1 / 41

Rhoi Diwedd ar Gosb Gorfforol i Blant

Rhoi Diwedd ar Gosb Gorfforol i Blant. ‘Sdim Curo Plant! Children are Unbeatable! Cymru. Beth Ddywed Plant. ‘Mae’n gwneud i chi deimlo’n drist’ (merch 8) ‘Mae’n llosgi eich pen ôl’ (bachgen 5) ‘Mae’n ofnadwy .... poenus’ (merch 9) ‘Teimlo fel eich bod yn mynd i farw’ (merch 6)

avye-pugh
Download Presentation

Rhoi Diwedd ar Gosb Gorfforol i Blant

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Rhoi Diwedd ar Gosb Gorfforol i Blant ‘Sdim Curo Plant! Children are Unbeatable! Cymru

  2. Beth Ddywed Plant • ‘Mae’n gwneud i chi deimlo’n drist’ (merch 8) • ‘Mae’n llosgi eich pen ôl’ (bachgen 5) • ‘Mae’n ofnadwy .... poenus’ (merch 9) • ‘Teimlo fel eich bod yn mynd i farw’ (merch 6) • ‘Teimlo’n sâl’ (bachgen 6) • ‘Tu mewn eich corff yn brifo’ (merch 6) (Children Talk: About Smacking, SC 2003)

  3. Diben Y Cyflwyniad • Rhoi gwybodaeth am • fater cosbi plant yn gorfforol • y sefyllfa gyfreithiol gyfredol yn y Deyrnas Unedig • Hyrwyddo trafodaeth ac ateb cwestiynau • Trafod ffyrdd y medrech chi neu’ch sefydliad gefnogi’r neges DIM cosb gorfforol

  4. 'Sdim Curo Plant!Children Are Unbeatable! • Sefydlwyd yn 2000 • Rhan o ymgyrch/cynghrair o unigolion a sefydliadau ar draws y DU • Ymgyrchu dros: • Newid y gyfraith – dileu amddiffyniad ‘cosb resymol’ • Hyrwyddo dulliau ‘cadarnhaol’ didrais o reoli ymddygiad plant – dim cosb gorfforol

  5. Y flaenoriaeth i’r grwp yma

  6. Cefnogwyr SCP! 45 grwp/asiantaeth yn cynnwys: • Coleg Brenhinol Paediatrig ac Iechyd Plant • Fforymau Diogelu Plant Gogledd a De Cymru • 4 Pwyllgor Ardal Amddiffyn Plant • 7 Grwp Cymorth i Fenywod a Cymorth i Fenywod Cymru 400+ o unigolion yn cynnwys: • 27+ Aelod Cynulliad • 12 Aelod Seneddol • Comisiynydd Plant

  7. Y sefyllfa gyfreithiol bresennol • Plant yw’r unig grwp o ddinasyddion Prydeinig y mae’n gyfreithiol eu bwrw • Mae “cosb resymol” yn amddiffyniad yn erbyn cyhuddiad o “ymosod cyffredin” • Mae ‘cerydd rhesymol’ yn hen amddiffyniad cyfraith gyffredin yn dyddio’n ôl i 1860 a gaeth ei ddisodli fel rhan o Ddeddf Plant 2004 a ddaeth i rym ar 15 Ionawr 1005 • Pleidleisiodd 10 o ASau Cymru ar gyfer y cymal (a drechwyd) a fyddai wedi rhoi amddiffyniad cyfartal i blant

  8. Ymosodiad cyffredin ar gyfer plant yw: • Bregusrwydd y dioddefwr, megis pan fydd y dioddefwr yn ... blentyn y mae oedolyn wedi ymosod arno (lle mae’r ymosodiad yn achosi unrhyw un o’r anafiadau y cyfeiriwyd atynt yn isbaragraff (vii) uchod, heblaw drwy gochni’r croen, y cyhuddiad fel arfer fydd ymosodiad yn achosi gwir anaf corfforol, er fod yn rhaid i’r erlynwyr gadw mewn cof fod y diffiniad o ymosodiad yn achosi gwir anaf corfforol yn golygu fod angen i’r digwyddiad fod yn fwy na dros dro a dibwys);

