1 / 11

Rôl menywod yn yr Almaen Natsaidd

Rôl menywod yn yr Almaen Natsaidd. Pam roedd y Natsïaid yn canolbwyntio ar addysg gorfforol ar gyfer merched, a sut roedd hynny’n cyd-fynd â’u gweledigaeth am rôl bwysicaf menywod mewn cymdeithas?. Hitler yn ysgrifennu yn Mein Kampf

jaclyn
Download Presentation

Rôl menywod yn yr Almaen Natsaidd

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Rôl menywod yn yr Almaen Natsaidd

  2. Pam roedd y Natsïaid yn canolbwyntio ar addysg gorfforol ar gyfer merched, a sut roedd hynny’n cyd-fynd â’u gweledigaeth am rôl bwysicaf menywod mewn cymdeithas? Hitler yn ysgrifennu yn Mein Kampf “Ynglŷn ag addysg merched yn y wladwriaeth Almaenig, mae’n rhaid rhoi’r pwyslais ar addysg gorfforol yn bennaf; dim ond wedi hynny y dylid ystyried gwerthoedd ysbrydol a meddyliol. Y nod pwysicaf sydd rhaid ei gofio bob amser wrth addysgu merched yw’r ffaith y byddant rhyw ddydd eisiau dod yn famau.”

  3. Yn ôl Hitler, pam y dylai menywod yr Almaen gael cymaint o blant â phosibl? Rhan o araith gan Hitler yn Rali Nuremberg, 8 Medi 1934. Byd menyw yw ei gŵr, ei phlant a’i thŷ. Ond ble byddai’r byd mawr pe byddai neb ar gael i ofalu am y byd bychan? Mae pob menyw sy’n dod â phlentyn i’r byd yn cyfrannu i’r frwydr dros fodolaeth ei phobl. Trafodwch:Pa un o brif syniadau Hitler yn ymwneud â’r teulu sydd i’w weld yma?

  4. Sut roedd Hitler yn annog teuluoedd i gael mwy o blant? Sut roedd hynny’n cyd-fynd â syniadau’r Natsïaid am y teulu? Dyfyniad o www.schoolhistory.co.uk Pan ddaeth Hitler i rym yn 1933, cyflwynodd y ‘Ddeddf er Hybu Priodas’. Roedd y ddeddf yn datgan y byddai’r llywodraeth yn rhoi benthyciad o 1000 marc i bob cwpl wedi iddynt briodi, swm oedd yn gyfwerth fwy neu lai â naw mis o gyflog. Wedi genedigaeth eu plentyn cyntaf, gallai’r cwpl gadw chwarter yr arian. Wedi genedigaeth eu hail blentyn, gallent gadw’r ail chwarter. Byddent yn cael cadw’r trydydd chwarter ar enedigaeth eu trydydd plentyn a’r swm cyfan ar enedigaeth eu pedwerydd.

  5. Sut mae gwybodaeth am Wasanaeth Mamau y Reich yn cadarnhau’r casgliadau y daethoch iddynt eisoes am y rôl y disgwylid i fenywod ei chyflawni yn yr Almaen wedi 1933? Frau Gertrud Scholtz-Klink, arweinydd y menywod Natsïaidd yn 1938. Yn 1933 aethom ati i sefydlu Gwasanaeth Mamau y Reich i hyfforddi menywod. Amcan yr hyfforddiant hwnnw oedd eu haddysgu am eu dyletswyddau hollbwysig: sef magwraeth ac addysg eu plant a’u gorchwylion domestig ac economaidd. Tasgau Domestig: Tasgau Economaidd:

  6. Beth mae’r ffynhonnell hon yn ei ddweud am y pwysigrwydd a roddai Hitler ar i fenywod ddechrau cael plant? Pam roedd hynny’n cael ei weld yn bolisi mor bwysig? Am wasanaeth clodwiw yn yr ymgyrch yn erbyn gostyngiad yn y gyfradd geni. Efydd = pedwar o blant Arian = chwech o blant Aur = wyth o blant Y Mutterkreuz (Croes y Fam)

  7. Beth mae’r stamp hwn o’r cyfnod Natsïaidd yn ei ddweud am y pwysigrwydd a roddwyd ar rôl y fam? Beth sydd i’w weld yma? Gall fod o ddiddordeb i chi nodi* gwisg y bachgen hynaf * nifer y bechgyn a welir o’i gymharu â nifer y genethod

  8. Yn ôl y ffynhonnell hon, a fu propaganda’r Natsïaid i gynyddu’r gyfradd geni yn llwyddiannus erbyn 1936? Germany 1918-1945, gan Greg Lacey a Keith Sheppard. Yn 1900 roedd dros ddwy filiwn o enedigaethau byw bob blwyddyn, ond roedd hynny wedi gostwng i lai nag un miliwn yn 1933 … yn 1936 roedd dros 30% yn fwy o enedigaethau nag a fu yn 1933. Faint yn fwy o enedigaethau (fel ffigur) a gafwyd yn 1936 o’i gymharu â 1933?

  9. Yn ôl y ffynhonnell hon, nid oedd pob menyw yn fodlon cydymffurfio â dymuniadau’r Blaid Natsïaidd. Pam hynny? Weimar and Nazi Germany, gan Stephen Lee, 1996 Ymunodd ychydig o fenywod â gwrthbleidiau megis y Comiwnyddion neu’r Blaid Sosialaidd Ddemocrataidd. Er hynny, gweithio o fewn y system a wnaeth llawer mewn gwirionedd… Roeddynt yn beirniadu’r polisi am dri rheswm … roedd llawer o fenywod yn parhau yn rhwystredig … roedd menywod an cael eu hamddifadu o brofiadau oedd yn hollbwysig iddynt … roedd gan fenywod dalentau arbennig ar gyfer rhai mathau o waith.

  10. Roedd y Natsïaid am i fenywod aros gartref a magu teulu.Edrychwch ar yr ystadegau isod. Cyfanswm y menywod mewn gwaith yn 1933, 1936 a 1939 1933 – 11.48 miliwn 1936 – 11.7 miliwn 1939 – 12.7 miliwn Pa mor llwyddiannus oedd polisi’r Natsïaid o annog menywod i aros gartref yn ystod y 1930au, a pham yn eich barn chi mai felly roedd?

  11. Mae rhagor o ffynonellau a gwybodaeth i’w cael yn: http://www.spartacus.schoolnet.co.uk/GERwomen.htm Gwybodaeth a ffynonellau http://www.users.globalnet.co.uk/~aliandy/naziwomen_2.htm Prawf Adolygu Rhyngweithiol http://www.schoolhistory.co.uk/lessons/germany/women.html Diagram Adolygu Rhyngweithiol DIWEDD

More Related