1 / 22

Modiwl 9: Arian tramor

Modiwl 9: Arian tramor. Amcanion y modiwl

barney
Download Presentation

Modiwl 9: Arian tramor

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Modiwl 9: Arian tramor

  2. Amcanion y modiwl • Rhoi cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) i weld ble mae addysgu dysgwyr am gyfrifo gan ddefnyddio arian tramor yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru. • Tynnu sylw at yr adnoddau a’r gweithgareddau y gellir eu defnyddio yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 i ddatblygu sgiliau rhifedd dysgwyr yng nghyd-destun cyfrifo gan ddefnyddio arian tramor. • Sylwch: Bydd gwahaniaethu, syniadau ymestyn a chwestiynu effeithiol yn cael eu hawgrymu’n aml yn y nodiadau o fewn y PowerPoint i athrawon/hyfforddwyr eu defnyddio yn ôl yr angen.

  3. Nodau’r dysgwyr • Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r broses o gyfrifo gan ddefnyddio cyfraddau cyfenwid ac arian tramor. • Bydd dysgwyr yn gallu: • gwerthfawrogi lleoedd/ffyrdd gwahanol o brynu arian tramor • gwneud cyfrifiadau gan ddefnyddio cyfradd cyfnewid benodol • deall a dangos y broses go iawn o gyfnewid arian tramor.

  4. Y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) • Mae'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) yn canolbwyntio ar bedwar llinyn rhifedd: • Llinyn 1: Datblygu ymresymu rhifyddol • Llinyn 2: Defnyddio sgiliau rhif • Llinyn 3: Defnyddio sgiliau mesur • Llinyn 4: Defnyddio sgiliau data.

  5. Cydran rhifedd y FfLlRh • Llinyn: Defnyddio sgiliau rhif • Elfennau: • Defnyddio ffeithiau rhif a’r berthynas rhwng rhifau • Ffracsiynau, degolion, canrannau a chymhareb • Cyfrifo gan ddefnyddio dulliau meddwl ac ysgrifenedig • Amcangyfrif a gwirio • Rheoli arian

  6. Deilliannau dysgu’r FfLlRh Mae’r tablau canlynol yn dangos y deilliannau dysgu fel y’u nodir yng nghydran rhifedd y FfLlRh. Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y pwnc arian tramor ac mae’r deilliannau dysgu penodol wedi’u hamlygu mewn teip trwm.

  7. Arian tramor Gweithgaredd cychwynnol: Beth yw cyfradd cyfenwid? Pam mae cyfraddau cyfnewid yn bodoli?

  8. Arian tramor a chyfraddau cyfenwid Gweithgaredd trafod: Ble allwch chi brynu arian tramor? Ydyn nhw i gyd yn cynnig yr un gyfradd cyfnewid?

  9. Adding up to a lifetime Adnodd ar-lein rhad ac am ddim yw hwn sy’n dilyn pedwar cymeriad a sut maen nhw’n delio â sefyllfaoedd ariannol. Mae’n addas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3 i Gyfnod Allweddol 5. Mae’r pecyn yn cynnwys tua 25 awr o weithgareddau dysgu y gall dysgwyr eu cwblhau ar-lein. Caiff ei gyflwyno fel pum modiwl: • Bywyd fel myfyriwr (14 oed a hŷn) • Bywyd gwaith • Perthnasoedd • Bywyd newydd • Ymddeoliad egnïol. Mae’r modiwlau’n cynnig yr ystod lawn o bynciau rheoli arian. www.addinguptoalifetime.org.uk Mae tiwtorial sain gyda phob modiwl y gallwch wrando arno yn Gymraeg neu yn Saesneg.

  10. Adding up to a lifetime Mae’r modiwl ‘Bywyd fel myfyriwr (Life as a student)’ yn archwilio amryw o bynciau. Ewch i www.addinguptoalifetime.org.uk (Saesneg yn unig), cliciwch ar ‘Menu’ a dewiswch y pwnc ‘Holidays’. Mae’r adnodd yn cwmpasu cyllidebu ar gyfer gwyliau, cyrchfannau, arian (tramor) ac yswiriant. Gall y gwaith gefnogi datblygiad sgiliau llythrennedd a rhifedd dysgwyr ac unrhyw waith prosiect ar wyliau.

  11. Cyfrifo gyda chyfraddau cyfenwid

  12. Ar gyfer pob punt rwy’n cael 1.17 ewro. Ar gyfer pob punt rwy’n cael ychydig dros un a hanner gwaith yn fwy o ddoleri UDA. Ar gyfer pob punt rwy’n cael ychydig llai na 3 lira Twrci.