  9. Pam diwygio’r gyfraith? (1) Achosion ar ôl Deddf Hawliau Dynol Hydref 2000: • Tad yn hitio mab 4 oed ar draws ei gefn gyda gwregys 3+ gwaith, gan achosi cleisio, am fethu medru ysgrifennu ei enw – rhyddfarn ‘cerydd rhesymol’ (2001) • Tad yn bwrw merch 12 ar ei hwyneb – chwyddo ac anhawster symud ei gên. ‘Fe’i gwnes er ei lles ei hun. Dwi’n gwybod sut i dorri pen dyn i ffwrdd ... Dim ond slap fechan oedd hi’. Rhyddfarn. Dywedodd y barnwr fod ‘cyfiawnhad llwyr’ dros ei weithredoedd (2001)

  10. Pam diwygio’r gyfraith? (2) • Soniodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) am 12 achos rhwng Ionawr 2005 a Chwefror 2007 lle defnyddiwyd amddiffyniad “cosb rhesymol”. Roedd y rhain fel arfer wedi arwain at ryddfarn neu ddod â’r achos i ben.

  11. Diben Diwygio’r Gyfraith • Yw rhoi’r un amddiffyniad i blant dan y gyfraith ag sydd gan oedolion • Nid gwneud troseddwyr o rieni • Yw diogelu plant • Yw hyrwyddo perthynas iach • Yw gostwng gwrthdaro o fewn a’r tu allan i’r cartref • Yn enghraifft o ddefnyddio’r gyfraith fel erfyn addysgol

  12. Cosb Gorfforol – diffiniad ymchwil “Cosb gorfforol yw defnyddio grym corfforol gyda’r bwriad o wneud i’r plentyn brofi poen, ond dim anaf, i gywiro neu reoli ei ymddygiad. Mae’r diffiniad hwn yn sôn am y ‘bwriad o wneud i’r plentyn brofi poen’ am ddau reswm. Y rheswm cyntaf yw ei wahaniaethu oddi wrth weithredoedd sydd â dibenion eraill ond a all hefyd achosi poen, megis gosod eli gwrthseptig ar friw. Yr ail reswm yw gwneud y ffaith yn glir fod achosi poen yn fwriadol, ac nid yn sgil-effaith.” (Strauss 1996)

  13. Ymchwil 1: Cysylltu Cosb Gorfforol a Cham-drin Corfforol Enghreifftiau o dystiolaeth gynyddol o gysylltiad • NSPCC 1980-89: roedd y rhan fwyaf o achosion o gam-driniaeth a erlynwyd wedi dechrau fel ‘cosb gyffredin a aeth yn rhy bell’ • ‘Astudiaeth mynychder’ Canada 1993: roedd 85% o’r holl achosion sylweddol o gamdriniaeth yn ymwneud â “chosb” • Astudiaeth Durrant yn Sweden 1999: ar ôl y gwaharddiad ar gost gorfforol rhieni, gostyngodd marwolaethau plant ar ddwylo rhieni o 1 y flwyddyn i 1 mewn saith mlynedd o gymharu gydag 1 yr wythnos yn y Deyrnas Unedig

  14. Ymchwil 2: Effeithiau cosb gorfforol – meta-ddadansoddiad o 88 astudiaeth • Natur fwy ymosodol – fel plentyn ac oedolyn • Llai o allu ar gyfer cydymdeimlad • Llai o fewnoli agweddau foesol disgyblaeth • Mwy o debygolrwydd o ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol fel oedolyn – yn cynnwys cam-drin cymar a/neu blentyn • Tystiolaeth o effaith ar iechyd meddwl • Peth cynnydd mewn cydymffurfiaeth ar unwaith – yn lleiaf rhwng 2-6 oed ac ymysg bechgyn (E.Thompson Gershoff,2002)

