1 / 3

Tasg

Tasg Ymarferwch amrediad o ymarferion cadw cydbwysedd a sicrhewch eich bod yn defnyddio’r craidd wrth eu perfformio. Os na ddefnyddiwch eich craidd byddwch yn simsan iawn.

milla
Download Presentation

Tasg

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Tasg • Ymarferwch amrediad o ymarferion cadw cydbwysedd a sicrhewch eich bod yn defnyddio’r craidd wrth eu perfformio. • Os na ddefnyddiwch eich craidd byddwch yn simsan iawn. • Mae ffocysu ar un pwynt sefydlog yn ffordd dda o wella cydbwysedd hefyd. Anogwch reolaeth dda o’r anadlu drwy’r ymarferion – bydd hyn yn helpu ymhellach. • Ceisiwch beidio â chodi eich brest a sugno’ch bol i mewn wrth anadlu i mewn. Bydd hyn yn achosi ichi simsanu mwy!

  2. Tasg Ymarfer sbotio wrth droelli Mae troelli mewn dawns yn gallu gwneud i rai pobl deimlo’n chwil a’u taflu oddi ar eu hechel. I geisio gwrthweithio hyn, ffocyswch ar sbotyn o’ch blaen ychydig uwch na lefel y llygaid, troellwch a chwipio’ch pen yn ôl i’r un fan. Mae angen ymarfer a dyfalbarhau gyda hyn, dyna’r unig ffordd i lwyddo. Mae ymarferion cornel i gornel yn ddefnyddiol hefyd. Gan ddefnyddio’r dechneg sbotio, ceisiwch step-droi ar ddwy droed yn lletraws ar draws yr ystafell. Defnyddiwch eich breichiau wrth droi, gan gadw’ch ysgwyddau i lawr, eich peneliniau’n feddal, a’ch breichiau ar uchder y frest.

  3. Tasg Mae siapio’n bwysig iawn, felly gwnewch yn siŵr fod eich dwylo a’ch bysedd hongian yn ymestyn drwodd i’r siâp terfynol, yn hytrach na’u bod yn hongian ar waelod eich breichiau. Hefyd, rhaid i’ch traedymestyn drwodd i’r siâp terfynol. Y pen yw’r cyflwyniad terfynol ac ni ddylid ei anwybyddu; peidiwch â gadael iddo wyro tua’r llawr. Bydd siapio at eithafion y corff yn gwella golwg yr ymestyniad yn fwy fyth, ac felly’n gwella’r ddawns yn ei chyfanrwydd.

More Related