110 likes | 312 Views
TGAU Mathemateg Datrys Problemau Trin Data Haen Uwch. Help llaw. Mae Jacob yn dweud y gall y tatws lleiaf bwyso 100g. Ydy o’n gywir i ddweud hyn? Esboniwch eich ateb. Meddyliwch am yr anhafaleddau. Beth yw ystyr 100 < w ≤ 200 ?. Mae Jacob yn rheoli ffatri greision.
E N D
TGAU Mathemateg Datrys Problemau Trin Data Haen Uwch
Help llaw Mae Jacob yn dweud y gall y tatws lleiaf bwyso 100g. Ydy o’n gywir i ddweud hyn? Esboniwch eich ateb. Meddyliwch am yr anhafaleddau. Beth yw ystyr 100 < w ≤ 200 ? Mae Jacob yn rheoli ffatri greision. Mae Jacob eisiau penderfynnu a ddylai ddefnyddio tatws Lady Rosetta, Hermes neu Saturna i wneud ei greision. Mae’r 3 math o datws yr un pris i’w prynu fesul cilogram. Mae Jacob yn darganfod y wybodaeth ganlynol am y 3 math o datws. a) Mae’r tabl yn dangos dosraniad pwysau’r tatws mewn sach yn cynnwys 50 o datws Lady Rosetta.
Ateb Mae Jacob yn dweud y gall y tatws lleiaf bwyso 100g. Ydy o’n gywir i ddweud hyn? Esboniwch eich ateb. 100 < w ≤ 200 Ystyriwch yr ochr chwith: 100 < w Mae hyn yr un peth a w > 100 Mae hyn yn golygu fod y pwysau yn fwy na 100, nid yn fwy na neu’n hafal i, felly nid yw hyn yn gywir, ni all y tatws bwyso 100g.
Dwysedd Amledd Help Llaw Amledd = Dwysedd amledd x lled y dosbarth Pwysau tatws Hermes Mae’r histogram yn dangos dosraniad pwysau (mewn gramau), y tatws mewn sach o datws Hermes. Faint o datws sydd yn y bag?
Ateb Mae’r histogram yn dangos dosraniad pwysau (mewn gramau), y tatws mewn sach o datws Hermes. Faint o datws sydd yn y bag? Dwysedd Amledd 100 x 0.14 = 14 100 x 0.22 = 22 100 x 0.36 = 36 200 x 0.14 = 28 Pwysau tatws Hermes 14 + 22 + 36 + 28 = 100
Dwysedd Amledd Help llaw Rydych chi wedi darganfod yr amledd ar gyfer 300 < w ≤ 500. Darganfyddwch yr amledd ar gyfer 280 < w ≤ 300. Pwysau tatws Hermes Mae’r histogram yn dangos dosraniad pwysau (mewn gramau), y tatws mewn sach o datws Hermes . Darganfyddwch y tebygolrwydd o ddewis tatws sydd yn pwyso o leiaf 280g.
Mae’r histogram yn dangos dosraniad pwysau (mewn gramau), y tatws mewn sach o datws Hermes . Darganfyddwch y tebygolrwydd o ddewis tatws sydd yn pwyso o leiaf 280g. Ateb Dwysedd Amledd Darganfyddwch yr arwynebedd i’r chwith o’r llinell yma 28 20 x 0.36 = 7.2 Pwysau tatws Hermes 280 7.2 + 28 = 35.2, felly’r tebygolrwydd yw 35.2/100 = 0.352, gan fod 100 tatws yn y sach.
Mae Jacob eisiau defnyddio’r math o datws sydd â’r pwysau cymedrig uchaf i greu ei greision. Defnyddiwch y wybodaeth a roddir i benderfynnu pa un o’r tri math o datws y dylai Jacob eu prynu. Help llaw Defnyddiwch y wybodaeth sydd wedi ei roi yn y tabl uchod ynghyd a’r wybodaeth yr ydych chi wedi ei gasglu hyd yn hyn. Ystyriwch gymedr/canolrif/modd/amrediad/ tebygolrwydd y tatws. Mae’r tabl yn dangos gwybodaeth am sach yn cynnwys 25 o datws Saturna.
Ateb Mae Jacob eisiau defnyddio’r math o datws sydd â’r pwysau cymedrig uchaf i greu ei greision. Defnyddiwch y wybodaeth a roddir i benderfynnu pa un o’r tri math o datws y dylai Jacob eu prynu. Ystyriwch y canolrif ar gyfer y 3 math o datws: Lady Rosetta: 50 tatws Amcangyfrif ar gyfer y canolrif - y 25ain gwerth. Mae hyn yn gorwedd yn y cyfwng 200 < w ≤ 300 Saturna: Gwerth 1-15 Y 23 gwerth nesaf h.y. 16- 38 Mae’r 25ain gwerth yn gorwedd fan yma.
Dwysedd Amledd Mae’r 50fed gwerth yn gorwedd yn y cyfwng 200 < w ≤ 300 Hermes: 100 tatws. Amcangyfrif ar gyfer y canolrif - 50fed gwerth. Y 36 gwerth nesaf 37-72 Y 22 gwerth nesaf 15-36 14 gwerth cyntaf 1-14 Pwysau tatws Hermes Mae’r canolrif ar gyfer tatws Lady Rosetta a Hermes yn gorwedd rhwng 200 < w ≤ 300. Tatws Saturna sydd gyda’r anolrif uchaf sef 320g, h.y mae 50% o datws Saturna yn pwyso o leiaf 320g. Dyma’r tatws gorau i’w dewis wrth ystyried y canolrif.
Wrth ystyried y tebygolrwydd o ddewis tatws sydd yn pwyso o leiaf 300g gwelwn : Lady Rosetta: 8 + 4 = 12 tatws yn pwyso o leiaf 300g 12/50 = 24% Hermes: 28 tatws yn pwyso o leiaf 300g 28/100 = 28% Saturna: 50% o’r tatws yn pwyso yn fwy na 320g (o’r canolrif), felly mae mwy na 50% yn pwyso o leiaf 300g 28 Mae’r canlyniadau yn dangos fod yna gyfrannedd uwch o datws trymach gan datws Saturna. Dylai Jacob brynu tatws Saturna.