  15. Ymchwil 3: Canlyniadau eang smacio plant • Pum gwaith y gyfradd o ddiffyg cydymffurfiaeth ymysg plant bach • Cynnydd pedair gwaith mewn ymosodiadau difrifol ar frodyr a chwiorydd • Dwywaith y gyfradd o ymosodedd corfforol ymysg plant chwech oed yn erbyn plant eraill yn yr ysgol • Sylweddol fwy o rai 4 oed yn methu cyflawni y potensial gwybyddol y gwnaethant ei ddangos yn 1 oed • Cynnydd o 84% yn y tebygolrwydd o ymddygiad treisgar yn y glasoed (Amrywiol)

  16. Ymchwil 4: Effeithiau cadarnhaol peidio defnyddio – neu roi’r gorau i – gosb gorfforol • Lle mae ADHD ac ymosodedd yn cydfodoli, mae newid disgyblaeth dreisgar/gorfodol adref yn delio gyda’r anrhefn ymddygiad (Paterson 2001) • Yr unig blant nad oedd eu hymddygiad ymosodol yn gwella drwy raglen arbennig oedd y rhai yr oedd eu mamau’n defnyddio disgyblaeth dreisgar adref (Webster Stratton 2001)

  17. Cyd-Destun 1: Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • 191 o wledydd wedi cadarnhau. Cadarnhaodd y Deyrnas Unedig yn 1991 • Erthygl 19 - Diogelu rhag trais corfforol .... camdriniaeth gan rieni, gwarcheidwaid, gofalwyr • Erthygl 24 – Cymryd mesurau i ddiddymu arferion traddodiadol yn niweidiol i iechyd plant

  18. Cyd-Destun 2: Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Pwyllgor y CU ar Gonfensiwn Hawliau’r Plentyn 2il Adroddiad ar y DU • fel mater o frys dileu’r amddiffyniad ‘cosb resymol’ a gwahardd pob cosb gorfforol yn y teulu • hyrwyddo dulliau cadarnhaol, cyfranogol a didrais o ddisgyblaeth a pharch at hawl gyfartal plant i urddas dynol ac integriti corfforol (Hydref 2002)

  19. Cyd-Destun 2: Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (parhad) • Ar 2 Mehefin 2006 cyhoeddodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawl y Plentyn “Sylw Cyffredinol” ar “Hawl y plentyn i ddiogeliad rhag cosb gorfforol a dulliau eraill creulon neu ddiraddiol o gosb”. Pwysleisiodd yr Pwyllgor awdurdodol fod dileu cosb dreisgar a bychanol i blant, drwy ddiwygio’r gyfraith a mesurau eraill angenrheidiol, yn oblygiad digymwys ac uniongyrchol ar gyfer gwladwriaethau sydd wedi cadarnhau’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn

  20. Cyd-Destun 2: Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (parhad) Roedd y sylw cyffredinol uchod gan y Cenhedloedd Unedig yn dilyn adroddiad Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar Drais yn erbyn Plant yn galw ar bob gwlad i wahardd pob gosb gorfforol yn y teulu, yn yr ysgol a phobman arall erbyn 2009.

  21. Cyd-Destun 3: Ewrop Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol • Erthygl 3 - ni fydd neb yn gorfod dioddef triniaeth neu gosb annynnol neu ddiraddiol • 1998 – Achos A v UK, barnu bod Llyworaeth y DU yn torri Erthygl 3 Siarter Cymdeithasol Ewropeaidd • Erthygl 17 yn galw am waharddiad yn y gyfraith yn erbyn unrhyw fath o drais yn erbyn plant

  22. Cyd-Destun 4:Gwledydd Eraill Mae 23 o wledydd wedi diwygio’r gyfraith ar sail egwyddor er mwyn gwahardd smacio: Yr Almaen (2000) Awstria(1989) Bwlgaria (2000) Chile (2007) Croatia(1999) Cyprus(1994), Denmarc(1997) Ffindir (1983), Groeg (2006) Gwlad yr Iâ(2003) Hwngari (2005) Yr Iseldiroedd (2007) Israel(2000) Iwcrân (2004) Latvia(1998) Norwy(1987) Portiwgal Seland New.(2007) Romania (2004) Sbaen (2007) Sweden(1979), Uruguay (2007) Venezuela (2007) http://www.endcorporalpunishment.org

