1 / 1

Tanwydd o Wastraff (sampl)

Tanwydd o Wastraff (sampl). Yn ôl y cwmni cemegol byd-eang blaengar INEOUS, fe all ceir sy’n rhedeg ar danwyddau a ddaw o sbwriel y tŷ fod ar ein ffyrdd o fewn y ddwy flynedd nesaf. Fe all y dechnoleg yma cyfrannu’n sylweddol i leihau nwyon tŷ gwydr a’r orddibyniaeth ar danwyddau ffosil.

ulric
Download Presentation

Tanwydd o Wastraff (sampl)

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Tanwydd o Wastraff (sampl) Yn ôl y cwmni cemegol byd-eang blaengar INEOUS, fe all ceir sy’n rhedeg ar danwyddau a ddaw o sbwriel y tŷ fod ar ein ffyrdd o fewn y ddwy flynedd nesaf. Fe all y dechnoleg yma cyfrannu’n sylweddol i leihau nwyon tŷ gwydr a’r orddibyniaeth ar danwyddau ffosil. Mae’r broses yn gynhyrchu ethanol, C2H5OH, trwy gymysgu catalydd biolegol gyda charbon monocsid a hydrogen a chaiff ei gynhyrchu wrth losgi gwastraff pydredig. Mae’r cwmni cemegau Ineos, yn dweud eu bod wedi dyfeisio dull o gynhyrchu tanwydd o gwastraff solid bwrdeistrefol, gwastraff amaethyddol a gwastraff organig cyhoeddus. Honnir y cwmni gellir gynhyrchu tua 400 litr o ethanol oddi wrth un dunnell o wastraff sych. Mae’r broses yn gweithio trwy wresogi’r Gwastraff i gynhyrchu nwyon. Yna, trwy fwydo’r nwyon i bacteria sy’n Cynhyrchu ethanol. Caiff yr ethanol yna ei buro a’i ddefnyddio fel tanwydd. Cynhyrchir ceir sy’n rhedeg ar bioethanol eu gynhyrchu ym Mrasil, lle mae yna diwydiant cynhwysfawr biodanwyddau sy’n defnyddio siwgr câns fel y deunydd crai. Mae Ethanol yn cynhyrchu carbon deuocsid a dwr wrth’i hylosgi a ni chynhyrchir llawer o lygredd C2H5OH + 3O2 2CO2 + 3H2O Fe adnabyddir Biodanwyddau, gan lywodraethau, fel dull allweddol o leihau allyriad carbon deuocsid Mae mwyafrif o’r gwastraff a losgwyd yn cynnwys atomau carbon gwerthfawr. Pan gaiff y gwastraff yma ei losgi fel y mae i gynhyrchu trydan, caiff 30 y cant o’r atomau carbon ei golli i fyny’r simnai. Mae defnyddio’r gwastraff i greu biodanwyddau (a chemegau arall) yn ddewis arall sydd o fydd aelodau cyngor ac amgylchfydwyr. Bio-eplesiad Y dechneg allweddol yw’r broses newid gwastraff – i - ethanol a ddatblygwyd gan y peiriannwr cemegol James Gaddy o Bioengineering Resources Inc (BRI). Cyfunir technoleg thermocemegol a biocemegol. Yn gyntaf, caiff defnydd organig ei nwyeiddio, gan ddefnyddio ocsigen, i ffurfio syngas, cymysgedd o CO (carbon monocsid) a H2 (hydrogen). Caiff hwn ei ddiffodd a’i lanhau yn ogystal caiff y gwres ei adennill i gynhyrchu pŵer adnewyddadwy. Mae bacteria Clostridium ljungdahlii yn eplesu’r nwy ar dymheredd ystafell i gynhyrchu ethanol. Caiff hwn ei buro i rhoi ethanol anhydrus (pur). Tanwyddau Ethanol – ein iachawdwr? Dywedodd Kenneth Richter, ymgyrchwr dros biodanwyddau i Friends of the Earth: 'While efforts must be made to develop more sustainable alternative fuel sources, they are years away from being commercially available and are not a sure-fire fix for future petrol demand”. Yn ogystal, mae dulliau presennol o gynhyrchu biodanwyddau o cnydau wedi cael ei feirniadu am achosi codiad mewn prisiau bwyd gan fod tir a fyddai wedi cael ei defnyddio i dyfu bwyd. Er fod cynhyrchu bioethanol yn rhyddhau cyfaint llai o nwyon tŷ gwydr, dywed beirniaid ei fod wedi hybu datgoedwigo. ON. Enghraifft yn unig yw hwn o sut all poster edrych; nid yw’n adlewyrchu’r safon disgwyliedig, na’r trefn a patrwm y disgwylir i chi ddilyn..

More Related