1 / 41

Uned ICT 4 Defnyddio ac Effaith TGCh

Uned ICT 4 Defnyddio ac Effaith TGCh. Adolygu. Cofiwch!!. Mae cwestiynau lefel A yn canolbwyntio arnoch chi fel datblygydd / ymgynghorydd i gwmn ïau sy’n dymuno datblygu eu gallu TG. Gall gwestiynau lefel A gynnwys gwybodaeth o’ch cwrs Uwch Gyfrannol (AS).

zaynah
Download Presentation

Uned ICT 4 Defnyddio ac Effaith TGCh

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Uned ICT 4Defnyddio ac Effaith TGCh Adolygu

  2. Cofiwch!! • Mae cwestiynau lefel A yn canolbwyntio arnoch chi fel datblygydd / ymgynghorydd i gwmnïau sy’n dymuno datblygu eu gallu TG. • Gall gwestiynau lefel A gynnwys gwybodaeth o’ch cwrs Uwch Gyfrannol (AS). • Efallai y bydd gofyn i chi ddefnyddio theori lefel A ar gyfer yr hyn a astudiwyd ar gyfer AS.

  3. Uned 4.1 Rhwydweithiau

  4. Rhwydweithiau Cyfrifiadurol • Mae rhwydwaith gyfrifiadurol yn gasgliad o gyfrifiaduron wedi eu cysylltu er mwyn cyfathrebu gyda’i gilydd. • Cyfrifiadur arunig yw’r enw ar gyfer cyfrifiadur sydd heb gysylltiad â’r rhwydwaith. • Mae yna ddau fath gwahanol o rwydwaith gyfrifiadurol: • ‘Rhwydwaith Ardal Leol’ RALneu ‘LAN’ - mae’r cyfrifiaduron i gyd yn yr un adeilad neu mewn adeiladau gwahanol ar un safle wedi eu cysylltu gyda’i gilydd yn barhaol drwy geblau arbennig. • ‘Rhwydwaith Ardal Eang’ RAE neu ‘WAN’ - mae’r cyfrifiaduron wedi eu gwasgaru ar draws ardal ddaearyddol eang. Nid ydynt wedi cysylltu gyda’i gilydd yn barhaol; yn hytrach, maent yn cyfathrebu drwy ddefnyddio llinellau ffôn, trawsyrryddion radio neu gysylltau lloeren. Wedi eu cysylltu drwy byrth.

  5. Ffactorau i’w hystyried wrth ddewis rhwydwaith 1. Cost y rhwydwaith • Prynu’r cyfarpar yn y man cyntaf • Gosod y cyfarpar a hyfforddi • Costau cynnal a chadw • Bydd maint y cyllid yn pennu yr hyn fydd yn bosib i’w wneud e.e. mae cebl opteg ffibr yn gyflymach ond yn fwy costus. Mae systemau di-wifr yn hyblyg ond eisiau mwy o gynnal a chadw.

  6. 2. Maint y sefydliad • Gall anghenion amrywio o RAL (LAN) fach i RAE (WAN) fyd-eang. • Mae rhai cyfryngau cyfathrebu wedi eu cyfyngu i’r pellter y gallant deithio. • Rhaid ystyried faint o brosesu gwybodaeth sydd ei angen, hefyd.

  7. 3. Sut fydd y system yn cael ei defnyddio? • Pa fathau o raglenni sydd eu hangen ar ddefnyddwyr? • Fydd angen storfa ddata fawr? • O ba le y byddant yn defnyddio’r rhwydwaith e.e. adref, yn y swyddfa neu drwy gyrchiad pell o leoliadau gwahanol.

  8. 4. Integreiddio systemau presennol • Yn aml nid yw rhwydweithiau yn cael eu datblygu o’r dechrau; yn hytrach mae’n rhaid iddynt addasu i’r system bresennol. Ambell waith mae angen estyniad e.e. pan fo swyddfa cangen newydd yn agor. • Rhaid i unrhyw rwydwaith felly ffitio i’r systemau gweithredu a’r protocolau sy’n bodoli’n barod. • Rhaid iddo gynnal unrhyw berifferolion sy’n bodoli’n barod e.e. darllenyddion cod bar, argraffyddion a.y.y.b.

