1 / 14

Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion

Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion. Cwrdd ag anghenion unigolion. Beth mae hyn yn ei olygu?. Nid yr un fydd anghenion pawb sydd ag angen gofal. Edrychwch ar y delweddau hyn ac awgrymwch ym mha ffyrdd y bydd angen gofal ar yr unigolion hyn. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion.

tyler
Download Presentation

Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion

  2. Cwrdd ag anghenion unigolion Beth mae hyn yn ei olygu? Nid yr un fydd anghenion pawb sydd ag angen gofal. Edrychwch ar y delweddau hyn ac awgrymwch ym mha ffyrdd y bydd angen gofal ar yr unigolion hyn. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion

  3. Pam mae cynllunio gofal yn bwysig? Mae cynllunio gofal yn rhoi sylw i holl anghenion yr unigolion sy'n gallu effeithio ar iechyd a lles, er enghraifft anghenion meddygol. A allwch feddwl am bum angen arall? Defnyddiwch y delweddau i'ch helpu a chliciwch ar bob un wedyn i weld ein hawgrymiadau. addysgol iechyd meddwl economaidd Anghenion gofal ? ? personol cefndir ethnig a diwylliannol meddygol Drwy ystyried amgylchiadau ehangach yr unigolyn, gellir personoli cynllunio gofal ar ei gyfer. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion

  4. Y cylch cynllunio gofal: beth mae'n ei gynnwys Trafodwch beth mae pob cam yn ei olygu a chliciwch ar y blychau wedyn i gael mwy o wybodaeth. Gall gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol wneud hyn, neu unigolyn neu ei ofalwr. Atgyfeirio Mae hyn yn pennu'r cymorth y mae ar yr unigolyn ei angen. Trafod effeithiolrwydd y cynllun gofal ac a ddylai'r gofal barhau, gael ei wella neu ei leihau. Asesu Cynhychu cynllun gofal sy'n nodi pwy fydd yn gwneud beth a pha bryd, a'r gwasanaethau y bydd yn eu defnyddio. Cynllunio Gofal Adolygu/Gwerthuso Gwirio i sicrhau bod yr unigolyn yn cael y gofal cywir, ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir. Monitro Gweithredu Cyflawni'r cynllun gofal. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion

  5. Y cylch cynllunio gofal: y ffordd o'i gyflawni Trafodwch sut mae pob cam yn cael ei gyflawni a chliciwch ar y blychau wedyn i gael mwy o wybodaeth. Dros y ffôn, drwy'r e-bost neu lythyr i'r gwasanaethau cymdeithasol neu feddyg teulu. Atgyfeirio Yn achos gofal cymdeithasol, gwneir hyn yn y cartref fel arfer lle bydd cyfweliad â'r unigolyn ac arsylwir arno'n cyflawni set o dasgau ymarferol. Yn achos gofal iechyd, bydd hyn yn digwydd mewn ysbyty fel arfer. Adolygir pob cynllun gofal o fewn y chwe wythnos gyntaf ac o leiaf unwaith y flwyddyn. Bydd cyfarfodydd ymysg y tîm amlddisgyblaethol a hefyd â'r unigolyn a'i deulu. Asesu Bydd tîm amlddisgyblaethol yn cwrdd, ac yn ymgynghori â'r unigolyn a'r gofalwr. Cynllunio Gofal Adolygu/Gwerthuso Ymweld â'r cartref, galwadau ffôn, llythyrau, holiaduron, arsylwi a chofnodi unrhyw gwynion. Monitro Gweithredu Bydd y rheini sydd wedi'u henwi yn y cynllun gofal yn cyflawni'r tasgau sydd wedi'u nodi ar eu cyfer. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion

  6. Rhoi'r cynllun gofal ar waith Nawr gwyliwch y clip fideo hwn am Gladys, menyw oedrannus sydd â chynllun gofal sy'n ei galluogi i aros gartref. Wrth wylio'r clip, meddyliwch am fanteision y cynllun gofal i Gladys. Cliciwch yma i gael tabl gwag i'w lenwi wrth wylio'r fideo. Cliciwch ymai gael tabl sy'n cynnwys rhai syniadau enghreifftiol i'w cymharu â'ch rhai chi. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion

  7. Pwy allai gael ei atgyfeirio ar gyfer asesu? Gellir atgyfeirio unigolion sydd ag amrywiaeth o anghenion iechyd neu gymdeithasol. Defnyddiwch y lluniau isod i'ch helpu a chliciwch ar bob un wedyn i weld ein hawgrymiadau. Pobl â nam ar y synhwyrau Pobl ag anableddau dysgu Pobl ag anghenion iechyd meddwl Pwy? Pobl sy'n camddefnyddio sylweddau Pobl ag anableddau corfforol Gofalwyr sydd ag angen cymorth Pobl hŷn ag anghenion gofal Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion

  8. Beth mae asesu'n ei gynnwys? Edrychwch ar y delweddau hyn a thrafodwch beth allai asesu ei olygu. Mae asesu'n golygu ystyried galluoedd yr unigolyn yn fanwl er mwyn pennu ei anghenion gofal. Cliciwch yma i weld enghraifft o restr wirio ar gyfer asesu. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion

