1 / 6

Adnodd 17a Lluniau Symbylu

Adnodd 17a Lluniau Symbylu.

kalil
Download Presentation

Adnodd 17a Lluniau Symbylu

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Adnodd 17a Lluniau Symbylu Mae Sam sy’n 15 oed a Wyn sy’n 17 wedi bod gyda’i gilydd am flwyddyn ac wedi siarad am gael rhyw am y tro cyntaf. Roedd popeth wedi ei drefnu ar gyfer noson pan oedd rhieni Sam allan. Pan ddechreuodd y noson dyma Sam yn ailfeddwl a dweud wrth Wyn, “Dydw i ddim yn meddwl bod hyn yn syniad da”.

  2. Mae Matthew a Kate yn 16 oed ac wedi bod yn gweld ei gilydd am 6 mis. Mae ganddyn nhw berthynas rywiol. Tynnodd Matthew luniau noeth o Kate gan ddweud ei fod eisiau cael ei atgoffa pa mor brydferth oedd hi drwy’r amser. Cytunodd Kate cyn belled eu bod 'ond ar ei gyfer e’. Yn ddiweddarach mae Matthew yn brolio wrth ei ffrindiau am y lluniau ac yn eu hanfon at bawb sydd ar ei restr ‘Cysylltiadau’.

  3. Mae Cai a Ben wedi bod gyda’i gilydd am 6 mis ac wedi bod yn cysgu gyda’i gilydd am y 2 fis diwethaf. Bydd Ben yn aml yn anwybyddu ac yn gwneud hwyl o syniadau a chynlluniau Cai i fynd allan a chwrdd â ffrindiau. Yn aml bydd Cai yn siomedig ac nid yw bob amser eisiau cysgu gyda Ben.

  4. Mae Jen ac Al yn 17 oed ac wedi bod yn llygadu ei gilydd ers amser. Roedd Jen wrth ei bodd pan wnaeth Al y symudiad cynaf a’i chusanu. Nid oedd yn barod i gael rhyw a gwthiodd ei ddwylo i ffwrdd.

  5. Roedd Cari, a oedd yn 16 oed, yn paratoi i fynd i barti a dechreuodd yfed cyn iddi adael. Yn y parti cyfarfu â Dafydd, a oedd yn 18 oed. Gan fod Cari yn feddw iawn, rhoddodd Dafydd hi yn y gwely a dechrau ei chusanu.

  6. Mae Beca ac Alim yn 15 oed ac yn penderfynu cael noson gysurus yn y tŷ yn gwylio ffilm. Wrth i olygfa garu ddod ar y teledu mae Beca yn ymestyn am zip trowsus Alim. Mae Alim yn tynnu i ffwrdd.

More Related