1 / 26

Grant Amddifadedd Disgyblion

Grant Amddifadedd Disgyblion. Dr Brett Pugh, Cyfarwyddwr Y Grŵp Safonau Ysgolion a Gweithlu yr, Llywodraeth Cymru. Tlodi Plant – Darlun sy’n gwella?. Y flwyddyn ddiwethaf roedd nifer y plant oedd yn byw mewn tlodi 300,000 yn llai na’r flwyddyn cyn hynny OND

justis
Download Presentation

Grant Amddifadedd Disgyblion

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Grant Amddifadedd Disgyblion Dr Brett Pugh, Cyfarwyddwr Y Grŵp Safonau Ysgolion a Gweithluyr, Llywodraeth Cymru

  2. Tlodi Plant – Darlun sy’n gwella? • Y flwyddyn ddiwethaf roedd nifer y plant oedd yn byw mewn tlodi 300,000 yn llai na’r flwyddyn cyn hynny OND • Mae 2.3 miliwn o blant yn byw mewn tlodi yn y DU • Mae’r gostyngiad yn y ffigurau’n rhannol oherwydd gostyngiad yn incwm y teulu • Mae Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn rhagweld y bydd cynnydd o 400,000 yn nifer y plant sy’n byw mewn tlodi.

  3. Cynllun Gweithredu ar Gyfer Trechu Tlodi “Mae gan addysg rôl sylfaenol i helpu i godi pobl o'u tlodi ac i amddiffyn y rheini sydd mewn perygl o fod mewn tlodi a dan anfantais. Mae cysylltiad cryf rhwng cyrhaeddiad addysgol gwael, lefelau sgiliau isel ac iechyd a lles gwael.” Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi

  4. Amcanion y Cynllun Gweithredu ar Gyfer Trechu Tlodi • Atal Tlodi • Helpu Pobl i Drechu Tlodi • Camau i Liniaru Effaith Tlodi

  5. Effaith Amddifadedd Mae dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig yn fwy tebygol o: • gael cofnod presenoldeb gwael; • cael rhieni sy’n llai tebygol o gymryd rhan yn addysg eu plant; • bod yn llai iach; • peidio â bod mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant; ac • cael plentyn yn eu harddegau; Arfer effeithiol wrth fynd i’r afael â thlodi ac anfantais mewn ysgolion, Estyn -Tachwedd 2012

  6. Lle ydyn ni bellach?: perfformiad ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru ers 2007 6

  7. Gradd cyfartaledd sgôr prawf ger 22, 42, 60 a 120 misoedd statws economiadd-gymdeithasol rhieni a safle gradd gynnar Ffynhonnell: Feinstein, L., (2003) “Inequality in the Early Cognitive Development of British Children in the 1970 Cohort”. Economica, 70, 277, pp73-98

  8. Mae cymwysterau addysg yn cyfri yn y pen draw… 8

  9. Y polisi ehangach • Llythrenedd a Rhifedd – Fframwaith, profion darllen a rhifedd; • Rhaglen Gymorth Genedlaethol; • Hyfforddi Arweinwyr Systemau; • Cymunedau Dysgu Proffesiynol; • Datblygu polisi ac arferion o ran bodloni anghenion dysgu ychwanegol. Ac yn bwysicach i ni heddiw: • Alinio’r polisi ar leihau effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad gyda thrafod â theulu a’r gymuned.

  10. Y Grant Amddifadedd Disgyblion Bydd Grant Amddifadedd Disgyblion o £36.8 miliwn ar gael yn 2013-14. Mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn gyfle pwysig i ysgolion sicrhau cyllid uniongyrchol ar gyfer y prif fentrau i fynd i’r afael â’r prif faterion sydd yn ymwneud ag anfanteision economaidd-gymdeithasol.

  11. Y Grant Amddifadedd Disgyblion- Canllaw • Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllaw yn ddiweddar (Ebrill 2013) sy’n ymwneud â dau grant, sef y Grant Effeithiolrwydd Ysgolion a’r Grant Amddifadedd Disgyblion. • Mae’r canllaw wedi ei anelu at y consortia addysg, awdurdodau lleol ac ysgolion cynradd uwchradd ac arbennig yng Nghymru.

  12. Y GAD – Allbynnau a Chanlyniadau Ar gyfer 2013-14, rydym yn gofyn i’r holl gonsortia ddarparu tystiolaeth eu bod wedi cyflawni o ran allbynnau rhagamcanol – rhaid i’r rhai hynny sy’n gallu dangos cyrhaeddiad o ran deilliannau wneud hynny. Erbyn 2014-15, rydym yn disgwyl i’r consortia ddangos eu bod yn defnyddio data asesu i dargedu mewnbynnau i weithgareddau yn glir a’u bod yn gallu tracio’r allbynnau sy’n dilyn yn erbyn deilliannau. Bydd gofyn i bob consortia fesur effaith yn erbyn deilliannau yn eu hadroddiadau ar gyfer blwyddyn gyllid 2014-15 y Grant Effeithiolrwydd Ysgolion a’r Grant Amddifadedd Disgyblion.

  13. Y GAD – Cyhoeddi ar-lein Bydd gofyn i ysgolion gyhoeddi eu dyraniad GAD ar-lein ynghyd â... manylion am sut y defnyddiwyd y grant, faint o’r grant a wariwyd ac adroddiad ar effaith hynny.

