1 / 12

Cabaret

Cabaret. Casglwyd ynghyd yn wreiddiol gan Mr. Ian Kilcoyne. Beth yw cabaret? Cabaret yw sioe lawr a fwriedir i ddiddanu cwsmeriaid mewn clwb nos neu d ŷ bwyta . Roedd y rhain yn arbennig o boblogaidd yn ystod y 1920au yn Ffrainc a’r Almaen.

aimee
Download Presentation

Cabaret

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cabaret Casglwyd ynghyd yn wreiddiol gan Mr. Ian Kilcoyne

  2. Beth yw cabaret? Cabaret yw sioe lawr a fwriedir i ddiddanu cwsmeriaid mewn clwb nos neu dŷbwyta. Roedd y rhain yn arbennig o boblogaidd yn ystod y 1920au yn Ffrainc a’r Almaen. Sioe lawr yw cyfres o eitemau o adloniant (perfformiadau) a gyflwynir mewn clwb nos

  3. Roedd Hitler a llawer o Natsïaid blaenllaw yn credu fod ffurfiau adloniant o’r fath yn ddirywiedig, yn enwedig gan fod llawer o’r cabarets yma yn cynnwys merched hanner noeth a llawer o ddiodydd alcoholig yn cael eu hyfed. Roedd Berlin, prifddinas Yr Almaen, yn enwog am ei bywyd nos gyda llawer o sioeau yn dod yn adnabyddus am eu caneuon a’u dawnsfeydd beiddgar (awgrymog, ymylu ar fod yn anweddus). Mae’r ffilm hon yn canolbwyntio ar un o’r cabarets hyn, ond mae’r darn y gwyliwch chi yn gyferbyniad â’r byd anllad a llwgr yr oedd llawer o Almaenwyr wedi cwympo iddo, yn ôl Hitler.

  4. 1) Gwyliwch y darn ffilm i gyd gyntaf.2) Gwyliwch y darn eto’n ofalus. Bydd eich athro yn oedi’r DVD, neu’r fideo, i ganiatáu i chi drafod yr hyn a weloch. Efallai yr hoffech ddefnyddio eich gwybodaeth eich hun am y Weriniaeth Weimar a’r Natsïaid wrth ateb y cwestiynau. 1. Pam, ydych chi’n credu, y byddai’r Natsïaid yn dewis y bachgen arbennig yna i ganu’r gân?

  5. 2. Rhowch sylwadau ar y gân * Sut mae’n dechrau? * Pa eiriau a ddefnyddir? * Beth yw’r teitl? * Pa fath o gân yw hi ar yr olwg gyntaf? * Sut mae’r gân yn newid?

  6. Mae’r haul ar y ddôl yn gynnes hafaidd.Y carw mewn coedwig yn rhedeg yn ffri.Yn wyneb y storm casglwn fel praidd.Mae ‘fory’n perthyn i mi. Cangen y coed yn llawn dail a gwyrddni,Daw aur o’r Rhein yn amlwg i’r lli.Ond rhywle yn anweledig ceir bri.Mae ‘fory’n perthyn i mi. Â’i lygaid ynghau y baban ‘n ei grudGwenyn yn heidio ar flodau fry.Cwyd, Cwyd,Yw sibrydiad y pryd;Mae ‘fory’n perthyn i mi. Click your left hand mouse button to reveal each verse.

  7. O Famwlad, o Famwlad,Rhowch yr arwydd i niWedi aros i’w weled y mae’ch plant chi. Daw, fe ddaw y wawrPan fydd y byd yn eiddo i mi.Mae ‘fory’n perthyn i mi! O Famwlad, o Famwlad,Rhowch yr arwydd i niWedi aros i’w weled y mae’ch plant chi.Daw, fe ddaw y wawrPan fydd y byd yn eiddo i mi.Mae ‘fory’n perthyn i mi!

  8. 3. Pa effaith mae’r gân yn ei gael ar… * Rhan fwyaf y bobl yn y café? * Y Sais?

  9. 4. Pam mae’r hen ddyn yn aros ar ei eistedd,ydych chi’n credu, ? Pam mae’n ymddangos yn fwy anhapus wrth i’r gân fynd yn ei blaen?

  10. Y Dystiolaeth Mae’r darn a weloch chi yn dod o ffilm Hollywood. Mae’r ffilm wedi’i seilio’n fras ar stori wir Sais ifanc o’r enw Christopher Isherwood a fu’n byw yn Yr Almaen yn y 1930au.

  11. Ysgrifennodd Christopher Isherwood lyfr o’r enw “Goodbye to Berlin” am ei brofiadau 5. ‘Mae’r darn ffilm yn dangos digwyddiad na ddigwyddodd mewn gwirionedd. Felly, nid yw o ddefnydd fel tystiolaeth ynglŷn â thwf y Blaid Natsïaidd.’Esboniwch yn ofalus a ydych yn cytuno neu’n anghytuno gyda’r datganiad hwn.

  12. Cwestiwn Estynedig 6. Enw llawn y Blaid Natsïaidd oedd Plaid Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol Yr Almaen. Sut mae’r darn ffilm yma’n dangos ac yn help i esbonio pam yr oedd cymaint o wahanolAlmaenwyr yn cefnogi’r Blaid Natsïaidd yn y 1930au? END

More Related