1 / 9

Ymbelydredd a radioisotopau

Ymbelydredd a radioisotopau. Dyddio Radiocarbon Technegau Dyddio Radiometrig Eraill. Dyddio radiocarbon. Dyddio Radioetrig. Mae Carbon-14 ( 14 C) yn isotop ymbelydrol o’r Carbon y mae pob peth byw yn ei gymryd i mewn yn ystod ei fywyd.

clay
Download Presentation

Ymbelydredd a radioisotopau

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Ymbelydredd a radioisotopau • Dyddio Radiocarbon • Technegau Dyddio Radiometrig Eraill

  2. Dyddio radiocarbon Dyddio Radioetrig Mae Carbon-14 (14C) yn isotop ymbelydrol o’r Carbon y mae pob peth byw yn ei gymryd i mewn yn ystod ei fywyd. • Ym mha ffordd mae'n wahanol i Carbon-12 anymbelydrol (12C) Nid yw 14C yn dod o bethau byw, ond caiff ei gynhyrchu yn yr Atmosffer. Mae Pelydrau Cosmig yn cynhyrchu Niwtronau cyflym sy'n taro atomau o Nitrogen-14 (14N), gan droi'r 14N hwn yn 14C. Mae'r 14C hwn yn cymysgu gydag Ocsigen i gynhyrchu 14CO2 a amsugnir gan blanhigion ac felly anifeiliaid. Niwlews yr atom Mae Carbon-14 ymbelydrol i’w gael ym mhob organeb byw. Carbon deuocsid yn ei drosglyddo i’r cylchred fwyd

  3. Dyddio radiocarbon Hafaliadau geiriau • Ffurfiant 14C: 14N + niwtron (n) 14C + proton (p) • Dadfeiliad 14C: Yn y pen draw bydd 14C yn dadfeilio nôl i 14N drwy'r broses hon; 14C 14N + gronyn beta (b) HANNER OES 14C YW 5730 O FLYNYDDOEDD, SY'N GOLYGU BYDD HANNER Y GRONYNNAU 14C MEWN CREADUR WEDI MARW WEDI TROI NÔL YN 14N AR ÔL POB 5730 BLWYDDYN.

  4. Dyddio radiocarbon Sut mae'n gweithio? Ar ôl i beth byw farw mae'n peidio â chymryd 14C i mewn, oherwydd mae'n peidio â bwyta ac anadlu. Felly, bydd y swm o 12C (Carbon anymbelydrol) yn aros yr un peth, tra bydd y swm o 14C yn lleihau. Trwy fesur y gymhareb 14C/ 12C yn yr atmosffer a'i chymharu â'r gymhareb yn y sampl marw mae gwyddonwyr yn mesur oedran y peth byw hwnnw ers ei farwolaeth. Noder Yr oedran mwyaf y gall radiocarbon ei roi yw 50000 o flynyddoedd, oherwydd ar ôl y terfyn hwnnw mae'n amhosibl canfod y swm o 14C yn y sampl.

  5. Dyddio radiocarbon CYMHAREB 14C/ 12C Ar ôl marw, mae'r swm o 12C yn aros yn gyson, ond mae'r swm o 14C yn lleihau.

  6. Yr angen am raddnodi • Mae planhigion yn gwahaniaethu rhwng 12C a 14C, h.y. maen nhw'n cymryd llai o 14C na'r disgwyl, gan wneud i'r sbesimen ymddangos yn hŷn. • Yn ystod y chwyldro diwydiannol roedd ffatrïoedd yn llosgi llawer o lo a thanwyddau ffosil eraill, gan ryddhau llawer o 12C i'r atmosffer  byddai mwy o 12C yn golygu y byddai sbesimenau'n edrych yn hŷn nag y maent. • Mae rhai Gwyddonwyr yn credu bod llifogydd Genesis wedi claddu llawer o garbon a drodd yn lo, olew ac ati. Gwnaeth hyn ostwng y 12C yn yr atmosffer, tra bod 14C yn dal i gael ei gynhyrchu  byddai mwy o 14C yn y gymhareb ar ôl y llifogydd yn gwneud i sbesimenau cyn y llifogydd edrych yn hŷn nag y maent.

  7. Dulliau dyddio radiometrig eraill Mae'r dulliau hyn yn defnyddio'r crynodiadau o gynhyrchion GWREIDDIOL ac EPIL mewn cadwynau dadfeiliad ymbelydrol. GWREIDDIOL  yw’r sylwedd ymbelydrol ar y dechrau EPIL yw'r sylwedd mae'r GWREIDDIOL yn dadfeilio iddo. Enghraifft WRANIWM-238 PLWM-206 Yn dadfeilio i GWREIDDIOL EPIL

  8. Tair tybiaeth angenrheidiol Mae gwyddonwyr yn defnyddio'r dull GWREIDDIOL-EPIL i ddyddio creigiau. Mae'r dull hwn ond yn gweithio os yw'r holl dybiaethau canlynol yn wir.

  9. Problemau gyda'r dulliau hyn • Ni ellir profi'r tybiaethau hyn oherwydd ni allant fod yn destun arsylwi gwyddonol uniongyrchol • Dylai'r dulliau weithio'n ddibynadwy ar bethau y mae eu hoedran yn ddiffiniedig • Dylai gwahanol dechnegau dyddio gytuno'n gyson

More Related