1 / 20

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMRAEG RHAGLEN AGAPE

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMRAEG RHAGLEN AGAPE. Rhaglen Genhadol i eglwysi’r Undeb gyda chefnogaeth ariannol CYNGOR Y GENHADAETH FYDEANG. RHAGLEN AGAPE.

jabari
Download Presentation

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMRAEG RHAGLEN AGAPE

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMRAEGRHAGLEN AGAPE Rhaglen Genhadol i eglwysi’r Undeb gyda chefnogaeth ariannol CYNGOR Y GENHADAETH FYDEANG

  2. RHAGLEN AGAPE • ‘Rhoddwyd i mi’, meddai Iesu, ‘bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân, a dysgu iddynt gadw’r holl orchmynion a roddais i chwi. Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser’ Mathew 28:18-20 (Y Comisiwn Mawr)

  3. RHAGLEN AGAPE • A dywedodd Iesu wrthynt, ‘Ewch i’r holl fyd a phregethwch yr Efengyl i’r greadigaeth i gyd’... Ac aethant hwy allan a phregethu ym mhob man, a’r Arglwydd yn cydweithio â hwy ac yn cadarnhau’r gair trwy’r arwyddion oedd yn dilyn.’ Marc 16:15 ac 20

  4. RHAGLEN AGAPE • ‘Fe dderbyniwch nerth wedi i’r Ysbryd Glân ddod arnoch, a byddwch yn dystion i mi...’ Actau 1:8 • A phob dydd yn y deml ac yn eu tai, nid oeddent yn peidio â dysgu a chyhoeddi’r newydd da am y Meseia, Iesu. Actau 5:42

  5. RHAGLEN AGAPE • ‘Ar sail ffydd yn enw Iesu y cyfnerthwyd y dyn yma yr ydych yn ei weld ac yn ei adnabod... Edifarhewch, ynteu, a throwch at Dduw, er mwyn dileu eich pechodau. Felly y daw oddi wrth yr Arglwydd dymhorau adnewyddiad...’ Actau 3:16 ac 19

  6. RHAGLEN AGAPE • Panel y Rhaglen Agape: Euros Wyn Jones, Hefin Jones, Ann Williams, Geraint Tudur (Cadeirydd), Dewi Myrddin Hughes, Noel Davies, Neville Hughes

  7. RHAGLEN AGAPE A yw ADDYSG Yr ydym am hybu ADDYSG, ymhlith gweinidogion a phobl leyg; addysg breswyl ac addysg o bell; addysg benodol Gristnogol ac am ein cyfrifoldeb i eraill ac i’r cread. • Beth yw anghenion addysg a hyfforddiant yn eich eglwys/ardal chi?A fyddai’n bosibl dechrau dosbarth neu gylch beiblaidd newydd?

  8. RHAGLEN AGAPE Bydd dau berson yn gyfrifol am hyfforddiant, drwy’r Undeb a Choleg yr Annibynwyr, un yn y Gogledd (yn gweithio o Fangor) a’r llall yn y De (yn gweithio o Goleg y Drindod, Caerfyrddin) Y Parchg. Euros Wyn Jones, Cyfarwyddwr Hyfforddi a Chydlynydd y Gogledd

  9. RHAGLEN AGAPE Penodwyd y Parchg Ddr Noel A. Davies, Abertawe, i fod yn Gydlynydd Hyfforddi yn y De, i weithio o Goleg y Drindod, Caerfyrddin

  10. RHAGLEN AGAPE G yw GWEINIDOGAETH Yr ydym yn mawrygu traddodiad y weinidogaeth yn ein plith ond yn gweld yr angen i addasu a datblygu... gyda’r symud a ddigwyddodd o ysgolheictod i’r ymarferol ac o yrfa am oes at wasanaeth rhan-amser neu fel rhan o yrfa yn unig. • Pa batrymau gwahanol o weinidogaeth sy’n bosibl yn eich eglwys/ardal chi?

  11. RHAGLEN AGAPE A yw ARWEINYDDIAETH Gyda llawer o’n heglwysi’n dioddef o ddiffyg arweiniad... yr ydym am weld to o arweinwyr lleol o bob oed yn codi, a thrwy hynny wneud gwahaniaeth i’n sefyllfa a gloywi ein tystiolaeth ar hyd a lled y wlad. • Pwy allai fod yn arweinwyr newydd yn eich eglwys/ardal chi?

