50 likes | 286 Views
NID GOSGORDD NA BRENHINOL RWYSG Gaed i Frenin Nef, Na gwylnos weddi dan y s ê r Ar ei farw Ef; Na baner bri ar hanner mast Er gwarth y Groes, Na blodau'n perarogi'r ffordd Arweiniai at Ei fedd ar y Pasg cyntaf un. Dim torchau'n deyrnged ar y llawr - Gwatwar milwyr gaed,
E N D
NID GOSGORDD NA BRENHINOL RWYSG Gaed i Frenin Nef, Na gwylnos weddi dan y sêr Ar ei farw Ef; Na baner bri ar hanner mast Er gwarth y Groes, Na blodau'n perarogi'r ffordd Arweiniai at Ei fedd ar y Pasg cyntaf un.
Dim torchau'n deyrnged ar y llawr - Gwatwar milwyr gaed, A dim ond coron greulon ddrain Lle rhoes Ef ei waed; A ‘Brenin yr Iddewon’ oedd Y geiriau gwawd Adawyd gan y dorf ddi-hid; Ni wyddai neb Mai hwn oedd y Pasg cyntaf un.
Ond cana'r greadigaeth hardd Fawl i Frenin Nef. A dywaid clwstwr drud y sêr ‘Dewch, addolwch Ef!’ Blodeuodd dwy fil gwanwyn mwy Ai digon yw? Ni thawaf nes daw'r byd yn grwn I ganu cân Ei gariad y Pasg cyntaf un.
Fy ngweddi fydd yn bersawr drud Nawr i Frenin Nef; Fy nghariad fydd y blodau hardd Roddaf iddo Ef; Fy ngwylnos fydd ei ddisgwyl Ef Hyd nes y daw; Fy nheyrnged fydd ei ddilyn Ef, A siarad am Ei gariad y Pasg cyntaf un.
Cyn hir pob llygad cnawd a wêl Rymus Goncrwr bedd, A saint pob oes fydd wrth ei fwrdd - Rhannant yn ei wledd; Cael cwmni'r gwaredigion fydd Ei wobr fawr, A'u mawl tragwyddol ym mhob iaith Yn deyrnged hardd I'w aberth y Pasg cyntaf un. Graham Kendrick cyf. Casi Jones Hawlfraint c 1997 Make Way Music