1 / 17

Strategau Dylunio

Strategau Dylunio. syniadau gwyllt. trawsnewid syniadau. sbardun o bethau bob dydd. Strategau Dylunio: Sbardun o bethau o’n cwmpas.

urit
Download Presentation

Strategau Dylunio

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Strategau Dylunio syniadau gwyllt trawsnewid syniadau sbardun o bethau bob dydd

  2. Strategau Dylunio: Sbardun o bethau o’n cwmpas Dydy dylunio ddim yn hawdd bob amser. Rydyn ni’n mynd i edrych ar ystod o dasgau fydd, gobeithio, yn eich helpu yn y dyfodol. Strategau dylunio yw’r enw ar y tasgau hyn. Gall y strategau hyn fod o gymorth wrth i chi ddylunio unrhyw gynnyrch. Rydyn ni’n mynd i edrych ar y strategaeth ddylunio ganlynol : Sbardun o bethau bob dydd.

  3. Strategau Dylunio: sbardun o bethau sydd o’n cwmpas Pan rydych yn datblygu eich cymeriad cartŵn gallwch fantesio ar nodweddion y person, yr anifail neu’r gwrthrych rydych wedi’i ddewis i’ch sbarduno. Mae’r sleidiau canlynol yn dangos sut y gallwch ddatblygu syniadau o’r pethau sydd o’ch cwmpas. Gall anifeiliaid chwareus eich sbarduno.

  4. Strategau Dylunio: Sbardun o bethau sydd o’n cwmpas Yn aml bydd dylunwyr yn cael eu hysbrydoli gan y pethau maen nhw’n eu gweld. Efallai y byddan nhw’n ymweld ag amgueddfeydd neu arddangosfeydd, yn edrych ar lyfrau neu gylchgronau, neu hyd yn oed yn sylwi ar yr amgylchedd a’r bobl o’u cwmpas. Neu efallai mai’r dylunwyr eu hunain yw ffynhonell yr ysbrydoliaeth!

  5. Strategau Dylunio: Sbardun o bethau sydd o’n cwmpas Pobl yn rhoi ysbydoliaeth Ysgol Dyffryn

  6. Strategau Dylunio: Sbardun o bethau sydd o’n cwmpas Cyfres o rannau sydd wedi cael eu lluniadu ar wahân yw’r wyneb cartwn, yna, fel gyda thasg y ddraig, maen nhw’n cael eu rhoi at ei gilydd fesul haen (gweler tasgau dylunio) Lliw gwahanol i’r farf Breichiau hir Bol tew Trowsus llongwr

  7. Strategau Dylunio: Sbardun o bethau sydd o’n cwmpas Gadewch i ni edrych ar ‘yr wyneb’ unwaith eto. Rhowch gynnig ar y syniad hwn i dynnu llun pobl adnabyddus. Dyma Catherine Zeta Jones a Charlotte Church.

  8. Strategau Dylunio: Sbardun o bethau sydd o’n cwmpas Mynegiant Mae mynegiant yr wyneb yn bwysig pan rydych yn datblygu’ch cymeriad, dyma sy’n rhoi cymeriad i’ch cymeriad Mae’r steil rydym yn ei roi i’n cartŵn yn gallu dylanwadu ar y mynegiant Dyma rai o’r dulliau y gallwn eu defnyddio i ddatblygu’n cymeriadau. O hen ddyn i ddyn blinedig, mae safleoedd gwahanol yn newid cymeriad y cartwn Y peth holl bwysig yw safle’r gwrthrychau. Trwy newid y safle rydych yn newid edrychiad a theimlad y cymeriad Mae maint y llygaid yn pwysleisio mai cartŵn sydd yma Newid maint a safle’r llygaid Newid maint a safle’r mwstas Mae newid safle’r wyneb yn rhoi mynegiant gwahanol Newid maint a safle’r geg

  9. Strategau Dylunio: Sbardun o bethau sydd o’n cwmpas Tymer drwg Anhapus drwg Wedi cael braw poeth Weithiau mynegiant eithafol y cymeriadau sy’n eu gwneud yn fwy doniol….Meddyliwch am bob mynegiant y gallech chi ei greu. Rhestrwch hwy ar eich tudalen. Gallai’ch helpu i ddatblygu’r cymeriadau.COFIWCH EICH BOD YN DATBLYGU’CH CYMERIADAU EICH HUN>MAE ANGEN I CHI FEDDWL AM PA FATH O GYMERIAD RYDYCH YN MYND I’W DDATBLYGU. / BETH FYDD EICH ANIMEIDDIO?.

  10. Strategau Dylunio: Sbardun o bethau sydd o’n cwmpas Mae popeth sydd o’n cwmpas yn gallu’n sbarduno. …weithiau does ond angen i ni agor ein llygaid!! Gall pethau cyffredin fel manylion ar adeiladau neu’r môr ein hysbrydoli. Sut gallai edrych o amgylch Bae Caerdydd ein hysbrydoli? Oes gennych chi unrhyw syniadau am gymeriad i’w animeiddio?

  11. Strategau Dylunio: Sbardun o bethau sydd o’n cwmpas Cymeriad o’r gargoil? Defnyddio’r gargoil i greu cartwn Creu’r ddelwedd o’r ochr neu o’r blaen Pa liw yw’r mwyaf effeithiol i’r gargoil?

  12. Strategau Dylunio: Sbardun o bethau sydd o’n cwmpas Datblygu nodweddion wyneb gargoil

  13. Strategau Dylunio: Sbardun o bethau sydd o’n cwmpas Ffynhonell y sbardun

  14. Strategau Dylunio: Sbardun o bethau sydd o’n cwmpas Dyma ddau steil gwahanol iawn, un syniad yw gwneud i bethau edrych mor naturiol â phosibl, y steil arall yw chwyddo a gorliwio nodweddion yn yr wyneb. Defnyddiwyd y ddau steil i luniadu’r ci. Bydd yn rhaid i chi ystyried pa steil sy’n gweddu orau pan rydych yn datblygu’ch cartŵn.

  15. Strategau Dylunio: Sbardun o bethau sydd o’n cwmpas Steil: Mae gan bawb steil neu dechneg sy’n gyffyrddus iddyn nhw. Does dim cywir neu anghywir – dim ond beth sy’n gwneud i’r cartŵn edrych yn dda. Edrychwch ar yr amrywiaeth o steil a ddefnyddiwd gan artistiaid/lluniadwyr gwahanol i greu eu lluniadau

  16. Strategau Dylunio: Sbardun o bethau sydd o’n cwmpas Dyma rai syniadau o fyd anifeiliad i chi. Rhowch gynnig ar ddylunio o’r syniadau hyn…..Neu gallwch ddefnyddio’ch delweddau eich hun.

  17. Strategau Dylunio: Sbardun o bethau sydd o’n cwmpas Tasg Dylunio 3. Yn y lle gwag isod defnyddiwch yr esiamplau a roddwyd i luniadu cartŵn o’ch dewis chi.

More Related