1 / 14

BERFAU AMODOL

BERFAU AMODOL. Pryd rydym yn defnyddio berfau amodol?. Rydym yn defnyddio’r AMODOL pan fo amod yn y frawddeg. Mae berfau’r amodol yn diweddu gyda therfyniadau’r amser amherffaith e.e. - wn i - em - et ti - ech - ai o/hi - ent. Enghreifftiau ….

walker
Download Presentation

BERFAU AMODOL

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. BERFAU AMODOL

  2. Pryd rydym yn defnyddio berfau amodol? • Rydym yn defnyddio’r AMODOL pan fo amod yn y frawddeg. • Mae berfau’r amodol yn diweddu gyda therfyniadau’r amser amherffaith e.e. - wn i - em - et ti - ech - ai o/hi - ent

  3. Enghreifftiau…

  4. Sut i ddefnyddio’r amodol mewn brawddeg… Wrth greu brawddeg gyda’r amodol mae’n bwysig cael berf amodol yn ail ran y frawddeg e.e. Pe bawn i’n ennill y loteri buaswn i’n mynd ar wyliau o amgylch y byd. Berfau amodol yn cyfateb i’w gilydd

  5. Mwy o enghreifftiau… Pe baech yn adolygu’r gwaith gramadeg yn gyson, dylech weld y gwaith yn dod yn rhwyddach! Hoffai fy mrawd gael car newydd pe bai yn gallu fforddio hynny ar ôl cychwyn gweithio.

  6. Beth am greu… Rhowch gynnig arni: pe bawn i buasai hi gallem ni dylet ti byddwn i hoffai o Wrth fario gwaith eich gilydd, gwnewch yn siwr fod gennych ferfau amodol yn cyfateb i’w gilydd.

  7. OS a PE… • Mae’r ddau air yma’n cyfateb i’r Saesneg ‘if’ • O flaen berfau amodol, rhaid defnyddio’r ffurf PE ar ddechrau brawddeg • Gallwn ddefnyddio OS o flaen berfau nad ydynt yn amodol

  8. Enghreifftiau… ‘Pe bawn i’n artist mi dynnwn lun Rhyfeddod yn machlud dros Benrhyn Llŷn’ Os caf i raddau da yn fy arholiadau, byddaf yn mynd i goleg Aberystwyth. Berfau amodol sydd yn y frawddeg uchod Does dim berfau amodol yn y frawddeg uchod

  9. Gwallau posibl… Defnyddio OS o flaen berf amodol e.e. Os buasai yn adolygu byddai’n llwyddo. Cywiriad: Pe buasai’n adolygu byddai’n llwyddo. Mae ‘buasai’ yn ferf amodol felly rhaid defnyddio PE yn hytrach nag OS

  10. Ble mae’r gwall? Os buaswn i’n cael fy newis, byddwn yn derbyn y cynnig. Os byddem ar amser, gallem gael cyfnod yn yr amgueddfa. Os buasai yn dysgu ei waith byddai’n siwr o bario’r arholiad.

  11. Sut ydw i’n egluro’r gwall? Mae’n rhaid defnyddio PE o flaen berf amodol ar ddechrau brawddeg

  12. Camddefnyddio OS… Weithiau ar lafar, rydym yn defnyddio OS mewn brawddeg lle nad oes amod e.e. Dw i ddim yn siwr os fydda i yma yfory. Does dim amod yn y frawddeg uchod. Yn hytrach cwestiwn anuniongyrchol sydd yna. Sut ddylwn i gywiro?

  13. Dw i ddim yn siwrafydda i yma yfory. Ydych chi’n gweld y gwall? • Wn i ddim os ydy o’n gall. • Gofynaf os caf i fynd yn gynnar. • Dw i ddim yn siwr os ydw i’n cofio. • Dydy o ddim yn gwybod os ydy’r ateb yn gywir. DOES DIM AMOD YN Y BRAWDDEGAU HYN!

  14. Sut ddylwn i gywiro ac esbonio?

More Related