  23. Sweden 1979 Sweden oedd y wlad gyntaf i wahardd smacio • cefnogaeth y cyhoedd dros gosb gorfforol 53% (1965) i 11% (1994) • dim cynnydd mewn erlyniadau • nifer is o blant mewn gofal • tystiolaeth fod rhieni yn gofyn am help ynghynt • dim cynnydd mewn ymddygiad ‘gwrthgymdeithasol’ (A Generation Without Smacking - SC 2000)

  24. Y Farn Gyhoeddus • 58% yn cefnogi newid y gyfraith os ydynt yn sicr na chaiff rhieni eu herlyn am smaciau ‘dibwys’ • 97% yn dweud na ddylai rhieni gael caniatad i gosbi babanod (dan 18 mis oed) yn gorfforol • Mae rhieni a gafodd eu bwrw eu hunain yn fwy tebygol o ddefnyddio cosb gorfforol (70%) • 79% o rhieni yn teimlo’n wael ar ôl bwrw eu plentyn • 40% o rieni yn credu nad yw smacio’n effeithiol P. Cawson, Child Maltreatment in the Family, NSPCC, 2002.

  25. Beth Dywed Plant? • Mae’n gwneud i chi deimlo’n drist’ (merch 8) • ‘Mae’n llosgi eich pen ôl’ (bachgen 5) • ‘Mae’n ofnadwy .... poenus’ (merch 9) • ‘Teimlo fel eich bod yn mynd i farw’ (merch 6) • ‘Teimlo’n sâl’ (bachgen 6) • ‘Tu mewn eich corff yn brifo’ (merch 6) (Children Talk: About Smacking - SC 2003)

  26. Agweddau Llywodraeth • San Steffan yn dweud NA i newid • Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymrwymedig ers Hydref 02 i newid y gyfraith

  27. Llywodraeth Cynulliad Cymru Maes cyfrifoldeb heb ei ddatganoli C C C yn ymrwymedig ers Hydref 02 i newid y gyfraith Gwlad gyntaf y DU i gymryd safiad ar sail egwyddor ac yn gyson wrth gydnabod: • hawliau plant (Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn), • mater amddiffyn plant • rhan o agenda Cam-drin yn y Cartref • angen cefnogaeth rhieni Cyflwyno tystiolaeth sawl gwaith i San Steffan Awyddus i ganfod ffordd i hyrwyddo safiad y Cynulliad

  28. Cymru - Camau (1) • Chwef ’02: Rheoliadau Gwarchod Plant Cymru; dim cosb gorfforol • Medi ‘02: Cytuno ar ddiffiniad estynedig o drais yn y cartref • Hydref ‘02: Datganiad Llywodraeth y Cynulliad yn erbyn cosb gorfforol i blant ac o blaid diwygio’r gyfraith • Hydref ’02; ymlaen Llywodraeth y Cynulliad yn cyflwyno tystiolaeth i San Steffan, e.e. llythyrau i weinidogion, ymateb i ymgynghoriad Cyfiawnder a Diogelwch, ymateb i ymgynghoriad Pob Plentyn yn Cyfri • Ionawr ’04: 41 o Aelodau Cynulliad trawsbleidiol yn cefnogi newid y gyfraith (dadl ar y Mesur Plant)

  29. Cymru - Camau (2) • Ionawr ’04: – ASau o Gymru ar daith canfod ffeithiau i Sweden • Drwy gydol ’04: lobio helaeth yn San Steffan a Chymru i gynyddu cefnogaeth i sicrhau amddiffyniad cyfartal yn Neddf Plant 2004 • Chwef ’04: Cyhoeddi “Gweithredu’r Hawliau” • Hydref ‘04: “Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Mamolaeth yng Nghymru” - Awgrymu dulliau addas ar gyfer rheoli ymddygiad plant sy’n cefnogi barn Llywodraeth Cynulliad Cymru fod cosbi plant yn gorfforol yn annerbyniol. Rhif 2. 48, t 28 • Mynd i’r afael â thrais yn y cartref – Strategaeth Cymru 2005 • Rhagfyr ’05: Cynllun Gweithredu Rhianta

