1 / 27

Dewis 1: GWYLIWCH BETH BYDDWCH YN EI HAU; Dewis 2: A HEUIR A FEDIR

Dewis 1: GWYLIWCH BETH BYDDWCH YN EI HAU; Dewis 2: A HEUIR A FEDIR. Roedd ymerawdwr yn y Dwyrain Pell yn heneiddio ac yn gwybod ei bod yn amser dewis ei olynydd. Yn lle dewis un o'i gynorthwywyr neu'i blant, penderfynodd ar rywbeth gwahanol.

Download Presentation

Dewis 1: GWYLIWCH BETH BYDDWCH YN EI HAU; Dewis 2: A HEUIR A FEDIR

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Dewis 1: GWYLIWCH BETH BYDDWCH YN EI HAU; Dewis 2: A HEUIR A FEDIR

  2. Roedd ymerawdwr yn y Dwyrain Pell yn heneiddio ac yn gwybod ei bod yn amser dewis ei olynydd. Yn lle dewis un o'i gynorthwywyr neu'i blant, penderfynodd ar rywbeth gwahanol.

  3. Un diwrnod galwodd bobl ifanc yn y deyrnas ynghyd. Meddai, "Mae'n bryd i mi ildio'r awenau a dewis yr ymerawdwr nesaf. Rwyf wedi penderfynu dewis un ohonoch chi."

  4. Syfrdanwyd y plant! Ond aeth yr ymerawdwr yn ei flaen: "Byddaf yn rhoi hedyn i bob un ohonoch heddiw. Hedyn arbennig iawn. Rwyf am i chi blannu'r hedyn, ei ddyfrio a dychwelyd yma flwyddyn i heddiw gyda'r hyn rydych wedi'i dyfu o'r hedyn hwn. Yna byddaf yn beirniadu'r planhigion a fydd gennych, a'r person â'r planhigyn a ddewisaf fydd yr ymerawdwr nesaf!"

  5. Roedd bachgen o'r enw Ling yno y diwrnod hwnnw a chafodd yntau, fel y lleill, hedyn. Aeth adref ac adroddodd y stori wrth ei fam yn llawn cyffro. Dyma hithau'n ei helpu i gael pot a phridd, a phlannodd Ling yr hedyn a'i ddyfrio yn ofalus.

  6. Bob dydd byddai'n ei ddyfrio ac yn ei wylio i weld a oedd wedi tyfu. Ar ôl rhyw dair wythnos, dechreuodd rhai o'r llanciau eraill siarad am eu hadau nhw a'r planhigion a oedd yn dechrau tyfu.

  7. Roedd Ling yn cadw llygad ar ei hedyn, ond doedd dim byd i'w weld yn tyfu. Aeth 3 wythnos, 4 wythnos, 5 wythnos heibio. Ac eto dim byd. Erbyn hyn, roedd pobl eraill yn siarad am eu planhigion nhw ond doedd dim planhigyn gan Ling, a theimlai fel methiant. Aeth chwe mis heibio, a dim byd o hyd ym mhot Ling. Roedd e'n teimlo yn ei galon ei fod wedi lladd ei hedyn.

  8. Roedd gan bawb arall goed a phlanhigion tal, ond doedd dim ganddo fe. Ond ni ddywedodd Ling ddim wrth ei ffrindiau. Roedd yn parhau i ddisgwyl i'w hedyn dyfu.

  9. O'r diwedd aeth blwyddyn heibio a daeth holl lanciau'r deyrnas â'u planhigion gerbron yr ymerawdwr er mwyn iddo eu harchwilio. Dywedodd Ling wrth ei fam nad oedd e'n bwriadu mynd â phot gwag. Dywedodd hithau fod rhaid iddo fod yn onest am yr hyn a ddigwyddodd. Teimlodd Ling ei fol yn corddi ond roedd yn gwybod bod ei fam yn iawn. Aeth â'i bot gwag i'r palas.

  10. Pan gyrhaeddodd Ling, rhyfeddodd ar yr amrywiaeth o blanhigion yr oedd y llanciau eraill wedi eu tyfu. Roeddent yn hardd o bob lliw a llun. Rhoddodd Ling ei bot gwag ar y llawr a chwarddodd llawer o'r plant eraill arno. Teimlodd rhai dosturi drosto gan ddweud, "Hei, cynnig da."

