00:00

Core Training Resource for Children and Young People with Visual Impairments on CFVI Framework

Comprehensive core training resource focusing on Literacy in Field 4 of the Curriculum Framework for Children and Young People with Visual Impairments (CFVI). Developed in collaboration with VIEW Society and key stakeholders, this resource aims to provide insights into the importance of literacy, specialized teaching strategies, key role of supporting stakeholders, and access to useful learning materials. Emphasizing the significance of literacy, the resource addresses obstacles and inclusive teaching strategies to enhance learning experiences for visually impaired learners.

vergillos
Download Presentation

Core Training Resource for Children and Young People with Visual Impairments on CFVI Framework

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Fframwaith Cwricwlwm ar gyfer Plant a Phobl Ifanc â Nam ar y Golwg (CFVI): Adnodd Hyfforddiant Craidd 5 Maes 4: Llythrennedd

  2. Partneriaid y Prosiect Mae 4 sefydliad partner yn rhan o brosiect y CFVI. Arweiniwyd y gwaith o gynhyrchu’r deunyddiau hyfforddi / datblygiad proffesiynol parhaus hyn gan VIEW (Cymdeithas Broffesiynol y Gweithlu Addysg Nam ar y Golwg), ar y cyd â grŵp ymgynghori o randdeiliaid sy’n gweithio ym maes Addysg Nam ar y Golwg.

  3. Fframwaith Cwricwlwm ar gyfer Plant a Phobl Ifanc â Nam ar y Golwg (2022, t.15)

  4. Amcanion Hyfforddi (1) Dyma amcanion yr adnodd hyfforddi hwn: • rhoi cyflwyniad i Faes 4 y CFVI: Llythrennedd. • archwilio pam mae ffocws ar y maes hwn yn bwysig i ddysgwyr â nam ar eu golwg. • amlinellu rhai strategaethau a dulliau addysgu arbenigol. • archwilio rôl rhanddeiliaid allweddol wrth gefnogi datblygiad llythrennedd. • darparu dolenni i adnoddau / gwefannau defnyddiol.

  5. Amcanion Hyfforddi (2) Sleid y mae posib ei haddasu os oes angen (edrychwch ar y nodiadau ar gyfer y sleid flaenorol sy'n rhoi enghreifftiau o amcanion hyfforddi y gallech eu hystyried, yn dibynnu ar natur eich cyflwyniad).

  6. Nodi rhwystrau posibl i fynediad (1) Sefyllfa Beth mae golwg yn ei ddweud wrth y plentyn yn y sefyllfa yma? sut mae lluniau yn ategu cynnwys y stori ac yn cynorthwyo dealltwriaeth. • gwybodaeth am liw, siâp a gofod. • manylion y ffont a maint y print. • lle mae ei gyfoedion yn eistedd yn yr ardal Byd Stori. • lle mae'r athro yn eistedd. • sut mae'r llyfr yn edrych. • pa lyfrau eraill sydd ar y silffoedd yn yr ardal Byd Stori. • lle mae ei gyfoedion mewn perthynas ag ef ei hun. • iaith corff y rhai o'i gwmpas: ciwiau cymdeithasol • ? Plentyn heb nam ar y golwg yn gwrando ar stori yn y dosbarth. • Mae’r plant yn eistedd ar glustogau mewn ardal amlsynhwyraidd o’r ystafell ddosbarth o’r enw ‘Byd Stori’.

  7. Nodi rhwystrau posibl i fynediad (2) Sefyllfa Strategaethau cynhwysol i leihau rhwystrau i ddysgu ? ? ? Plentyn gyda golwg pell llai yn gwrando ar stori yn y dosbarth. Mae’r plant yn eistedd ar glustogau mewn ardal amlsynhwyraidd o’r ystafell ddosbarth o’r enw ‘Byd Stori’.

  8. Nodi rhwystrau posibl i fynediad (3) Sefyllfa Strategaethau cynhwysol i leihau rhwystrau i ddysgu ? ? ? Ychwanegwch yma Ychwanegwch yma

  9. Pam mae ffocws ar y maes hwn yn bwysig? (1) • Mae llythrennedd yn sail i'r cwricwlwm cyfan ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. • Gall llythrennedd fod yn seiliedig ar brofiad gweledol iawn - mae dysgu digwyddiadol yn cael ei leihau i blant sydd â nam ar y golwg, felly llai o gyfle i weld llythrennau/geiriau yn eu hamgylchedd. • Mae nam ar y golwg yn creu rhwystrau posibl i ddatblygiad cysyniadau allweddol. • Gellir lleihau’r rhwystrau posibl i fynediad drwy – hyrwyddo amgylcheddau dysgu hygyrch (Maes 1) a defnyddio dulliau ymyrraeth wedi’i thargedu (Maes 4).

  10. Pam mae ffocws ar y maes hwn yn bwysig? (2) • Gan gyfeirio at amgylchedd addysg penodol, rhestrwch rai rhwystrau posibl y gall nam ar y golwg eu creu i blentyn/person ifanc o ran cael mynediad at lythrennedd. • Ar gyfer pob rhwystr, nodwch ffyrdd y gallem addasu'r amgylchedd hwn i leihau'r rhwystr a hyrwyddo mwy o fynediad at lythrennedd.