  9. 5. Perfformiad a’r cyflymder sydd ei angen Perfformiad yn nhermau: • dibynadwyaeth • cyfeillgar i’r defnyddiwr • cynhwysedd • cyflymder prosesu. Efallai y bydd gan rannau gwahanol o’r sefydliad anghenion perfformiad gwahanol e.e. effallai y bydd angen mwy o gyflymder a chynhwysedd a gwell diogelwch ar system e-fasnach amser real na’r system gyflogau mewnol.

  10. 6. Ystyriaethau diogelwch Mae gan sefydliadau gwahanol flaenoriaethau amrywiol e.e. • Bydd busnes mawr yn fwy pryderus ynglŷn ag • Atal hacio • Atal firysau • Safle taliad wedi’i warchod • Efallai y bydd ysgol yr un mor bryderus ynlŷn ag atal llwytho defnydd anweddus.

  11. Cleientiaid (Terfynellau) • Cleientiaid main (‘Terfynell Fud’) • Heb ddisg galed wedi ei hadeiladu i mewn, agennau ehangu a dim ond digon o RAM a chymhwysedd prosesu i redeg rhaglenni ac allbwn i fonitor. • Addas i rwydwaith client gweinydd • Clientiaid tew (‘Terfynell ddeallus’) • Gweithfan a chymhwysedd arunig llawn. Mae ganddi ei disg galed ei hun er mwyn storio ac Uned Brosesu Ganolog (CPU). • Mae gan weithfannau brosesyddion ac felly yn gallu rhannu’r prosesu. Mae nifer o ffyrdd gwahanol i wneud hyn e.e. gall gweithfan weithio fel gweinydd argraffu a.y.b. Gallai gweithfan storio rhaglenni ar ei disg a’u llwytho pan fo ffeiliau data wedi eu storio r()ywle arall, efallai ar ffeil weinyddwr canolog. • Yn addas ar gyfer rhwydweithiau cyfoedion.

  12. Mae RALaRAEyn gallu bod yn rhwydweithiau Client/Gweinydd neu yn Rhwydweithiau Cyfoedion.

  13. Rhwydweithiau Cyfoedion • Mae pob gweithfan syddwedi ei cysylltu yn y rhwydwaith â’r un statws. • Gall bob gweithfan gyfathrebu â’i gilydd yn uniongyrchol ar y rhwydwaith heb ddefnyddio’r gweinydd. • Maent ill dau yn gyfleusterau sy’n rhannu cleientiaid a gweinydd. • Maent yn aml yn fath o brosesu dosbarthol sy’n rhannu’r prosesu rhwng terfynellau deallus. • Gellir cael at galedwedd a ffeiliau data oddi ar sawl cyfrifiadur. • Gellir storio rhaglenni ar gyfrifiaduron gwahanol ond gall bawb gael mynediad atynt wedi i’r perchennog roi caniatâd. • Mae’r gwaith yn cael ei arbed wrth gefn ar PCs defnyddwyr unigol.

  14. Rhwydwaith Cleient/Gweinydd Defnyddir y term Cleient/Gweinydd i ddisgrifio rhwydweithiau â chyfrifiaduron neu derfynellau (cleientiaid) wedi eu cysylltu i gyfrifiadur mwy pwerus, sef GWEINYDD Y RHWYDWAITH. • Gweinydd ffeil canolog yn storio data a rhaglenni. Mae mynediad yn cael ei bennu gan freintiau mynediad defnyddiwr, a reolir gan eu henwau logio ymlaen a chyfrineiriau. • Byddai gweinydd argraffu yn sbwlio data yn barod i’w ysbeilio i argraffydd pan mae’r argraffydd yn barod. • Mae gweinyddion cyfathrebu e.e. gweinydd we ac e-bost yn gallu rheoli yr holl ddefnydd o’r we ac e-bost.

  15. Topoleg Rhwydwaith • Mae topoleg rhwydwaith yn cyfeirio at y cynllun a ddefnyddir i gysylltu’r cyfrifiaduron. Mae yna dair topoleg gyffredin: • Bws • Modrwy • Seren • Gellir defnyddio unrhyw un o’r topolegau hyn, boed y rhwydwaith yn ardal leol neu’n ardal eang, yn rhwydwaith gweinydd neu gyfoed.