  13. Arwyddion arian tramor Mae arwydd arian tramor yn symbol graffig a ddefnyddir fel llaw-fer ar gyfer enw’r arian tramor, a chaiff ei ddefnyddio i gynrychioli swm o arian. Ble mae’r arwydd wedi’i leoli – o flaen neu ar ôl y rhifau? Wrth ysgrifennu swm o arian mae safle'r symbol yn amrywio yn ôl yr arian tramor. Mae arian tramor yn defnyddio pwynt degol weithiau ac mae rhai yn defnyddio coma. $

  14. Papurau punt a cheiniogau Syniad trafod: Faint o geiniogau sydd mewn punt? Faint o sentiau sydd mewn un doler UDA? Sawl sent sydd mewn un ewro? Syniad trafod: Oes papur £3? Neu ddarn arian 25¢? Beth yw’r darn arian mwyaf sydd ar gael mewn ewros? $

  15. $100, $50, $20, $10, $5, $2, $1 Gall dysgwyr ymchwilio i ba ddarnau arian a phapurau punt sy’n cael eu defnyddio yn yr arian tramor o’u dewis. Rhoddir dwy enghraifft uchod. Mewn cyd-destun go iawn, wrth efelychu prynu arian tramor ar-lein, efallai y bydd dysgwyr yn sylwi y caiff y swm ei dalgrynnu i’r papur neu’r darn arian agosaf. Mae’n bosib y bydd hyn yn cynnwys comisiwn.

  16. Cyfrifo gyda chyfraddau cyfnewid Defnyddiwch y cyfraddau cyfenwid a roddwyd i gyfrifo swm yr arian tramor y byddwch chi’n ei gael am £400. Ceisiwch annog y dysgwyr i feddwl hefyd am y gwerthoedd bras y gallen nhw eu defnyddio i wneud y cyfrifiad.

  17. Cyfrifo gyda chyfraddau cyfnewid Defnyddiwch y cyfraddau cyfenwid a roddwyd i gyfrifo swm yr arian tramor y byddwch yn ei gael am £400. Ceisiwch annog y dysgwyr i feddwl hefyd am y gwerthoedd bras y gallen nhw eu defnyddio i wneud y cyfrifiad.

  18. Cyfrifo gyda chyfraddau cyfenwid • Aeth Finley ar daith i Efrog Newydd. • Newidiodd £750 i ddoleri ($) pan oedd y gyfradd cyfnewid yn £1 = $1.54.Faint o ddoleri oedd ei wedi’u cael? • Yn Efrog Newydd, prynodd Finley gamera newydd am $199. Gan ddefnyddio’r un gyfradd cyfenwid, cyfrifwch gost y camera, gan roi eich ateb i’r bunt agosaf. • Pan ddaeth Finley adref newidiodd $115 yn ôl i bunnoedd (£) pan oedd y gyfradd cyfenwid yn £1 = $1.64. Faint oedd e wedi’i gael? • Ymestyn • Oedd Finley ar ei ennill oherwydd bod y gyfradd cyfnewid yn $1.64 yn lle $1.54 pan newidiodd ei ddoleri yn ôl i bunnoedd? Rhowch esboniad i gefnogi eich ateb.

  19. Cyfrifo gyda chyfraddau cyfenwid Mae Olivia a James yn rhannu un babell ac yn aros dau noson yn safle gwersyllfa Ewro-wersylla. Maen nhw’n newid punnoedd i ewros ar gyfradd cyfnewid o 1.13 ewro i’r bunt. Cyfrifwch y gost, mewn punnoedd am aros dau noson mewn pabell fach heb unrhyw drydan.

  20. Cyfnewid arian tramor ac ieithoedd tramor modern • Syniadau i’r dysgwyr: • Lluniwch fwydlen bwyty/caffi gyda’r prisiau wedi’u newid o brisiau go iawn. • Prisiwch wyliau o wefan safle gwersylla neu barc thema Ewrop yn eich iaith dramor o ddewis. Os yw’r prisiau mewn ewros, rhan o’r dasg yw cyfrifo’r pris mewn sterling. • Newidiwch y gost i brynu eitemau o wefan ar-lein lle mae’r prisiau a’r wybodaeth yn cael eu rhoi yn yr iaith dramor a addysgir. • Cymharwch arian poced a gweithgareddau gwario dysgwyr o wlad wahanol, neu cymharwch gyflogau mewn ewros â galwedigaethau cyfatebol mewn sterling.

  21. Gwefannau ac adnoddau Gellir defnyddio’r canlynol i helpu gyda gwaith ar arian tramor. • www.nationwideeducation.co.ukSgiliau Arian: gemau, taflenni ffeithiau* a thaflenni gwaith* i ddysgwyr 4 i 18 oed a hŷn (adnoddau argraffiadwy a gemau ar-lein).* Fersiynau Cymraeg ar gael. • www.Addinguptoalifetime.org.ukMae’r modiwlau’n cynnig yr ystod lawn o bynciau rheoli arian gan gynnwys cyllidebu. • www.pfeg.orgMae pfeg (Personal Finance Education Group) yn elusen annibynnol sy’n darparu cyfoeth o adnoddau i gefnogi addysg ariannol mewn ysgolion. • www.xe.com/currencyconverter Cyfraddau cyfnewid ac aps newid arian tramor am ddim ar gael.

More Related