1 / 11

EIN BRWYDR YN ERBYN BACTERIA… Stori gwrthfiotigau

EIN BRWYDR YN ERBYN BACTERIA… Stori gwrthfiotigau. ‘Gwyddom fod rhai bacteria yn gallu eich gwneud yn sâl, a bod rhai meddyginaethau yn gallu eich gwella – ond rydym eisiau gwybod mwy!’. ‘Rydym yn mynd i geisio canfod gymaint ag a allwn am facteria a meddyginaethau sydd yn ein gwneud yn well.’.

garnet
Download Presentation

EIN BRWYDR YN ERBYN BACTERIA… Stori gwrthfiotigau

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. EIN BRWYDR YN ERBYN BACTERIA…Stori gwrthfiotigau ‘Gwyddom fod rhai bacteria yn gallu eich gwneud yn sâl, a bod rhai meddyginaethau yn gallu eich gwella – ond rydym eisiau gwybod mwy!’ ‘Rydym yn mynd i geisio canfod gymaint ag a allwn am facteria a meddyginaethau sydd yn ein gwneud yn well.’

  2. Microbau – da a drwg! Edrychwch o’ch cwmpas. Mae bacteria ym mhob man – ond allwch chi ddim eu gweld. Pethau byw bychan iawn yw bacteria, mor fach nes y byddai biliynnau ohonynt yn ffitio ar lwy de!

  3. Ni all y rhan fwyaf o facteria wneud unrhyw niwed i ni, ac mae rhai bacteria yn ddefnyddiol iawn. Maent yn ein helpu i wneud meddyginaethau. Rydym yn eu defnyddio i wneud bwydydd fel caws a iogwrt. Maent hefyd yn helpu i wneud bwyd gwartheg (silwair) allan o wair.

  4. Mae bacteria yn helpu i drin carthion (y gwastraff o’n toiledau), sydd yn waith pwysig iawn. Maent hefyd yn rhan o’r broses lle bydd pethau’n pydru – dail marw, anifeiliaid a phlanhigion.

  5. Gall rhai bacteria eich gwneud yn sâl. ‘Dydi afiechydon fel tonsilitis ddim yn rhy ddifrifol ond mae miliynau o bobl ar draws y byd wedi marw o afiechydon fel difftheria, tiwberciwlosis a niwmonia - sydd i gyd yn cael eu hachosi gan facteria. Gall bacteria fod yn gyfrifol am heintiau ar ôl i fam eni babi, ar ôl i berson gael briw, neu hyd yn oed ar ôl cael llawdriniaeth.

  6. Mae afiechydon wedi eu hachosi gan facteria yn heintus - mae hyn yn golygu y gallant gael eu trosglwyddo gan un person i’r llall. Mae bacteria sydd yn achosi heintiau yn gallu cael eu trosglwyddo o’r naill berson i’r llall yn yr aer y byddwn yn ei anadlu, trwy’r pethau y byddwn yn eu cyffwrdd, a hyd yn oed yn y dwr y byddwn yn ei yfed a’r bwyd y byddwn yn ei fwyta.

  7. Mae bacteria yn rhan o grŵp o organebau bychain a elwir yn ficro-organebau neu ficrobau. Mae micro-organebau yn cynnwys ffwng, fel y llwydni ar yr oren yma. Er bod rhai ffwng yn achosi salwch megis tarwden y traed (athlete’s foot), mae rhai cwbl ddiniwed hefyd. Mae rhai ffwng yn arbennig o ddefnyddiol – rydym yn bwyta madarch ac yn defnyddio burum, ffwng arall, i wneud bara, gwin a chwrw.

  8. Mae firysau yn fathau gwahanol o ficrobau. Maent oll yn achosi afiechydon.

  9. Am filoedd o flynyddoedd roedd pobl yn methu gwarchod eu hunain rhag afiechydon a achoswyd gan facteria a microbau eraill. Os oedd pobl yn mynd yn sâl, rhaid oedd gofalu amdanynt tan iddynt wella neu farw. Gobeithio am y gorau yr oedd pawb.

  10. Tua chan mlynedd yn ôl dechreuodd y sefyllfa wella. Erbyn hyn mae gennym rai meddyginiaethau da iawn i’n gwarchod rhag afiechydon - cemegau arbennig y byddwn yn eu galw’n wrthfiotigau. Mae’r rhain yn lladd bacteria a’n gwneud yn well.

  11. EIN BRWYDR YN ERBYN BACTERIA… Stori gwrthfiotigau ‘Edrychwch ar y storïau canlynol. Rydym wedi canfod bod llawer o feddyginaethau yn gwella afiechydon a achoswyd gan facteria - ond rydym yn dal eisiau gwybod mwy!’ • Brwydro yn erbyn afiechydon trwy’r oesoedd • Cemegau i ladd bacteria • Penisilin – stori un feddyginaeth • Meddyginaethau ar gyfer y dyfodol - chwilio am wrthfiotigau newydd

More Related