  16. BWS • Cysylltir gweithfannau i’r prif gebl/bws • Gall ddata deithio yn y ddau gyfeiriad. • Gallai dau nod geisio danfon gwybodaeth ar yr un pryd: byddai gwrthdrawiad yn digwydd. Er mwyn atal hyn mae nod yn aros nes bod dim traffig ar y bws ac yn oedi ychydig cyn danfon. Os oes gwrthdrawiad yn digwydd, mae’r ddau nod yn aros cyn ailgeisio ar ôl cyfnod hap o amser. • Adwaenir y prif fws safonol fel Ethernet. Mae’r cyfathrebu yn defnyddio sianel ddarlledu fel bod pob gweithfan yn y rhwydwaith yn clywed bob trawsyriad. 2.This is the cheapest network topology as the smallest amount of cabling is required

  17. Ffeil weinyddwr Terfynwr PLOTYDD Terfynell Terfynell Argraffydd • Manteision • Angen llai o gebl na modrwy. Yn gymharol ratach ac yn haws i’w gyflwyno, cynnal a chadw. • Hawdd i ychwanegu nodau newydd wrth symud y terfynwr. • Os yw un terfynell/gweithfan yn methu mae’r gweddill yn parhau • Anfanteision • Mae traffig trwm yn achosi methiant ac oedi ar y rhwydwaith • Yn dibynnu’n drwm ar y cebl fel asgwrn cefn; gall niwed i’r cebl achosi methiant ar y rhwydwaith.

  18. RHWYDWAITH GYLCH CEBL CYLCH ARGRAFFYDD GWEINYDD T1 T8 • Does gan Gylch Caergrawnt ddim gwesteiwr canolog, ac nid oes raid i unrhyw un o’r nodau gael rheolaeth cyffredinol dros fynediad i’r rhwydwaith. Mae negeseuon yn y cylch yn llifo mewn un cyfeiriad o nod i nod. • Mae gan y cylch gyfres o ailadroddwyr wedi eu cysylltu gan geblau. T2 GWEINYDD CYFATHREBU Gweinydd T7 DISG GALED SGANIWR T6 T3 T5 T4 • Mae’r dewis o gebl yn dibynnu ar y pellter i’w deithio a’r cyflymder sydd ei angen. Ceblau opteg ffibr sydd orau, ond dyma’r mwyaf costus. Byddai cebl opteg ffibr yn caniatáu cylch o 100 km.

  19. Techneg pasio tocyn • Mae tocyn dychmygol yn cael ei basio o gwmpas y CYLCH drwy’r amser. Mae tocyn yn becyn bach sy’n cynnwys darnau o ddata sy’n teithio o gwmpas y cylch (Wastad yn yr un cyfeiriad) • Adwaenir y tocyn fel cyfres unigol o nodau. • Os yw dyfais yn aros i ddanfon rhywbeth, mae’n cydio mewn tocyn; gyda hynny mae ganddo’r awdurdod i ddanfon data. Mae’n amgáu y wybodaeth. Bydd y pecyn yn cynnwys y cyfeiriad. • Ni all unrhyw ddyfais ddanfon gwybodaeth heb y tocyn. • Mae dyfais yn cydnabod derbyny neges drwy wrthdroi maes 1 did. • Unwaith mae’r gweithfan sy’n danfon wedi derbyn cydnabyddiaeth bod y neges wedi ei dderbyn ar y pen arall mae’r tocyn yn rhydd eto ac yn barod i’w ddefnyddio gan ddyfais arall.

