1 / 15

Rhyddid Gwybodaeth

Rhyddid Gwybodaeth. Beth yw Ystyr Hynny Inni?. Sesiwn Hyfforddiant Ragarweiniol. Uned Cynnal Llywodraethwyr Sir Caerfyrddin. Pasiwyd ym mis Rhagfyr 2000 Daeth ar waith gam wrth gam Daeth ar waith yn llawn ym mis Ionawr 2005

mercer
Download Presentation

Rhyddid Gwybodaeth

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Rhyddid Gwybodaeth Beth yw Ystyr Hynny Inni? Sesiwn Hyfforddiant Ragarweiniol Uned Cynnal Llywodraethwyr Sir Caerfyrddin

  2. Pasiwyd ym mis Rhagfyr 2000 Daeth ar waith gam wrth gam Daeth ar waith yn llawn ym mis Ionawr 2005 Mae’n ymdrin a’r sector cyhoeddus yn ei grynswth, gan gynnwys ysgolion ac Awdurdodau Addysg Lleol Mae’n hyrwyddo atebolrwydd a threfn fwy agored o weithio Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

  3. Mae’n berthnasol i awdurdodau cyhoeddus Mae’n creu hawl statudol i dderbyn gwybodaeth Mae’n creu eithriadau i’r hawl hwnnw Mae’n darparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth eithriedig er lles y cyhoedd Mae’n mynnu fod awdurdodau cyhoeddus yn paratoi cynlluniau cyhoeddiadau Mae’n creu’r angen i baratoi 2 god ymarfer statudol Mae’n creu comisiynydd gwybodaeth Mae’n diwygio Deddf Diogelu Data 1998 Y Ddeddf ~ Yn Gryno

  4. Bydd cais am wybodaeth yn awr yn cael ei gynnwys mewn un o dri hawl gwybodaeth, neu bob un ohonynt: Ymholiadau diogelu data (neu geisiadau hawl i weld gwybodaeth am y gwrthrych) yw’r rhai ble y mae’r ymholydd yn gofyn i gael gweld pa wybodaeth bersonol y mae’r ysgol yn ei chadw am yr ymholydd. Ymholiadau am reoliadau gwybodaeth amgylcheddol yw’r rhai sy’n ymwneud ag aer, dwr, tir, safleoedd naturiol, yr amgylchedd adeiledig, planhigion ac anifeiliaid, ac iechyd, ac unrhyw benderfyniadau a gweithgareddau sy’n effeithio ar unrhyw un o’r rhain. Gallent felly gynnwys ymholiadau am ail-gylchu, mastiau ffon, meysydd chwarae ysgolion, meysydd parcio ac ati. Mae ymholiadau Rhyddid Gwybodaeth yn ymwneud a phob math arall o wybodaeth gan gynnwys yr ymresymu sy’n sail i’r penderfyniadau a’r polisiau. Mae pob cais am wybodaeth nad ydynt yn geisiadau Diogelu Data neu Hawliau Gwybodaeth Amgylcheddol yn geisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Hawliau Gwybodaeth

  5. Mae’n cynnwys yr holl wybodaeth a ‘gedwir’, waeth ymha ffurf y caiff ei chofnodi Cwbl ol-edrychol Gall unrhyw un wneud cais am wybodaeth Rhaid ymdrin a phob cais ysgrifenedig am wybodaeth o fewn 20 diwrnod gwaith, heb gynnwys gwyliau ysgol Nid oes unrhyw eithriad oherwydd embaras Realiti Rhyddid Gwybodaeth

  6. Yr hawl i gael gwybod yn ysgrifenedig a yw’r wybodaeth yn cael ei chadw (“dyletswydd i gadarnhau neu wadu”), ac Os felly, hawl i fynnu fod yr wybodaeth yn cael ei rhoi iddynt, ar yr amod… Fod yr wybodaeth yn cael ei chadw Unrhyw eithriad sy’n berthnasol Trothwy cost (y disgwylir iddo fod yn £500) Ceisiadau cynhennus neu ail-adroddol Hawliau newydd i’r Cyhoedd