  11. Am y maes hwn: Llythrennedd • Mae’r maes hwn yn y fframwaith yn cydnabod pwysigrwydd gweithio gyda phlant a phobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd a hyrwyddo amgylcheddau dysgu hygyrch. • Mae'r enghreifftiau'n cynnwys addasiadau a dulliau gweithredu arbenigol o ran, addysgu addasiadau amgylcheddol, mabwysiadu dulliau, codau a thechnoleg amgen neu bwrpasol. • Mae gan QTVI rôl bwysig o ran darparu addysgu arbenigol, hwyluso cydweithredu ac arwain y broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â llwybr llythrennedd plentyn/person ifanc.

  12. Am y maes hwn: Enghreifftiau o lwybrau llythrennedd • Llythrennedd drwy brint (e.e. print mawr). • Llythrennedd drwy braille (darllen braille; ysgrifennu braille). • Llythrennedd drwy godau cyffyrddol amgen (e.e. cod Moon). • Llythrennedd drwy symbolau (e.e. symbolau cyffyrddol/gweledol). • Llythrennedd drwy dechnoleg lleferydd (e.e. switshys, darllenwyr sgrin).

  13. Cynllun llwybr llythrennedd ar gyfer (enw’r plentyn/person ifanc) • Enw'r plentyn. • Natur y nam ar y golwg. • Yr hyn a wnaethom - anghenion mynediad yn y gorffennol. • Yr hyn rydym yn ei wneud - anghenion mynediad cyfredol. • Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud - anghenion mynediad yn y dyfodol

  14. Enghreifftiau o ddulliau ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer Maes 4 wedi'u rhestru yn y CFVI i leihau rhwystrau (1) • Cynllun llwybr llythrennedd clir sy’n datblygu, yn seiliedig ar asesiad. • Llythrennedd drwy brint: Optimeiddio cyflwyniad print. Defnyddio dyfeisiau golwg gwan. Teledu Cylch Cyfyng / chwyddo electronig. Cyfarpar electronig prif ffrwd, e.e. tabledi, byrddau gwyn rhyngweithiol dosbarth drwy ddefnyddio monitor neu ddrych sgrin. Meddalwedd chwyddo arbenigol. Hyfforddiant mewn darllen cyflym. Darparu profiadau bywyd real a diriaethol i ddatblygu cysyniadau

  15. Enghreifftiau o ddulliau ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer Maes 4 wedi'u rhestru yn y CFVI i leihau rhwystrau (2) • Llythrennedd drwy braille. • Llythrennedd drwy Moon. • Llythrennedd drwy straeon synhwyraidd, lluniau a symbolau gwrthrych. • Technoleg lleferydd. • Ysgrifennu a defnyddio technoleg briodol:  technoleg benodol i braille, cyfrifiadur, beiro, meddalwedd arddweud.  llawysgrifen, datblygu arddull llawysgrifen briodol sy'n cynorthwyo darllenadwyedd.  sgiliau cyffwrdd-deipio a mynediad at gyfrifiadur

  16. Pam mae ffocws ar y maes hwn yn bwysig i (enw'r plentyn/person ifanc); pa ymyriadau sydd ar waith? • Manylion nam ar olwg disgybl. • Sut mae'n dylanwadu ar ei fynediad i’r cwricwlwm / rhyngweithio cymdeithasol. • Pa ymyriadau sydd ar waith i hybu datblygiad llythrennedd? Beth yw'r canlyniadau a ragwelir? • Pwy sy'n cyflawni/gweithio ar y canlyniadau hyn?

  17. Crynhoi • Mae nam ar y golwg yn creu rhwystrau nodedig i fynediad, dysgu a chyfranogiad i blant a phobl ifanc. • Mae hefyd angen dulliau ymyrraeth wedi’i thargedu o fewn amgylcheddau dysgu cynhwysol (edrychwch ar CFVI, Maes 1) i hyrwyddo datblygiad llythrennedd effeithiol. • Mae angen cydweithio â'r plentyn/person ifanc, y teulu a'r addysgwyr er mwyn gwneud y defnydd gorau o'u sgiliau llythrennedd a'u datblygu. • Mae dealltwriaeth o sut mae’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen yn berthnasol i’r cyfnod dysgu a’r cwricwlwm sy’n cael ei addysgu ynddo yn hanfodol i sicrhau bod sgiliau llythrennedd annibynnol myfyrwyr yn cael eu datblygu i gefnogi cynnydd ym mhob maes cwricwlwm.

  18. Pa adnoddau sydd ar gael  Mae’r Hwb Rhannu Llyfrau sydd ag adnoddau i gefnogi darparu CFVI ar gael gan yr RNIB (Allanol)  Yn benodol berthnasol i’r maes hwn mae categori Llythrennedd Hwb Adnoddau CFVI  Mae’r CFVI yn darparu rhestr o ddulliau ymyrraeth wedi’i thargedu: Fframwaith Cwricwlwm ar gyfer Plant a Phobl Ifanc â Nam ar eu Golwg | Yr RNIB

  19. Cyfeiriadau • Hewett, R., Douglas, G., McLinden, M., James, L., Brydon, G., Chattaway, T.,Cobb, R., Keil, S., Raisanen, S., Sutherland, C., Taylor, J., (2022) Curriculum Framework for Children and young People with Vision Impairment[CFVI]: Defining specialist skills development and best practice support to promote equity, inclusion and personal agency. Yr RNIB

More Related