  20. Manteision Rhwydwaith Gylch • Nid oes dibynadwyaeth ar westeiwr canolog: mae trosglwyddo data yn cael ei gynorthwyo gan bob dyfais yn y cylch. Mae gan bob nod ddigon o ddeallusrwydd i reoli trosglwyddiad data at ac i ffwrdd o’i nod ei hun. • Mae’n gweithio’n effeithiol pan rennir y prosesu ar draws safle. • Mae’n bosib trosglwyddo yn gyflym iawn. • Mae’n benderfynedig h.y. gellir penderfynu lefelau perfformiad gwahanol ar gyfer lefelau gwahanol o draffig. • Mae llwybro rhwng dyfeisiau yn hawdd oherwydd fel arfer mae negeseuon yn teithio mewn un cyfeiriad yn unig. • Am fod y data yn symud mewn un cyfeiriad gellir trosglwyddo llawer ohono. Anfanteision - • Mae’r system yn dibynnu ar ddibynadwyaeth ailadroddwr y cylch, er gellir dylunio’r rhain i hepgor ailadroddwyr gwallus. Os yw un nod yn methu gall hyn effeithio’r rhwydwaith gyfan. • Cost ceblau. • Mae’n anodd ehangu’r cylch.

  21. T7 T6 T8 Sganiwr Disc Caled Gweinydd Gweinydd cyfathrebu T5 T4 Argraffydd T1 T2 T3 RHWYDWAITH SEREN • Cysylltir pob nod i Uned Brosesu Ganolog yn y canol. Topoleg boblogaidd ar gyfer RAE. • Mae negeseuon yn pasio drwy westeiwr sy’n cysylltu’r dyfeisiau ar y rhwydwaith. Mae’r gwesteiwr yn switsio negeseuon o bwynt i bwynt.

  22. Manteision Rhwydwaith Seren • Yn addas ar gyfer RAE lle mae sefydliadau mawr yn dibynnu ar gyfrifiadur canolog ar gyfer y trwch o dasgau prosesu data. • Mae rheoli switsio negeseuon yn ganolog yn caniatáu lefel uchel o ddiogelwch. • Mae pob braich yn dibynnu ar y gweddill. Os yw un yn torri mae’r gweddill yn gallu parhau ac mae’r UBG/ CPU canolog yn adnabod unrhyw fethiannau. • Gall cyflymder trosglwyddo data amrywio o fraich i fraich; gall un fraich ddefnyddio dyfais cyflymder-uchel a gall ddyfais arall defnyddio cyflymder isel e.e. disg-yrrwr. • Yn arbed ceblau. Anfanteision • Mae’r rhwydwaith yn agored i fethiant yn y porth canolog. • Fel system gyfrifiadurol wasgaredig, mae peth prosesu yn bosib yn y nodau, ond nid oes cysylltiad rhwng nodau. • Wrth drwsio RAE mae angen system is- neu brif-gyfrifiadur i reoli negeseuon: mae caledwedd a meddalwedd felly yn ddrud.

  23. Rhwydwaith Ardal Eang (RAE) Gweithfan Gweithfan Gweithfan Gweinydd Argraffu Gweinydd Ffeil Argraffydd Porth Modem PC Pell PC Pell Modem network cables telephone lines

  24. RAL a RAE RAL mewn siop RAE i HQ

  25. Rhyngrwyd, Mewnrwyd ac Allrwyd Mae’r Rhyngrwyd yn Rwydwaith Ardal Eang – mewn gwirionedd mae’n gasgliad anferth o rwydweithiau wedi eu cysylltu gan byrth - mae’r rhain yn gwneud i’r system ymddwyn fel pe bai’n un rhwydwaith anferth. • Mae nifer o rwydweithiau mewn diwydiant, busnes, addysg uwch a sefydliadau llywodraethol wedi eu cysylltu i’r Rhyngrwyd; serch hynny gall unrhyw un gysylltu i’r Rhyngrwyd drwy ddefnyddio’r caledwedd a’r meddalwedd angenrheidiol a thrwy ddefnyddio darparwr gwasanaethau rhyngrwyd ( ISP /Internet Service Provider)...e.e. Freeserve, AOL, Demon a channoedd eraill. • Gall ddefnyddiwr gael hyd i wybodaeth ar bron unrhyw bwnc. Mae yna offer chwilio sy’n eich galluogi i chwilio’r We Fyd-Eang am unrhyw destun, ac mae pob tudalen yn cysylltu â thudalen arall a.y.y.b. • - mae hefyd yn bosib i lwytho meddalwedd a ffeiliau i lawr (e.e. graffig NASA) • - hysbysfyrddau (fforymau) neu grwpiau newyddion lle mae’n bosib gadael negeseuon, neu gyfathrebu’n uniongyrchol gyda defnyddwyr eraill. • Mae Busnesau yn creu gwefannau ar y Rhyngrwyd er mwyn… • ..gallant hysbysebu. Mae’n galluogi pobl i ddod o hyd i beth maent yn ei wneud a’r hyn maent yn ei werthu. • ..gall pobl e-bostio unrhyw gwestiynau, archebion, gofynion; • ..gallant gyrraedd cynulleidfa ryngwladol.

