1 / 13

Darllen gyda’n gilydd.

Darllen gyda’n gilydd. Reading Together. Y Rheolau Aur. Gwnewch ddarllen yn amser o fwynhad. Dysgwch i dderbyn ymdrech eich plentyn ac ymateb gyda chlod. Darllenwch lyfrau mae eich plentyn yn mwynhau a pheidiwch a gosod prawf iddynt. Canolbwyntiwch ar beth sy’n gywir yn hytrach nag anghywir.

dard
Download Presentation

Darllen gyda’n gilydd.

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Darllen gyda’n gilydd. Reading Together.

  2. Y Rheolau Aur • Gwnewch ddarllen yn amser o fwynhad. • Dysgwch i dderbyn ymdrech eich plentyn ac ymateb gyda chlod. • Darllenwch lyfrau mae eich plentyn yn mwynhau a pheidiwch a gosod prawf iddynt. • Canolbwyntiwch ar beth sy’n gywir yn hytrach nag anghywir. • Parhewch i ddarllen i’ch plentyn hyd yn oed ar ôl iddynt lwyddo i ddarllen. • Stopiwch pan gânt ddigon – nid cosb ydyw!

  3. Llawer o sylw yn y cyfryngau. Ysgolion yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau. Mae plant gwahanol yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol. Gweld a dweud – adnabod geiriau cyfan. Ffonetig – adeiladu geiriau. Llyfrau go iawn – rhannu storiau. Sut mae athrawon yn addysgu darllen?

  4. Pa ddull o addysgu yw’r gorau? • Does dim ffordd orau. • Plant gwahanol angen dulliau gwahanol. • Cymysgedd o ddulliau yn cadw sylw a brwdfrydedd. • Gemau, caneuon, rhigymau, labeli, posteri a.y.y.b yn gallu eu helpu i ddarllen.

  5. Dangoswch i’ch plentyn eich bod chi’n darllen hefyd. Rhanwch lyfrau gyda hwy bob dydd. Darllenwch brint yn eu hamgylchedd –arwyddion, posteri, labeli. Gadewch iddynt ddarllen eich rhestr siopa. Edrychwch am ragleni deledu yn y papur newydd. Creu amgylchedd gywir ar gyfer darllen. Trafodwch y lluniau cyn darllen. Darllenwch hoff lyfrau drosodd a throsodd. Darllenwch gymysgedd o ffuglen a ffeithiol. Cerddi a chaneuon yn ddechrau da – gallant ymuno i mewn. Sut allai helpu fy mhlentyn?

  6. Trafodwch ddechrau a diweddglo storiau. Trafodwch y cymeriadau. Trafodwch eich hoff lyfr. Rhedwch eich bys o dan y geiriau. Dywedwch y gair dros eich plentyn os nad yw’n ei wybod. Ysgrifenwch nodyn / neges i’ch plentyn. Sut allai helpu fy mhlentyn?

  7. Pryd yw’r amser gorau i ddarllen gyda fy mhlentyn? • Mae cyfleoedd i ddarllen yn codi bob dydd. • Mae’n bwysig rhoi amser o’r neilltu i ddarllen bob dydd – mae 5 munud bob dydd yn ddelfrydol. • Dewiswch amser sy’n gyfleus i chi a’r plentyn heb ymyrraeth. • Rhowch gymaint o ganmoliaeth a phosib. • Os nad ydych yn mwynhau, stopiwch!

  8. Mae darllen yn hwyl! • Mae gemau bwrdd, cardiau (snap, loto) yn helpu eich plentyn i gyfatebu lluniau a geiriau. • Hwiangerddi- torrwch linellau unigol a’u gludo at ei gilydd.. • Helfa drysor – creu cliwiau ysgrifenedig er mwyn dod o hyd i’r trysor!

  9. Ni wneith fy mhlentyn ddarllen i mi. Beth allai wneud? Peidwich a phoeni na creu ffws! Siaradwch ag athro eich plentyn. Parhewch i ddarllen a chwarae gemau gyda eich plentyn. Pwy fydd y cyntaf i ffeindio “ ……”? Beth os yw’n mhlentyn yn gwneud camgymeriad? Os yw’r “camgymeraid” yn gwneud synnwyr, gadewch i’ch plentyn barhau i ddarllen. Os nad yw’r “camgymeriad “ yn gwneud synnwyr, ail ddarllenwch y darn. Y peth pwysicaf yw bod yr ystyr yn eglur.. Cwestiynau a ofynnir yn aml gan rieni.

  10. Beth ddylwn i wneud os nad yw fy mhlentyn yn adnabod gair? Camau cyntaf – dwedwch y gair i gadw ystyr. Dwedwch y swn cyntaf wrth eich plentyn. Ydy’r plentyn yn gallu rhagfynegi’r gair? Helpwch eich plentyn i adeiladu’r gair. Dwedwch y gair wrth y plentyn. A ddylwn i guddio’r lluniau? Mae’n dibynnu ar y llyfr! Mae lluniau yn llawn o gliwiau a chliwiau am ddigwyddiadau. Anogwch eich plentyn I edrych ar y lluniau er mwyn rhagfynegi. Cwestiynau a ofynnir yn aml gan rieni. .

  11. Cwestiynau a ofynnir yn aml gan rieni. • Sut allai helpu pan mae fy mhlentyn am ddarllen yn dawel? • Trafodwch eu barn am y stori neu arddull yr awdur / darlunydd. • Parhewch i ddangos diddordeb yn eu darllen ond parchwch eu hanibyniaeth cynyddol fel darllenwyr. • Darllenwch storiau eraill i’r plant pan mae cyfle.

  12. Rydw i’n siarad Saesneg. Sut allai helpu fy mhlentyn i ddarllen Cymraeg? • Byddwch yn gefnogol o’r dechrau. • Annog eich plentyn i ddarllen yn uchel yn y ddwy iaith o’r dechrau. • Edrych ar y llyfrau mewn llyfr Cymraeg a’u trafod yn Saesneg – daw yr ystyr yn gliriach. • Gofyn i’ch plentyn ddweud y gair Cymraeg am bethau penodol – ceisio dod o hyd i’r gair Cymraeg yn y testun.

  13. Rhannu mwynhad yw’r ffactor bwysicaf. Annogwch eich plentyn a dangoswch ddiddordeb.

More Related