  12. RHAGLEN AGAPE P yw PROSIECTAU Nid cymunedau llonydd yw eglwysi i fod ond pobl Dduw ar waith yn gwasanaethu eu Harglwydd yn y byd. Dyma gyfle i newid pethau a chael eglwysi i lunio prosiectau fydd yn cyffwrdd â chymaint o themâu fydd o wasanaeth i’n cymdogaethau ni. • Beth yw anghenion eich ardal? Pa brosiectau sy’n bosibl? Pwy fyddai’ch partneriaid?

  13. RHAGLEN AGAPE E yw EFFEITHIOLRWYDD Mae angen inni fod yn fwy effeithiol, yn ein cenhadaeth, yn ein gweithgarwch, yn ein cyfathrebu â’n gilydd, yn ein gofal am y cread ac yn ein defnydd o arian. • Beth yw mannau gwan eich eglwys chi? Beth fyddai’n ei gwneud yn fwy effeithiol? Beth yw’r cam cyntaf i’w gymryd ’nawr?

  14. RHAGLEN AGAPE • Bydd y Rhaglen Agape yn cynnig • Ysbrydoliaeth a fydd yn bywhau ac adnewyddu’r eglwysi yn nerth yr Ysbryd. • Gweledigaeth o’r hyn sydd ei angen a’r hyn SYDD YN BOSIBL yn y Gymru gyfoes drwy’r eglwysi ar waethaf – neu, efallai, trwy - eu gwendid. • Syniadau amrywiol a chreadigol am ffyrdd o dystio sydd eisoes yn gweithio’n effeithiol yma ac mewn rhannau eraill o’r byd. • Pobl fydd ar gael i sbarduno, i gymell, i gynghori, i hyfforddi, ac i gerdded ochr yn ochr â ni. • Adnoddau amrywiol fydd yn rhoi deunydd creadigol, cyngor ac arweiniad inni. • Yn olaf, - ac nid yn gyntaf! - cymorth ariannol i helpu talu am y gweithgareddau hyn.

  15. RHAGLEN AGAPE • Bu cydweithio agos rhwng panel yr Undeb a phanel Eglwys Bresbyteraidd Cymru

  16. RHAGLEN AGAPE Penodwyd y Parchg Meirion Morris, Llansannan, yn Ysgogydd Rhaglen Agape

  17. RHAGLEN AGAPE “Yn y tair blynedd nesaf nid oes amser i’w wastraffu. Mae’n rhaid bwrw iddi a chael y maen i’r wal.” Geraint Tudur

  18. RHAGLEN AGAPE AADDYSG G GWEINIDOGAETH A ARWEINYDDIAETH P PROSIECTAU E EFFEITHIOLRWYDD

  19. RHAGLEN AGAPE • YstyrAGAPE yw CARIAD • CARIAD yw Rhaglen Genhadol Duw yn Iesu • Rhaglen CARIAD aberthol Duw ar waith yw AGAPE “Do, carodd Duw y byd gymaint fel y rhoddodd ei unig Fab...” “Carwch eich gilydd fel y cerais i chwi...” • Ein braint ni yw cael ymuno yn y rhaglen hon

  20. RHAGLEN AGAPE GWEDDI’R RHAGLEN Dduw pob cariad, clodforwn di am ein galw ni i rannu yng nghenhadaeth gyffrous dy gariad yn ein dyddiau ni. Boed i ARWEINIAD dy Ysbryd ein cymhwyso, wrth inni gyflawni ein GWEINIDOGAETH a’n cenhadaeth yn y byd. ADDYSGA ni, fel y byddwn yn ddisgyblion mwy fyddlon i Iesu Grist a rho inni awydd dwfn i gyflawni PROSIECTtosturi a chyfiawnder ei deyrnas ef yn ein cymdogaeth, fel y gallwn fod yn dystion mwy EFFEITHIOL i newyddion da Iesu Grist yng Nghymru heddiw. Arglwydd, bywha, adnewydda ac ailadeilada ni, dy bobl yma yng Nghymru, i fod, drwy dy ras, yn bobl addas i’th wasanaethu, er dy glod a’th ogoniant, Dduw Dad, Mab ac Ysbryd Glân. Amen.

More Related