  30. Cymru - Camau (3) • Rhianta Cadarnhaol Powys – Dewisiadau heblaw Smacio 2003 – 04. Cynhadledd, arddangosfa, taflen, gwaith gyda rhieni • Gwrando ar Blant yn Sir Benfro PP Sir Benfro a CS Penfro Chwef 2004 • Mae taro pobl yn anghywir ... Chwef 2005 Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc – Seminar

  31. Ymchwil Llansawel ‘Help wrth Law’ – Mai 06 • Wythnos o weithgareddau yn hyrwyddo dewisiadau heblaw smacio plant • Aml-asiantaeth, sefydlwyd gan SCP! • Gweithgareddau ar draws y gymuned • Ariannwyd gan Lywodraeth y Cynulliad • Adroddiad, papur gwybodaeth a chrynodeb gweithredol ar gael

  32. Llyfryn Llywodraeth y Cynulliad • Mae llyfryn ar Rianta Cadarnhaol gyda’r neges “Dim Smacio” yn cael ei ddatblygu drwy’r Fforwm Magu Blant • I fynd gyda “O Amser Brecwast i Amser Gwely” ac “Ymddygiad dros ben llestri ...” http://www.plantyngnghymru.org.uk/areasofwork/parenting/forparents/bookletsforparents/index.html

  33. Pecyn Cymorth Help wrth Law • Pecyn cymorth i newid agweddau ac ymddygiad yn ymwneud â chosb gorfforol plant • Lansiwyd gan SCP! ym Mawrth 2008 • Gall amrywiaeth eang o grwpiau ac unigolyn ddefnyddio’r deunyddiau • Pecyn cymorth ar y we gyda dolenni i adnoddau eraill a gweithgareddau a dalenni gwybodaeth ar y safle www.pecyncymorthhelpwrthlaw.info/

  34. Datblygiadau Eraill (1) • 2003: Cyd-Bwyllgor Seneddol ar Hawliau Dynol Adroddiad ar Gonfensiwn y Deyrnas Unedig ar Hawliau’r Plentyn - “Mae’r diffyg parch y mae amddiffyniad cosb resymol yn ei gyfleu i hawl plant i fod yn rhydd o ymosodiad corfforol yn annerbyniol ...” “...daeth yr amser i’r Llywodraeth i weithredu ...” • 2003: Pwyllgor Iechyd Ty’r Cyffredin Adroddiad ar Adroddiad Ymchwil Victoria Climbié - “ Anogwn y Llywodraeth i ... ddileu amddiffyniad cynyddol anomalaidd ‘cerydd rhesymol’.”

  35. Datblygiadau Eraill (2) 2003: Papur Gwyn y Swyddfa Gartref ar Drais yn y Cartref (Diogelwch a Chyfiawnder): Anogir y Llywodraeth i: • Ymestyn y diffiniad o drais yn y cartref i gynnwys plant • Gweithredu i ddileu amddiffyniad ‘cosb resymol’ Dywedodd ‘SCP! Cymru‘ Mae bodolaeth barhaus yr amddiffyniad ‘cosb resymol’ yng nghyswllt ymosodiadau ar blant yn nam angeuol mewn unrhyw strategaeth ‘gydlynol ac effeithlon’ i atal trais yn y cartref ac ymrwymiad y wladwriaeth i Dyna Ddigon. Os yw’r Llywodraeth yn parhau i gymeradwyo’n gyhoeddus gyfrifoldeb rhieni a all gynnwys bwrw plant, yna mae’r neges am drais yn y cartref yn ddryslyd iawn – Dyna Ddigon ond Dim i Blant

  36. Adolygiad y Llywodraeth o Adran 58 – Hydref 2007 • Pan gyflwynwyd Adran 58, addawyd adolygiad ar ôl 2 flynedd. • Gwahoddwyd ymatebion: cynhaliodd y Llywodraeth hefyd arolygon o rieni a phlant. • Roedd cefnogaeth lethol i newid y gyfraith, ar wahân i’r arolwg o rieni. • Dywedodd y llywodraeth y bydd yn cadw’r gyfraith fel y mae ar hyn o bryd yn absenoldeb tystiolaeth nad yw’n gweithio’n foddhaol.

