1 / 1

Abstract

Dr Thomas O’Brien ( Prif Ymchwilydd )1, Yr Athro Jane Noyes ( Prif Ymchwilydd )2 , Dr Hans-Peter Kubis 1 , Yr Athro Richard Hastings 3 , Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards 4 , Rhiannon Whitaker 5 , Dr Llinos Haf Spencer 2

aneko
Download Presentation

Abstract

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Dr Thomas O’Brien (PrifYmchwilydd)1, Yr Athro Jane Noyes (PrifYmchwilydd)2, Dr Hans-Peter Kubis1, Yr Athro Richard Hastings3, Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards4, Rhiannon Whitaker5, Dr Llinos Haf Spencer2 1YsgolGwyddorauChwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, Canolfan YmchwilGysylltiedigagIechyd, 3 YsgolSeicoleg, 4 Canolfan Economeg a PholisIechyd, 5SefydliadHapdreialonIechydGogleddCymru (NWORTH) 1-5 Prifysgol Bangor Lles, iechyd a ffitrwydd plant â phroblemausymudedd (astudiaeth ‘Well I mi’); Cynllunio a datblyguymyriadaucadw'nheiniplentyn-ganologwedi'uhaddasuiunigolion (Teitlbyr: Astudiaeth Well i mi: Ymyriadaucadw'nheiniiblant â phroblemausymudedd) Abstract Cefndir: Yn aml, lefelau isel o weithgarwch sydd gan blant â phroblemau symudedd, ac maent yn fwy tebygol o fod yn ordew a datblygu diabetes math 2 a chlefydau cardiofasgwlaidd yn ddiweddarach yn eu bywydau. O ganlyniad, mae eu lles yn dioddef a'r galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cynyddu.Byddai datblygu ymyriadau i dargedu iechyd a ffitrwydd yn cynyddu eu lles a'u hannibyniaeth yn sylweddol, ac yn gwneud dulliau iach o fyw yn rhan greiddiol o'u bywydau pan fyddant yn oedolion. Nodau/Amcanion: Asesu lles, iechyd a ffitrwydd plant gyda phroblemau symudedd. Bydd yr astudiaeth arfaethedig yn ystyried safbwyntiau ac anghenion plant er mwyn datblygu ymyriadau cadw'n heini, sy'n blentyn-ganolog ac yn llawn hwyl, i wella lles, iechyd a ffitrwydd plant 16-18 oed sydd â phroblemau symudedd. Methodoleg: Gwneir gwaith mewn tri cham i ddatblygu ymyriadau cadw'n heini sy'n blentyn-ganolog: Cam 1: Gwneir adolygiad systematig o'r ymyriadau cadw'n heini sydd ar gael ar hyn o bryd i blant gyda phroblemau symudedd. Defnyddir cyfweliadau i nodi canlyniadau pwysig i blant gyda phroblemau symudedd a'u teuluoedd, i ddatblygu dulliau asesu ac edrych ar hoff ddulliau o ymarfer corff, e.e. symbyliad, lleoliad, hyd, ymarfer unigol neu mewn grŵp, cerddoriaeth. Cam 2: Cesglir gwybodaeth sylfaenol am ansawdd bywyd a lles gan blant, yn ogystal â data ffisiolegol, yn cynnwys ffitrwydd aerobig, cyfansoddiad y corff a metaboledd. Cam 3: Yna, edrychir yn fanwl ar achosion penodol yn ôl unigolion neu gyflyrau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n blentyn-ganolog ac yn llawn hwyl i greu ymyriad dros dro i fynd i'r afael ag anghenion plant, fel y nodwyd yng ngham 2, a'u blaenoriaethau a'u dewisiadau, fel y nodwyd yng ngham 1. Cynhelir cyfweliadau/grwpiau ffocws pellach gyda phlant â phroblemau symudedd, a bydd eu rhieni a'u gofalwyr yn gwerthuso'r ymyriad a'i fireinio. Canlyniadau arfaethedig: Bydd yr ymyriad ar ffurf 'bocs gweithgarwch' ac yn cynnwys dewis o weithgareddau cadw'n heini, llawn hwyl y gellir eu haddasu'n rhwydd, a'u teilwra i blant penodol i gyd-fynd â'u gwahanol alluoedd. Casgliad: Ar ôl cwblhau'r gwaith, cynhyrchir protocol er mwyn gweithredu cynllun peilot fydd yn gwerthuso effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd yr ymyriad cadw'n heini. Siartlif: camauastudiaeth Well i mi GêmpêlfasgedcadeiriauolwynyngngholegchwaraeonAmbergate. Llun: David Sillitoei’r Guardian Llun trwy garedigrwydd Whizz Kidz Cydnabyddiaeth Comisiynwyd yr astudiaeth hon gan NISCHR CRC Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: Dr Thomas O’Brien (Prif Ymchwilydd) Dr Llinos Spencer (Swyddog Ymchwil Astudiaeth Well i mi) Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Canolfan Ymchwil Gysylltiedig ag Iechyd, Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor, Adeilad y George, Prifysgol Bangor, Fron Heulog, Ffordd Ffriddoedd Bangor, Gwynedd, LL57 2PX Bangor, Gwynedd, LL57 2EF Ffôn: 01248 38 8250. E-bost: thomas.obrien@bangor.ac.ukFfôn: 01248 38 3171. E-bost: L.spencer@bangor.ac.uk Poster Well i mi V.4 01-07-2013 LHS

More Related