  9. Pwy sy'n cymryd rhan wrth asesu? Mae nifer o ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cymryd rhan yn y broses cynllunio gofal ochr yn ochr â'r unigolyn a'i ofalwr. Cofnodwch rai enghreifftiau yma a chliciwch ar y blychau isod wedyn i weld ein hawgrymiadau. Gofal Iechyd Gofal Cymdeithasol Gweithiwr cymdeithasol neu weithwyr eraill gan gynnwys therapydd galwedigaethol. Mewn practisau meddygon teulu: nyrsys practis Mewn ysbytai: nyrsys arbenigol Mewn cartrefi: Metronau cymunedol, rheolwyr achosion a gweithwyr gofal cymdeithasol. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion

  10. Pa ofal sy'n cael ei roi drwy gynllun gofal? Cofnodwch enghreifftiau yma ac wedyn cliciwch ar y blychau isod i weld ein hawgrymiadau. Gofal Cymdeithasol Gofal Iechyd Anghenion gofal iechyd cyffredinol: • Meddyginiaeth • Hylendid personol • Siopa • Newid gorchuddion/cathetrau • Golchi a smwddio • Mynd i mewn ac allan o'rgwely • Coginio • Gwirio pwysedd gwaed • Cludiant • Glanhau • Gofal lliniarol • Offer anabledd ac addasiadau yn y cartref • Ffisiotherapi Cymorth i wneud tasgau byw pob dydd: Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion

  11. Ymyriadau Dewiswch chwe ymyriad isod y gellid eu cynnwys yn y cynlluniau gofal ar y dde. Cliciwch i amlygu'r lliw sy'n cyfateb i'r cynllun gofal. Sedd toiled uwch Ymweliadau gan weithwyr gofal penodedig Gosod lifft grisiau Urddas a hylendid (1 clic) Hebrwng i bractis meddyg teulu Rhoi pigiadau Gwirio pwysedd gwaed System intercom Newid gorchuddion Rhoi meddyginiaeth Diogelwch a sicrwydd (2 glic) Cymorth i wisgo Darparu cyllyll a ffyrc wedi'u haddasu Gosod cawod cerdded i mewn Casglu presgripsiynau Canllaw diogelwch ar y gwely Larwm galw am gymorth Gofal iechyd (3 chlic) Darparu padiau anymataliaeth Golchi dillad Gosod peiriant codi o'r bath Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion

  12. Prif nodweddion y cynllun gofal Trafodwch brif nodweddion y cynllun gofal gan gofio ateb y cwestiynau canlynol: Beth? Pwy? Pa bryd? Wedyn cliciwch i weld ein hawgrymiadau. • Pa ofal neu offer y mae eu hangen. • Pwy sy'n gyfrifol am ddarparu'r gofal, gwasanaeth neu offer hyn. • Pwy sy'n gyfrifol am sicrhau bod y cynllun gofal wedi'i gyflawni. • Enwau'r bobl allweddol sy'n gysylltiedig a sut i gysylltu â nhw. • Pa bryd mae disgwyl i'r gwasanaethau ddechrau. • Dyddiad adolygu. Cliciwch ymai weld cynllun gofal gwag enghreifftiol. Cliciwch ymai weld cynllun gofal enghreifftiol wedi'i lenwi. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion

  13. Manteision cynllunio gofal Mae tair mantais wedi'u rhestru isod. A allwch feddwl am bump arall? Cofnodwch eich syniadau ac wedyn cliciwch i weld ein hawgrymiadau. Mantais 2 Mantais 1 Mantais 3 Dewis o driniaethau wedi'i benderfynu gan grŵp o arbenigwyr, yn hytrach nag un meddyg. Gofal wedi'i gydgysylltu'n well a dilyniant gwell. Gwneud diagnosis cywir. Mantais 4 Mantais 5 Mantais 6 Mantais 7 Mantais 8 • Llai o oedi wrth gael gofal ac amseroedd aros byrrach. • Ystyried yr holl anghenion gofal. • Hyrwyddo annibyniaeth. • Gofal a gwasanaethau wedi'u personoli. • Cynnig gwybodaeth briodol a chyson. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion

  14. Astudiaethau achos Edrychwch ar yr astudiaethau achos isod a meddyliwch am anghenion gofal y ddau unigolyn. Trafodwch sut byddai cynlluniau gofal yn cael eu dyfeisio ar eu cyfer. Mae Sophia yn 38 oed. Mae'n briod a chanddi ddau blentyn. Ar ôl darganfod lwmp yn ei bron mae wedi cael diagnosis o ganser. Ymchwiliwch i'r ddarpariaeth leol o ofal sydd ar gael i helpu menywod drwy wneud diagnosis, atal a thrin canser y fron. Cliciwch yma i weld tabl sy'n dangos yr anghenion sydd wedi'u pennu ar gyfer y ddau unigolyn. Mae Stuart yn fachgen 5 oed a gafodd ddiagnosis o barlys yr ymennydd ar ôl damwain. Nawr rhaid iddo ddefnyddio cadair olwyn, mae ei leferydd yn aneglur ac mae arno angen cymorth â phob gweithgarwch byw pob dydd. Mae'n byw gyda'i rieni a dau frawd. Ymchwiliwch i'r ddarpariaeth leol o ofal sydd ar gael i ddiwallu anghenion gofal y teulu. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion

More Related