn ceisio ei leihau. Cliciwch ar y saethau i weld ydych chi’n iawn. Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb lleihau annhegwch ym maes iechyd Strategaeth Rheoli Tybaco yng Nghymru cwtogi ar nifer y bobl sy’n ysmygu cwtogi ar nifer y merched yn eu harddegau sy’n beichiogi Iechyd Rhywiol a Lles Fframwaith GweithreduBlynyddol y GIG amrywiaeth o dargedau – ewch yma Defnyddiwch y tabl gwag i gael rhagor o wybodaeth am bob cynllun. Modiwl 2: Gwasanaethau yn yr Ardal Leol

  12. Cynlluniau lleol Mae Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd yn cydweithio i greu cynllun lleol gan ystyried nodweddion demograffig eu hardal er mwyn cyrraedd targedau cenedlaethol. Cliciwch yma i weld strategaeth iechyd a lles leol Merthyr Tudful. Modiwl 2: Gwasanaethau yn yr Ardal Leol

  13. Darpariaeth gwasanaeth yn eich ardal Gwnewch eich ymchwil eich hun i gael eich strategaeth iechyd a lles lleol.Cliciwch yma i gael siart i gofnodi'ch canfyddiadau. Ewch ati'n awr i wneud eich ymchwil eich hun i weld beth yw'r nodweddion demograffig lleol a pholisïau a strategaethau eraill y llywodraeth sy'n gosod safonau, targedau a blaenoriaethau ar gyfer cyflyrau iechyd penodol yn eich ardal. Cliciwch yma i gael tabl i gofnodi'ch canlyniadau. Mae'n bosib y bydd yr adroddiadau canlynol o gymorth i chi yn eich gwaith ymchwil hefyd: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol Safonau Gofal Iechyd Cymru Modiwl 2: Gwasanaethau yn yr Ardal Leol

More Related