  37. Beth fedrwch chi ei wneud? • Dod yn weithgar – beth ydych chi angen? • Cofrestru eich hunan • Cofrestru eich sefydliad • Cofrestru rhywun arall • Cofrestru sefydliad arall

  38. Beth all eich sefydliad ei wneud? • Gweithio gyda’ch grwp cleient • Gwneud y mater yn rhan o’r gwaith bob dydd • Hyfforddi eraill • Cyhoeddusrwydd ac ymgyfraniad y wasg • Rhoi, rhannu neu ddatblygu gwybodaeth • Tystiolaeth neu ymchwil • Darparu neu ddatblygu adnoddau

  39. Mae Taro Plant yn Anghywir a Dylai’r Gyfraith Ddweud Hynny! Mae Cosb Gorfforol yn: • torri hawliau dynol plant • achosi niwed ac anaf • aneffeithiol • drais/cam-drin yn y cartref • rhoi’r neges ‘trechaf treised, gwannaf gweidded’ • ychwanegu at lefelau trais yn y gymdeithas

  40. Cefnogwyr ‘SCP! • Gwasanaethau Chwarae Plant Caerdydd • Gwasanaeth Cenedlaethol Eiriolaeth Ieunctid • Gweithredu Cymunedol Myfyrwyr Abertawe • Law yn Llaw • Local Aid • Mudiad Ysgolion Meithrin • NCH Cymru • NCMA • NSPCC Cymru • Plant yng Nghymru • Pwyllgor Ardal Amddiffyn Plant Conwy • Pwyllgor Ardal Amddiffyn Plant Rhondda Cynon Taf • Pwyllgor Ardal Amddiffyn Sir Ddinbych • Pwyllgor Ardal Amddiffyn Plant Wrecsam • Pwyllgor Ardal Amddiffyn Plant Ynys Môn • SNAP Cymru • Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru • TACT Cymru • Uned Diogelwch Menywod Caerdydd • Ymddiriedolaeth Kidzone • Ymddiriedolaeth Buttle yng Nghymru • Ysbyty Tywysoges Cymru • Youthlink Wales • Achub y Plant Cymru • Adnodd Pen-y-bont ar Ogwr a’r Cylch ar gyfer Plant gydag Anableddau • Barnado’s Cymru • Cartref Bontnewydd • ChildSafe Cymru • Chwarae Cymru • Coleg Brenhinol Paediatreg a Lles Plant Cymru • Cwmni Your Theatr • Cychwyn Cadarn Conwy • Cychwyn Cadarn Pen-ybont ar Ogwr • Cymdeithas Genedlaethol Bws Chwarae • Cymdeithas Genedlaethol Gwarchod Plant Cymru • Cymdeithas Ieuenctid a Phlant Sir Gaerfyrddin • Cymdeithas Tai Hafan • Cymorth i Fenywod Aberconwy • Cymorth i Fenywod Aberteifi • Cymorth i Fenywod Bangor a’r Cylch • Cymorth i Fenywod BAWSO • Cymorth i Fenywod Blaenau Ffestiniog • Cymorth i Fenywod Caerdydd • Cymorth i Fenywod Cwm Rhymni • Cymorth i Fenywod Cymru • Cymorth i Fenywod De Gwynedd • Cymunedau sy’n Gofalu • Cynhalwyr Cymru • Fforwm Amddiffyn Plant De Cymru • Fforwm Amddiffyn Plant Gogledd Cymru • Fforwm Blynyddoedd Cynnar Sir Ddinbych • Grwp Iechyd Lleol Sir y Fflint

  41. Gair Olaf i’r Plant Ni ddylai person mawr fwrw person bach dim unrhyw un byth Amy 6 oed

More Related