1 / 13

Addysg a chyfoeth menywod mewn grwpiau gweithredu cyfunol

Dod â data'n fyw – dulliau ystadegol o ymdrin â materion byd-eang Sesiwn 4, Cyfnod Allweddol 3. Addysg a chyfoeth menywod mewn grwpiau gweithredu cyfunol. Cywir neu anghywir?. Mae Ethiopia yn nwyrain Affrica Cynhyrchir mêl gan wenyn Mae’r holl ffermwyr yn Ethiopia yn fenywod

abrewer
Download Presentation

Addysg a chyfoeth menywod mewn grwpiau gweithredu cyfunol

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Dod â data'nfyw– dulliauystadegol o ymdrin â materionbyd-eangSesiwn4, CyfnodAllweddol 3

  2. Addysg a chyfoethmenywodmewngrwpiaugweithreducyfunol

  3. Cywir neu anghywir? • Mae Ethiopia yn nwyrain Affrica • Cynhyrchir mêl gan wenyn • Mae’r holl ffermwyr yn Ethiopia yn fenywod • Mae’r holl ffermwyr sy’n fenywod yn Ethiopia yn perthyn i grŵp gweithredu cyfunol • Mae’n rhaid i chi gael addysg dda i fod yn ffermwr yn Ethiopia • Mae rhai ffermwyr yn Ethiopia yn ennill mwy nag eraill • Mae ffermwyr cyfoethog sy’n fenywod yn Ethiopia yn ennill mwy na llawer o bobl yn y DU • Mae cyfoeth yn cael ei gyfrifo yn defnyddio data ar eiddo ac anifeiliaid aelwyd, a sut le yw eu tŷ

  4. Cywir neu anghywir? - Atebion • Mae Ethiopia yn nwyrain Affrica • Cywir • Cynhyrchir mêl gan wenyn • Cywir • Mae’r holl ffermwyr yn Ethiopia yn fenywod • Anghywir, gallant fod yn ddynion neu’n fenywod • Mae’r holl ffermwyr sy’n fenywod yn Ethiopia yn perthyn i grŵp gweithredu cyfunol • Anghywir, mae rhai yn perthyn i grwpiau ond nid pawb • Mae’n rhaid i chi gael addysg dda i fod yn ffermwr yn Ethiopia • Anghywir, mae rhai wedi cael addysg ond does gan rai bron ddim addysg o gwbl

  5. Cywir neu anghywir? - Atebion • Mae rhai ffermwyr yn Ethiopia yn ennill mwy nag eraill • Cywir, bydd rhai ffermwyr yn ennill dim ond digon i oroesi lle gall eraill ennill bywoliaeth dda iawn yn ôl safonau Ethiopia • Mae ffermwyr cyfoethog sy’n fenywod yn Ethiopia yn ennill mwy na llawer o bobl yn y DU • Anghywir, byddai’r ffermwyr mwyaf cyfoethog yn yr astudiaeth hon yn dal i ennill llawer yn llai na’r mwyfrif helaeth o bobl yn y DU • Mae cyfoeth yn cael ei gyfrifo yn defnyddio data ar eiddo ac anifeiliaid aelwyd, a sut le yw eu tŷ • Gwir, mae nodweddion tai yn cynnwys a oes ganddynt do wedi’i wneud o wair neu dun.

  6. Menywod o bentref gwledig, wedi’u gwisgo mewn dillad gwarchodol, yn ystod gweithdy mewn canolfan arddangos a hyfforddi cadw gwenyn. Darperir yr hyfforddiant gan y cwmni sy’n prynu eu mêl.

  7. Menywod wedi’u gwisgo mewn dillad gwarchodol yn dysgu am gadw cychod gwenyn modern yn lân mewn canolfan arddangos a hyfforddi cadw gwenyn. Darperir yr hyfforddiant gan y cwmni sy’n prynu eu mêl.

  8. Gyda phwy yr ydych yn cytuno? Mae’rymchwilyddRasyncredu bod ffermwyrsy’nfenywod ac sy’nperthynigrŵpynennillllai o arian Mae’rymchwilydd Adina ynanghytuno, maehi’ncredueu bod nhw’nfwycyfoethog. Sutallwch chi ddarganfodpwysy’ngywir?

  9. Lluniosiartcylch • I lunio siart cylch, mae pob rhan o’r cylch wedi’i chynrychioli fel cyfran o 360, oherwydd bod 360 gradd mewn cylch. • Bydd angen i chi wybod beth yw cyfanswm y data a gasglwyd – yn yr achos hwn arolygwyd 20 o fenywod ynghylch sawl blwyddyn o addysg oedd ganddynt. • Yna mae angen i chi wybod sawl un sydd wedi’u cynrychioli ym mhob rhan o’r data – er enghraifft, efallai bydd gan dair menyw un flwyddyn o addysg. • Rhannwch y rhan o ddata gan y cyfanswm – yn yr enghraifft hon, 3/20. • Yna lluoswch yr ateb hwn gan 360 – felly fan hyn (3/20) x 360. Mae’r ateb hwn yn dweud wrthych sawl gradd sydd angen yn eich segment o siart cylch. • Cyn i chi lunio’r siart cylch, cofiwch wirio bod yr onglau yr ydych wedi’u cyfrifo yn dod yn gyfanswm o 360 gradd.

  10. Cyfoethmenywod – samplmwy o faint

  11. Deall siart cylch • Pa un yw’r mynegai cyfoeth mwyaf cyffredin? • Pa un yw’r mynegai cyfoeth lleiaf cyffredin? • Pam nad yw rhai o’r mynegeion wedi’u cynrychioli ar y siart cylch? • A oes unrhyw beth yn eich synnu am y siart cylch?

  12. Cyfoeth menywod – maint sampl mwy o faint

  13. Cymharu cyfoeth menywod mewn grwpiau gweithredu cyfunol â’r rhai nad ydynt mewn grwpiau GrŵpO Grŵp1 Amlder MynegaiCyfoeth

More Related