  11. Pan gyrhaeddodd yr ymerawdwr, edrychodd o gwmpas yr ystafell a chyfarchodd y bobl ifanc. Ceisiodd Ling guddio yn y cefn. "Dyma blanhigion, coed a blodau gwych rydych wedi'u tyfu," meddai'r ymerawdwr. "Heddiw, bydd un ohonoch yn cael ei benodi'n ymerawdwr nesaf!"

  12. Yn sydyn, gwelodd yr ymerawdwr Ling yng nghefn yr ystafell gyda'i bot gwag. Gorchymynnodd i'w warchodwyr ddod ag ef i'r blaen. Dychrynodd Ling yn arw. "Mae'r ymerawdwr yn gwybod fy mod yn fethiant! Efallai bydd e'n gorchymyn fy lladd!"

  13. Pan ddaeth Ling i'r blaen, gofynnodd yr ymerawdwr am ei enw. "Ling yw fy enw," atebodd. Roedd yr holl blant yn chwerthin ac yn ei wawdio. Gofynnodd yr ymerawdwr i bawb dawelu. Edrychodd ar Ling, ac yna datganodd i'r dorf, "Wele eich ymerawdwr newydd! Ei enw yw Ling!"

  14. Doedd Ling ddim yn gallu credu hyn. Doedd e ddim hyd yn oed yn gallu tyfu ei hedyn. Sut gallai ef fod yn ymerawdwr newydd? Yna meddai'r ymerawdwr, "Flwyddyn yn ôl i heddiw, rhoddais hedyn i bawb yma. Dywedais wrthych i fynd â'r hedyn, ei blannu, ei ddyfrio a'i ddychwelyd ataf heddiw. Ond rhoddais i hadau wedi'u berwi i bob un ohonoch, na fyddai'n tyfu.

  15. Mae pob un ohonoch, heblaw am Ling, wedi dod â choed a phlanhigion a blodau i mi. Ar ôl sylweddoli na fyddai'r hedyn yn tyfu, rhoesoch hedyn arall yn lle'r un a roddais i chi. Ling oedd yr unig un â'r dewrder a'r gonestrwydd i ddod â photyn gyda'm hedyn ynddo i mi. Felly, fe yw'r un a fydd yr ymerawdwr newydd!"

  16. Os ydych yn hau gonestrwydd, byddwch yn medi ymddiriedaeth. Os ydych yn hau daioni, byddwch yn medi ffrindiau. Os ydych yn hau dyfalbarhad, byddwch yn medi buddugoliaeth. Os ydych yn hau caredigrwydd, byddwch yn medi cytgord. Os ydych yn hau gwaith caled, byddwch yn medi llwyddiant. Os ydych yn hau maddeuant, byddwch yn medi cymod. Os ydych yn hau amynedd, byddwch yn medi gwelliannau. Os ydych yn hau ffydd, byddwch yn medi gwyrthiau.

  17. Os ydych yn hau anonestrwydd, byddwch yn medi drwgdybiaeth. Os ydych yn hau hunanoldeb, byddwch yn medi unigrwydd. Os ydych yn hau cenfigen, byddwch yn medi helynt. Os ydych yn plannu diogi, byddwch yn medi marweidd-dra. Os ydych yn hau chwerwder, byddwch yn medi arwahanrwydd. Os ydych yn plannu trachwant, byddwch yn medi colled. Os ydych yn hau hel clecs, byddwch yn medi gelynion. Os ydych yn hau pryderon, byddwch yn medi crychau. Os ydych yn hau pechod, byddwch yn medi euogrwydd.

  18. Felly, byddwch yn ofalus gyda'r hyn rydych yn ei hau nawr - bydd yn penderfynu'r hyn byddwch yn ei fedi yfory. Bydd yr hadau rydych yn eu gwasgaru heddiw yn gwneud bywyd yn waeth neu'n well i chi neu'r rhai a ddaw ar eich ôl. Ie, ryw ddiwrnod, cewch fwynhau'r ffrwythau neu cewch dalu am y dewisiadau a heuir gennych heddiw.

More Related