1 / 8

Dyma rai syniadau i’ch helpu gyda chyflwyniad a manylion eich syniadau terfynol.

Dyluniad Terfynol – Lluniad cyflwyniad. Lluniadwch ddiagram o ddyluniad terfynol y bag – defnyddiwch bensilau lliw i ddarlunio lliw a gwead y bag. Dyma rai syniadau i’ch helpu gyda chyflwyniad a manylion eich syniadau terfynol. Dyluniad terfynol.

hina
Download Presentation

Dyma rai syniadau i’ch helpu gyda chyflwyniad a manylion eich syniadau terfynol.

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Dyluniad Terfynol – Lluniad cyflwyniad. Lluniadwch ddiagram o ddyluniad terfynol y bag – defnyddiwch bensilau lliw i ddarlunio lliw a gwead y bag. Dyma rai syniadau i’ch helpu gyda chyflwyniad a manylion eich syniadau terfynol. Dyluniad terfynol Lluniadwch ddeiagram o’ch dyluniad terfynol (Defnyddiwch bensilau lliw)

  2. Yn gyntaf rydym yn mynd i edrych ar luniadau cyflwyniad. Un dull o gyflwyno a chefnogi’ch dyluniad terfynol yw trwy ddefnyddio ffotograff neu lun sy’n berthynol i’r defnydd a wneir o’r cynnyrch (h.y. y bag). Dyma i chi rai esiamplau o gefndiroedd y gallech eu defnyddio i’ch lluniad terfynol. Rydych chi’n gallu torri lluniau o gylchgronau sy’n cydwedduâphwrpas eich bag. Syrffio, Sgio, Siopa, Seiclo – mae’n rhestr ddiddiwedd. Mae hefyd yn ddull cyflym o wella cyflwyniad. Gallwch ddefnyddio llawer o wahanol ffyrdd i wneud eich cyflwyniad terfynol, megis lluniad cyflwyniad neu fanyleb cynnyrch. Dyma rai syniadau ac esiamplau i chi. Cofiwch anodi’n fanwl eich lluniadau manylebion cynnyrch Gweithgareddau chwaraeon Aros y nos mewn gwesty? Mynd i’r traeth siopa Y Cyflwyniad Gallwch gael lluniau cefndir o gylchgronau, o’r we, neu gallwch ddefnyddio ffotgraffau; ond gwnewch yn siwr eu bod yn berthnasol.

  3. Lluniad cyflwyniad terfynol. Dull o luniadu’ch syniadau er mwyn eu dangos ar eu gorau yw Lluniad Cyflwyniad Terfynol. Mae angen i chi wneud yn siwr eich bod wedi gwneud y lluniad i’r safon orau y gallwch chi ei gyflawni. Unwaith rydych wedi lluniadu’ch syniad terfynol torrwch ef allan yn ofalus ac ychwanegwch gefndir.

  4. Lluniad cyflwyniad terfynol. Dyluniad Logo – Y Ddraig Goch. Llinyn Tynnu Byddaf yn defnyddio fy mag i gario offer nofio megis fy nhywel a fy ngwisg nofio i’r traeth yn yr haf. Rwyf i’n meddwl fod defnydd y bag yn ddelfrydol am ei fod yn sychu mor gyflym, felly fydd dim ots os yw’r bag yn gwlychu. Dewiswch gefndir sy’n berthnasol i bwrpas y bag, fel hyn bydd y llun yn cefnogi’r bag. Ystyriwch ble y byddwch yn gosod y bag. Cofiwch y Drydedd Reol Euraidd wnaethon ni edrych arni yn y strategau dylunio. Poced sydd wedi cael ei gwneud o ddefnydd rhwyd.

  5. Lluniad cyflwyniad terfynol. Mae’r cefndir o gymorth wrth i chi wneud eich dyluniad terfynol ond mae angen i chi wybod ble i osod eich llun er mwyn cael y canlyniad gorau. Pa un ydy’r cyflwyniad gorau a pham? . Dydy’r bag ddim yn edrych yn iawn yma, rhywsut dydy ei osod ar ben y llun ddim yn gweddu. Gallwch weld y llun a’r dyluniad Mae’r bag yn ffitio’n dda iawn o fewn y llun ond dydych chi ddim yn gallu gweld unrhyw beth. Dydy’r llun a’r dyluniad ddim fel tasen nhw’n perthyn i’w gilydd. Mae’r dyluniad hwn yn llawer rhy fawr i’r llun.

  6. Manyleb Cynnyrch – Mae’r lluniadau hyn yn dangos y dimensiynau, y ffabrig a’r darnau sydd eu hangen i gynhyrchu’r bag yn y dyluniad. Mae angen cynnwys digon o fanylion fel y gallai person arall wneud y cynnyrch trwy ddilyn y lluniadau. Dylai hyn eich helpu i wneud y bag. Hefyd pe bai’r bag yn cael ei gynhyrchu ar raddfa fawr basai’n helpu’r torrwyr patrwm i wneud templed o’r bag Manyleb Gosodwch samplau o’r ffabrigau rydych wedi’u defnyddio yma. Lluniadwch eich bag yma. Mae’n rhaid cynnwys yr holl fesuriadau a golwg o’r cefn.

  7. Mesuriadau manwl o bob agwedd o’r bag: • Hyd, lled. • Lleoliad nodweddion addurnol – rhubanau, botymau ayyb. • Hemiau, semau ac handlenni. Manylion ffabrig, botymau, edau. Golwg o gefn y bag. Manyleb Cynnyrch – lluniadwch eich bag gan gynnwys yr holl fesuriadau, y ffabrigau a’r darnau a ddefnyddiwyd gennych. Bag denim merch Dylech gynnwys: 2 Handlen 30cm hyd x 2cm lled Lluniad llinell 2D manwl ac chlir o’r bag. Mae’r handlenni’n cychwyn yma, gosod tac cynnal i roi cryfder. Casgliad o edau ar gyfer pwythau addurno Casgliad o rubanau dethol. Casgliad o ddenim dethol Bydd cefn y bag yn blaen. Wyneb bwytho (top stitching) i roi cryfder ychwanegol.

  8. Manyleb Cynnyrch – lluniadwch eich bag gan gynnwys yr holl fesuriadau, y ffabrigau a’r darnau a ddefnyddiwyd gennych. Bag llinyn tynnu ar gyfer chwaraeon. Casgliad o linyn ar gyfer llinyn tynnu. 1m. Casgliad o twil cotwm dethol 27cm(h) x 27cm(ll). Lwfans sêm o 1cm. Casgliad o twil cotwm dethol 17cm(h) x 27cm(ll). Lwfans sêm o 1cm. Dyluniad logo’n defnyddio cotwm coch.

More Related