  14. Y GAD - Y gwelliant disgwyliedig Bydd ysgolion yn gallu dangos gwelliant mewn cyrhaeddiad o ran disgyblion e-FSM dros y cyfnod o 3 blynedd. Bydd ysgolion yn gallu dangos gwelliant mewn cyrhaeddiad o ran plant sy’n derbyn gofal dros y cyfnod o 3 blynedd. Bydd presenoldeb y dysgwyr e-FSM sy’n cael cefnogaeth y grant yn gwella. Bydd presenoldeb y plant sy’n derbyn gofal sy’n cael cefnogaeth y grant yn gwella.

  15. Y GAD – Partneriaeth ar waith Bydd mentrau a ariennir gan y GAD yn cynnwys trafod â’r gymuned a’r rhieni a gweithio mewn partneriaeth.

  16. Y GAD - Tystiolaeth • Bydd y prif ffynhonnell o dystiolaeth yng nghynlluniau gwariant y GAD ac adroddiadau ar ddefnydd y GAD. Darperir tystiolaeth ar y ffurfiau isod hefyd: • asesiadau athrawon; • data o brofion darllen a rhifedd; • data blynyddol o ran cyrhaeddiad trothwy Lefel 2 gan gynnwys Saesneg/Cymraeg a Mathemateg (L2 yn gynwysedig) ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4; • data presenoldeb a gwaharddiadau; ac • arolygiadau Estyn.

  17. Y GAD a Cymunedau yn Gyntaf Arian Cyfatebol Cymunedau yn Gyntaf ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion

  18. Y GAD – Allbynnau a Deilliannau Cymeradwywyd 25 Datganiad o Ddiddordeb a gwahoddwyd hwy i wneud cais. Mae £2 filiwn ar gael i’w rannu dros y ddwy flynedd nesaf. Daeth cynigion llwyddiannus gan Glystyrau CG oedd yn gweithio gyda dwy ysgol yn eu hardal neu fwy na hynny. Ymgeisiwyd am gyllid CG drwy Gorff Cyflawni Arweiniol cymeradwy’r Clwstwr CG perthnasol. Roedd y cyllid a roddwyd yn cyfateb 50/50 gyda’r GAD. Rhoddir symiau rhwng £10,000 ac uchafswm o £75,000. Bydd gofyn i ysgolion sy’n cael Cyllid Cyfatebol CG fodloni Mesurau Perfformiad CG.

  19. Bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar enghreifftiau o arferion da i’w rhoi fel astudiaethau achos yn y dyfodol

  20. Y GAD - Gwerthuso • Comisiynwyd Ipsos Mori i wneud gwerthusiad manwl o effeithiolrwydd y Grant Amddifadedd Disgyblion. • Bydd hyn yn canolbwyntio ar sut y mae’r GAD yn cael ei ddehongli a’i roi ar waith yn ymarferol a’i effaith ar berfformiad disgyblion ac arferion mewn ysgolion. • Mae’r gwerthusiad eisoes ar waith. Bydd yn adrodd mewn dau gam – ym mis Ebrill 2014 ac ym mis Ebrill 2015.

  21. Beth arall? • Un o brif elfennau’r Cynllun Gwella Ysgolion • Cyfrannu at y Prosiect Gofal a Blynyddoedd Cynnar • Cysylltu â pholisïau allweddol, er enghraifft Teuluoedd yn Gyntaf

  22. Beth sy’n gweithio? • Pecyn Ymddiriedolaeth Sutton • Effaith Uchel / Cost isel, ee: • adrodd yn ôl ar berfformiad o’i gymharu â nodau dysgu • Dysgu i ddysgu (metawybyddiaeth) • Tiwtora Cyfoedion • Effaith isel / Cost uchel, ee: • Rhaglenni ar ôl ysgol • Cynorthwywyr Addysgu

  23. Beth yw cyfrinach ysgolion effeithiol? Darganfu Estyn bod ysgolion effeithiol: • yn mabwysiadu strategaethau ysgol gyfan • yn defnyddio data’n ddeallus • yn mynd i’r afael â datblygu sgiliau mewn ffordd holistig • yn rhoi rheswm i ddisgyblion ddod i’r ysgol, bod yn brydlon ac i ymddwyn yn briodol • yn trafod â rhieni a disgyblion • yn datblygu staff

  24. Beth am y Consortia? “…dwi o’r farn bod y darnio sydd wedi digwydd i addysg ar ôl diwygio llywodraeth leol wedi niweidio ein system addysg. Yn syml, doedd y capasiti ddim yna.” Leighton Andrews: ‘Mae addysgu’n gwneud gwahaniaeth: Blwyddyn yn ddiweddarach’

  25. Consortia ac Awdurdodau Lleol • Mae gan y Consortia ran i’w chwarae wrth ddod â gwelliant drwy eu cynlluniau gweithredu i gefnogi’r ysgolion sydd ym Mandiau 4 a 5 • Disgwylir iddynt hwyluso’r arferion gorau mewn ysgolion • Consortia ac Awdurdodau Lleol sicrhau eu bod yn gwybod sut y mae eu hysgolion yn perfformio • Rhaid fuddsoddi mewn sgiliau a darparu cyngor i ysgolion er mwyn eu galluogi i wella lle mae angen • Defnyddio’u pwerau i ymyrryd pan na fo ysgolion yn perfformio’n ddigonol.

  26. Diolch yn fawr Dr Brett Pugh, Cyfarwyddwr Y Grŵp Safonau Ysgolion a Gweithluyr, Llywodraeth Cymru

More Related