1 / 5

yn a mewn

yn a mewn. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng mewn ac yn ?. Rydyn ni’n defnyddio mewn + lle amhendant ( dim yn rhywle penodol ). e.e. mewn tŷ - Rydw i’n byw mewn tŷ. mewn ysgol – Rydw i’n ddisgybl mewn ysgol. mewn bocs - Mae’r gwaith yn cael ei gadw mewn bocs.

bin
Download Presentation

yn a mewn

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. yn a mewn

  2. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng mewn ac yn? Rydyn ni’n defnyddio mewn+ lle amhendant (dim yn rhywle penodol) e.e. mewntŷ - Rydw i’n byw mewn tŷ. mewnysgol – Rydw i’n ddisgybl mewn ysgol. mewnbocs - Mae’r gwaith yn cael ei gadw mewn bocs.

  3. Rydyn ni’n defnyddio yn+ lle pendant (rhywle penodol) e.e. yn ytŷ - Rydw i’n byw yn y tŷ mwyaf ar y stryd. ynYsgol… – Rydw i’n ddisgybl yn Ysgol Brynrefail yn ybocs - Mae’r gwaith yn y bocs sydd ar y bwrdd.

  4. Y treiglad trwynol ar ôl ‘yn’: Pwysig! Cofiwch am y treiglad trwynol mewn enwau lleoedd yn syth ar ôl yn. e.e. yng Nghaernarfon, ymMhrestatyn, yn Nhremadog, yn Ninas Dinlle Wnaethoch chi sylweddoli beth sy’n digwydd i’r yn cyn rhai geiriau sy’n treiglo’n drwynol?

  5. Ymarfer: Rhowch yn neu mewn yn y bylchau. 1. Mae Catrin yn byw ______ tŷ. 2. Prynodd y ferch ei dillad ______ y dref. 3. Rydw i’n cael cinio _______ caffi. 4. Mae hi’n aros ______ pabell heno. 5. Mae’r plant yn chwarae _____nghae chwarae’r ysgol. 6. ______ chwarter awr, bydd angen i bawb fynd i’r neuadd. 7. Mae cwningen yn byw ______ cawell. 8. Roedd ein bochdew yn byw _____ y cawell yn y gegin. 9. Rydw i’n byw ______ y tŷ lleiaf ar y stryd. 10. __________ ei amser hamdden mae Geraint yn hoffi hwylio.

More Related