1 / 8

Cerbydau Modur Lefel 3

Cerbydau Modur Lefel 3. Adnodd 5. Gosodiadau System Brecio Gwrth-gloi. Cerbydau Modur Lefel 3 Adnodd 5. Gosodiadau System Brecio Gwrth-gloi. Nod. Adnabod y gwahanol osodiadau sianel sydd ar gael ar gyfer cerbydau sydd â System Brecio Gwrth-gloi. Cerbydau Modur Lefel 3 Adnodd 5.

qamra
Download Presentation

Cerbydau Modur Lefel 3

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cerbydau Modur Lefel 3 Adnodd 5 Gosodiadau System Brecio Gwrth-gloi

  2. Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 5 Gosodiadau System Brecio Gwrth-gloi Nod Adnabod y gwahanol osodiadau sianel sydd ar gael ar gyfer cerbydau sydd â System Brecio Gwrth-gloi

  3. Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 5 Gosodiadau System Brecio Gwrth-gloi Amcanion Erbyn diwedd y sesiwn dylech allu: • Enwi’r gwahanol fathau o osodiadau sianel. • Tynnu llun o’r gosodiadau sianel. • Egluro sut mae’r gosodiad sianel yn effeithio ar berfformiad y system. • Egluro sut mae signalau’n cael eu hanfon o’r sensorau i’r Uned Rheolaeth Electronig.

  4. Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 5 Gosodiadau System Brecio Gwrth-gloi Pedair Sianel System Brecio Gwrth-gloi bedair sianel, bedwar sensor. • Hwn ydi’r cynllun gorau oherwydd mae sensor cyflymder wedi ei leoli ar bob olwyn unigol. • Mae falf i bob un o’r pedair olwyn. • Mae’r rheolydd yn monitro pob olwyn unigol er mwyn sicrhau na fydd yn llithro.

  5. Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 5 Gosodiadau System Brecio Gwrth-gloi Tair Sianel • Mae sensor cyflymder a falf ar wahân i bob un o’r ddwy olwyn flaen. • Dim ond un falf ac un sensor sydd ar gyfer y ddwy olwyn ôl. • Mae’r sensor cyflymder ar gyfer y ddwy olwyn ôl wedi ei leoli yn yr echel ôl. • Mae’r system hon yn rhoi rheolaeth ar wahân i’r ddwy olwyn flaen. • Fodd bynnag, mae’r olwynion ôl yn cael eu monitro gyda’i gilydd; rhaid i’r ddwy gychwyn cloi cyn y bydd y System Brecio Gwrth-gloi yn gweithredu ar yr olwynion ôl. • Felly, o gymharu’r ddwy system, mae’r system tair sianel yn llai effeithiol na’r system pedair sianel.

  6. Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 5 Gosodiadau System Brecio Gwrth-gloi Un Sianel • Mae gan y system hon un falf, sy’n rheoli’r ddwy olwyn ôl, ac un sensor cyflymder sydd wedi ei leoli yn yr echel ôl. • Yr olwynion ôl yn unig sy’n cael eu monitro gyda’i gilydd, ac mae’n rhaid i’r ddwy cychwyn cloi cyn y bydd y System Brecio Gwrth-gloi yn dod yn weithredol. • Yn arferol, bydd y system hon yn cynnwys un beipen frêc gyffordd T i’r olwynion ôl, gyda sensor cyflymder olwyn wedi ei leoli ar y differyn.

  7. Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 5 Gosodidau System Brecio Gwrth-gloi Crynodeb Mewn grwpiau o dri eglurwch bob gosodiad. Dylech egluro:- • Eu heffeithiolrwydd. • Eu cymhwysiad (pa gerbydau). • Sut mae’r signalau cyflymder olwyn yn cael eu hanfon i’r Uned Rheolaeth Electronig, a sut mae hynny yn atal llithro. A wnewch chi adrodd eich canfyddiadau yn ôl i’r dosbarth, os gwelwch chi’n dda.

  8. Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 5 Gosodiadau System Brecio Gwrth-gloi Crynodeb A ydyn ni wedi:- • Enwi’r gwahanol fathau o osodiadau sianel. • Tynnu llun o’r gosodiadau sianel. • Egluro sut mae gosodiad sianel yn effeithio ar berfformiad y system. • Egluro sut mae signalau’n cael eu hanfon o’r sensorau i’r Uned Rheolaeth Electronig.

More Related