1 / 5

OFFER DJ: SUT I’W CAEL A SUT I’W GOSOD

AT DDEFNYDD TGAU CELFYDDYDAU PERFFORMIO CBAC, UNED 1 AC UNED 3, TASG 1. OFFER DJ: SUT I’W CAEL A SUT I’W GOSOD. Tasg 1. Defnyddiwch y we neu’r llyfrgell i ymchwilio i’r gwahanol fformatau sydd ar gael i DJs heddiw. (Finyl, CD . . . eraill !)

thisbe
Download Presentation

OFFER DJ: SUT I’W CAEL A SUT I’W GOSOD

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. AT DDEFNYDD TGAU CELFYDDYDAU PERFFORMIO CBAC, UNED 1 AC UNED 3, TASG 1 OFFER DJ: SUT I’W CAEL A SUT I’W GOSOD

  2. Tasg 1 • Defnyddiwch y we neu’r llyfrgell i ymchwilio i’r gwahanol fformatau sydd ar gael i DJs heddiw. (Finyl, CD . . . eraill!) • Defnyddiwch Word neu Excel i ddogfennu’r rhain ac wedyn ymchwiliwch i’r gwahanol ddarnau o offer sydd eu hangen ar gyfer pob fformat, gan lunio tabl, taenlen neu siart yn rhestru pob cydran y mae pob fformat ei hangen. Edrychwch am y cydrannau sy’n ofynion cyffredin i bob fformat a’r rhai sy’n benodol i un yn unig. • Defnyddiwch PowerPoint i ddangos pa fformat a ddewisoch, gan ddangos pob elfen a dweud pam eich bod wedi’i dewis.

  3. Tasg 2 • Defnyddiwch y we i ymchwilio i amrywiol werthwyr sy’n hysbysebu’r cydrannau a ddewisoch chi. • Casglwch wybodaeth am brisiau offer newydd ac ail-law. • Defnyddiwch dabl neu daenlen i ddangos eich gwybodaeth. • Cyflwynwch dair cymhariaeth prisiau – 1) newydd i gyd, 2) cyfuniad o newydd ac ail-law, a 3) ail-law i gyd. • Trafodwch eich dewis a’r rhesymau drosto (y defnydd a fwriedir, lle, cyllideb, ac ati).

  4. Tasg 3 • Gan ddefnyddio’r we a PowerPoint, lluniwch gyflwyniad sy’n dangod yr amrywiaeth o gysylltiadau a ddefnyddir i gysylltu’r gwahanol ddarnau offer wrth ei gilydd. • Cofiwch ddefnyddio lluniau yn ogystal â thestun i ddangos y gwahaniaethau rhwng pob math o gysylltiad. • Ceisiwch ddatblygu diagram i ddangos sut byddwch yn cysylltu’ch gosodiad chi, gan amlygu’r cysylltiadau a’r ceblau y bydd eu hangen. • Pwysleisiwch ystyriaethau diogelwch cysylltu offer trydanol wrth ei gilydd.

  5. Tasg 4 • Casglwch eich offer DJ i gyd ynghyd. • Penderfynwch pa wahanol gysylltiadau sydd eu hangen i gysylltu’r offer wrth ei gilydd. • Mae diogelwch yn hollbwysig! Cofiwch weithio o fewn polisi iechyd a diogelwch y sefydliad bob amser. • Cysylltwch yr offer. • Profwch eich cysylltiadau drwy sicrhau eich bod yn gallu clywed sain. • Os bydd unrhyw broblemau, edrychwch am atebion! • Cofnodwch bopeth a wnewch mewn nodiadau manwl.

More Related