1 / 16

Lechyd a lles gwartheg godro

Lechyd a lles gwartheg godro. Amcanion dysgu. Cofio’r pum rhyddid ar gyfer anifeiliaid. Deall pwysigrwydd cynnal iechyd a lles y gwartheg godro. Cydnabod atal a thrin problemau iechyd cyffredin mewn gwartheg. Pwysigrwydd iechyd a lles. Mae iechyd a lles y gwartheg godro

brendy
Download Presentation

Lechyd a lles gwartheg godro

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Lechyd a lles gwartheg godro

  2. Amcanion dysgu • Cofio’r pum rhyddid ar gyfer anifeiliaid. • Deall pwysigrwydd cynnal iechyd a lles y gwartheg godro. • Cydnabod atal a thrin problemau iechyd cyffredin mewn gwartheg.

  3. Pwysigrwydd iechyd a lles Mae iechyd a lles y gwartheg godro ar frig blaenoriaethau pob ffermwr llaeth. Mae iechyd, lles a hirhoedledd yn cael eu blaenoriaethu dros gynnyrch llaeth. Mae’r ffermwyr ar bob un o’r 17,000 o ffermydd llaeth ledled y DU yn gwneud yn siwr bod eu gwartheg yn cael y gofal gorau posibl gyda bwyd maethlon, digon o ddŵr a siedau a chaeau helaeth.

  4. Pum Rhyddid • ‘Pum Rhyddid’ y Cyngor Lles Anifeiliaid Fferm yw: • Rhyddid rhag newyn a syched; • Rhyddid rhag anghysur; • Rhyddid rhag poen, niwed neu afiechyd; • Rhyddid i ymddwyn yn arferol; • Rhyddid rhag ofn a thrallod.

  5. Pasbort anifeiliaid Mae pob un o’r gwartheg godro ym Mhrydain yn gwisgo tag clust â rhif unigryw. Mae’r rhifau hyn i’w gweld ar basbort y gwartheg hefyd. Gall pob pasbort olrhain mam yr anifail, lle’i ganed ac unrhyw newid mewn lleoliadau yn ystod ei fywyd.

  6. Gwiriadau iechyd gyr Mae ffermwyr llaeth yn cydweithio â milfeddygon neu arbenigwyr eraill i ddatblygu cynlluniau iechyd ar gyfer eu gyrr Mae’r rhain yn cynnwys gwybodaeth fel rhaglenni atal a thriniaeth ar gyfer afiechydon a mân anhwylderau cyffredin, ynghyd ag amserlenni brechiadau. Mae’r cynllun iechyd yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.

  7. Pori Mae’r rhan fwyaf o wartheg godro yn cael eu cadw dan do dros y gaeaf a’r tywydd garw. Mae’r gwartheg godro yn pori allan yn ystod yr haf, gan symud allan o’u siedau dan do. Y tu allan maent yn cael y cyfle i bori’n hamddenol, ymarfer eu cyrff drwy gerdded o gwmpas, cael awyr iach a golau naturiol.

  8. Siedau gwartheg Mae’r rhan fwyaf o wartheg godro dan do yn ystod y gaeaf, ond mae rhai ffermydd yn cadw’r gwartheg dan do drwy’r flwyddyn. Cynlluniwyd siedau i sicrhau bod digon o le i’r gwartheg ymarfer, cymdeithasu a gorffwys. Rhaid i siedau gydymffurfio â chynllun Ffermydd Llaeth Sicr, (ADF), gan sicrhau eu bod yn cwrdd â’r ‘Pum Rhyddid’.

  9. Maethegwyr anifeiliaid Mae angen deiet iach a chytbwys ar wartheg er mwyn cynhyrchu llaeth, felly mae ffermwyr llaeth yn gweithio gyda maethegwyr i greu cynlluniau deiet arbennig. Bydd y deiet yn darparu cydbwysedd maethlon o ynni, protein, fitaminau a mwynau. Wrth gynllunio deiet mae’r maethegwyr yn ystyried oedran a phwysau’r gwartheg, ynghyd â faint o laeth meant yn debygol o gynhyrchu.

  10. Menter y Tractor Coch Mae symbol y Tractor Coch ar becyn yn golygu bod y llaeth a’r cynnyrch llaeth wedi cael eu cynhyrchu yn unol â safonau’r cynllun Gwarant Ffermydd Llaeth. Datblygwyd hwn gan ffermwyr llaeth, proseswyr, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) a Chymdeithas Milfeddygon Gwartheg Prydain.

  11. Menter y Tractor Coch The scheme sets higher standards for: • Mae’r cynllun yn gosod safonau uwch ar gyfer: • mynediad at fwydydd maethlon a dŵr ffres; • ysguboriau a phorfeydd eang a chysurus; • y gofal gorau gan filfeddygon.

  12. Gofid iechyd: mastitis Haint yng nghadair y fuwch yw mastitis, sy’n cael ei achosi gan facteria yn cael mynediad drwy’r deth ac yn heintio’r chwarren laeth. Gellir ei adnabod drwy gochni a chwyddo yn y gadair. • Rheolir yr haint drwy: • amgylchedd hylan; • godro hylan; • maeth da.

  13. Gofid iechyd: symudedd y gwartheg godro Mae cloffi yn haint parhaus yn y droed neu’r goes sy’n amharu ar symudedd y gwartheg godro. Mae ffermwyr llaeth yn canolbwyntio ar ofal ataliol, er enghraifft, drwy ddefnyddio tociwr traed, baddon traed a defnyddio’r milfeddyg yn rheolaidd. • Er mwyn lleihau cloffni, mae ffermwyr hefyd wedi gwella: • y llwybrau a’r arwynebedd mae gwartheg yn sefyll ac yn cerdded arnynt; • stondinau sied a’r buarth.

  14. Gofid iechyd: tiwberciwlosis gwartheg Mae’r afiechyd tiwberciwlosis gwartheg (bTB) yn un cronig a heintus. Mae’n anodd gwneud diagnosis cynnar a gall lledaenu’n gyflym drwy’r gyr cyn cael ei ddarganfod. Ar hyn o bryd, yr unig ffordd o atal yr afiechyd rhag lledaenu yw difa’r gwartheg heintiedig.

  15. Crynodeb • Mae iechyd a lles y gwartheg godro ar frig blaenoriaethau pob ffermwr llaeth. • Rhaid i bob ffermwr llaeth sicrhau eu bod yn cwrdd â’r ‘Pum rhyddid’ i anifeiliaid. • Mae pasbort gwartheg, gwiriadau iechyd gyr, milfeddygon a maethegwyr anifeiliaid i gyd yn cyfrannu at sicrhau safon iechyd dai wartheg godro. • Mae ffermwyr yn cymryd camau i atal a thrin problemau iechyd cyffredin fel mastitis, cloffni a tiwberciwlosis gwartheg.

  16. Am fwy o wybodaeth ewch i: www.foodafactoflife.org.uk

More Related