150 likes | 288 Views
Yn yr Ysgol. Llyfr 2. 1. Bore da, Si ôn. Bore da, Nia. Mae hi’n fore dydd Llun heulog yn Abersaith. Mae Si ôn a Nia yn mynd i’r ysgol. Mae Si ôn yn wyth oed. Mae llygaid brown ‘da fe. Mae gwallt brown a llygaid brown ‘da hi. Mae Nia yn saith oed. 2.
E N D
Yn yr Ysgol Llyfr 2
1 Bore da, Siôn Bore da, Nia Mae hi’n fore dydd Llun heulog yn Abersaith. Mae Siôn a Nia yn mynd i’r ysgol. Mae Siôn yn wyth oed. Mae llygaid brown ‘da fe. Mae gwallt brown a llygaid brown ‘da hi. Mae Nia yn saith oed.
2 Bore da, blant. Sawl un sy’ eisiau cinio? Dwylo i fyny. Bore da, Mr Jones. Yn y dosbarth mae dau ddeg chwech o blant. Mae dau ddeg eisiau cinio ysgol. Mae chwech eisiau brechdanau. Does neb yn absennol. Mr Jones ydy’r athro Mathemateg. Mae e’n dal ac yn denau.
Mae pawb yn barod am y wers fathemateg. 3 Beth ydy saith a naw? Un deg chwech Edrychwch! Mae Siôn yn hoffi Mathemateg. Mae Siôn yn hapus. Beth sy’n bod ar Nia? Mae hi’n edrych drwy’r ffenest.
4 Gwrandewch os gwelwch yn dda. Dydy Nia ddim yn gwrando ar Mr. Jones. Mae hi’n edrych drwy’r ffenest. Mae rhywun wrth y ffenest. Mae e’n gwisgo cap a sgarff coch gwyn a gwyrdd. Pwy ydy e?
Mae’r gloch yn canu. 5 Gwnewch res wrth y drws. Ewch i’r wers nesa. Mae’n ddrwg ‘da fi Mr Jones. Mae rhaid mynd i’r wers Gelf nawr.
6 Bore da, Mrs. Puw. Bore da, blwyddyn tri. Dyma Mrs. Puw. Mrs. Puw ydy’r athrawes. Mae hi’n gwisgo sgert ddu a blows oren. Mae gwallt brown hir a llygaid mawr glas ‘da hi. Mae hi’n bert.
Mae Mrs. Puw eisiau i’r plant dynnu llun gwisg ysgol newydd. 7 siwmper lwyd. crys oren trowsus glas ’sgidiau pinc. Ha! Ha! Mae’r plant yn tynnu llun gwisg ysgol newydd. Beth mae Nia’n wneud? Mae hi’n edrych drwy’r ffenest.
8 Nia, beth sy’n bod? Dydy Nia ddim yn gwrando. Mae Mrs. Puw yn grac. Mae hi’n edrych drwy’r ffenest. Mae rhywun wrth y ffenest.
9 O na! Edrychwch! Mae Siôn, Nia a’r plant yn edrych drwy’r ffenest. Beth sy’n bod?
10 Mae Ben y bwgan brain y tu allan. Mae Ben ar y trampolîn yn neidio i fyny ac i lawr. Mae e eisiau dychryn y brain. Edrychwch ar y brain ar y to!
11 Mae’n rhaid i ti fynd yn ôl i’r cae. Dw i eisiau dychryn y brain. Mae Ben eisiau dychryn y brain ar y to. Dydy Mrs. Puw ddim yn hapus. Dydy Siôn a Nia ddim yn hapus. Mae rhaid i Ben fynd yn ôl i’r cae.
12 crawc! crawc! crawc! crawc! Ewch! Ewch! Ewch i ffwrdd. Dyma Ben yn ôl yn y cae. Mae llawer o frain yn y cae. Mae e’n hoffi dychryn y brain. Mae Ben yn hapus yn y cae nawr. Ewch i ffwrdd! Ewch i ffwrdd! Ewch i ffwrdd!
Diwedd y stori Cliciwch ar Ben i ddechrau eto