  7. Rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig Rhaid iddynt gynnwys enw a chyfeiriad y sawl sy’n gofyn Rhaid iddynt ddisgrifio’r wybodaeth y gofynnir amdani Ceisiadau am Wybodaeth Nid oes rhaid i geiswyr gyfeirio at y Ddeddf na dweud pam maen nhw’n gwneud cais am wybodaeth

  8. Eithriadau pendant Dim hawl i dderbyn gwybodaeth o dan Ryddid Gwybodaeth Mae’r dyletswydd cyfreithiol i ddarparu cyngor a chymorth i’r ymholydd yn parhau Eithriadau amodol Hyd yn oed os oes eithriad, mae’n rhaid i ysgolion ei ddatgelu os yw hynny er lles y cyhoedd Yr Eithriadau

  9. Mae cysyniad lles y cyhoedd yn fwriadol hyblyg Gall gynnwys: Meithrin trafodaeth gyhoeddus ar faterion o bwys cyfredol Meithrin atebolrwydd wrth wneud penderfyniadau ac wrth wario arian cyhoeddus Galluogi unigolion i ddeall penderfyniadau ac, mewn rhai sefyllfaoedd, cynorthwyo unigolion i herio’r penderfyniadau hynny Cyhoeddi gwybodaeth sy’n effeithio diogelwch cyhoeddus Beth yw’r Prawf Lles y Cyhoedd?

  10. Sut i adnabod cais am wybodaeth Fod gennym ddyletswydd i gynnig cyngor a chymorth Ein trefniadau ar gyfer delio a cheisiadau a phwy sy’n gyfrifol amdanynt Fod gennym 20 diwrnod gwaith i ymateb, heb gynnwys gwyliau ysgol Fod rhaid i wybodaeth gael ei darparu yn y ffurf y gofynnwyd amdano, ble y mae hynny’n ‘rhesymol ymarferol’ Ei bod yn drosedd droseddol i newid, difwyno, blocio, dileu, dinistrio neu guddio gwybodaeth er mwyn atal ei datgelu Delio a Cheisiadau Beth Mae Angen Inni Wybod?

  11. Dylid dilyn trefniadau cwyno mewnol yr ysgol Rhaid delio a’r mater o fewn y cyfnod targed ar gyfer penderfynu cwynion Hawl i apelio i’r comisiynydd gwybodaeth, sy’n: Meithrin cydymffurfiaeth Gorfodi’r gyfraith Rhoi gwybod i’r cyhoedd Hawl i apelio i’r tribiwnlys gwybodaeth Beth os nad yw’r ceisydd yn hapus gyda’n hymateb?

  12. Pa wybodaeth ydyn ni’n ei chadw? Allwn ni gael gafael ar wybodaeth yn rhwydd? Ydyn ni’n cofnodi gwybodaeth mewn ffordd ddarllenadwy? Beth yw ein polisiau cadw? Rheolaeth Cofnodion:

  13. Efallai y bydd gan drydydd partion hawl i dderbyn yr wybodaeth yr ydym yn ei chadw Mae’n drosedd droseddol i darfu ar gofnodion presennol y gwnaed cais i’w datgelu Dylech greu cofnodion gan gofio efallai y bydd pobl eraill eisiau eu gweld Nid oes unrhyw eithriad oherwydd embaras Cofiwch!

  14. Ymrwymiad o’r brig i weithio mewn ffordd agored Trefniadau cadw cofnodion da Cyfathrebu effeithiol yn yr ysgol Yr Allwedd i Ryddid Gwybodaeth

  15. Gwefan y comisiynydd gwybodaeth www.informationcommissioner.gov.uk Gwefan yr Adran Materion Cyfansoddiadol www.dca.gov.uk/foi/index.htm DfES – Gwefan y Llywodraeth www.governornet.co.uk DfES – Gwefan Teachernet www.teachernet.gov.uk Llinell ffon Llywodraethwyr – 0800 0722181 www.governorline.info Canllawiau a Gwybodaeth Bellach

More Related