  26. Mewnrwydi • Mae mewnrwyd wedi ei llunio yn gyfan o fewn Rhwydwaith Ardal Leol (RAL - LAN). Gellir storio tudalennau o’r We a chael atynt o unrhyw le ar y rhwydwaith; gellir danfon e-bost yn fewnol o fewn y RAL. • Gall cwmni lunio mewnrwyd er mwyn i’w weithwyr ddanfon negeseuon at ei gilydd a defnyddio porwr i gael at wybodaeth am y cwmni sydd wedi ei arbed fel gwe-dudalennau. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer hyfforddi staff. Allrwydi • Os yw cwmni yn caniatáu mynediad o’r tu allan i’w mewnrwyd, yna mae’r rhwydwaith yn troi’n allrwyd. Ceir mynediad fel arfer trwy fur gwarchod (meddalwedd sydd ond yn galluogi defnyddwyr â chaniatâd i gael at y data.)

  27. Cyfryngau Di-wifr Isgoch Tonnau radio Bluetooth Band eang Microdonnau Mae ffônau symudol yn defnyddio microdonnau. Yn ddelfrydol ar gyfer cysylltu cyfrifiaduron mewn dau adeilad cymharol agos i’w gilydd. Mae systemau lloeren hefyd yn defnyddio microdonnau.

  28. Golau Isgoch • Mae Isgoch yn cyfeirio at donnau golauag amledd yn is nag y gall llygaid pobl weld a dehongli. Defnyddir isgoch gan amlaf mewn systemau rheolaeth bell teledu, a gyda safon o’r enw DCIs (Data Cydgysylltiol Isgoch) IrDA (Infrared Data Association) , fe’i defnyddir i gysylltu rhai cyfrifiaduron gyda dyfeisiau ymylol. Ar gyfer y rhan fwyaf o’r anghenion adloniant neu gyfrifiadurol hyn, defnyddir isgochmewn dull digidol – mae’r signal yn curo ymlaen ac i ffwrdd yn gyflym iawn er mwyn danfon data o un man i fan arall. • Manteision Mae cyfathrebiadau isgoch yn gymharol ddibynadwy ac nid yw’n ddrud iawn i’w gynnwys mewn peiriant. • Anfanteision • Nid yw’n gallu teithio yn bell iawn. • Mae isgoch yn dechnoleg “llinell weld”. • Mae isgoch bron bob amser yn dechnoleg “un ac un”.

  29. Rhwydweithio Di-wifr – cyswllt di-gebl Trawsyrriant Radio • Mae gan ddyfeisiau gyfleusterau trawsyrru radio a derbynyddion radio. Mae’r derbynyddion radio hyn wastad yn sganio’r awyr am signalau sy’n dod i mewn. Pan mae’n adnabod signal mae’n cydio ynddo ac yn ei drawsnewid i ffurf ddigidol. Gellir trawsyrru signal digidol i’r UBG an lwybryddion di-wifr. • Enghreifftiau • Rhaid i bobl fod yn symudol a chael mynediad i’w rhwydweithiau, cyfrifon e-bost e.e. ger nodau di-wifr mewn meysydd awyr. • Rhan o RAE neu Rwydwaith Rithwir Breifat e.e. gyrrwr cludiant yn defnyddio dyfais yn ei law i gadarnhau trosglwyddiadau gyda chronfa ddata ganolog.

  30. Mwy o enghreifftiau…. • Mae garddwyr tirlun yn defnyddio gliniadur gyda chysylltedd di-wifr i gael at lyfrgell o ddyluniau yn y pencadlys. • Meddygon mewn damwain er mwyn cael at gofnodion cleifion. • Gellir defnyddio rhwydweithiau di-wifr fel rhan o RAL e.e. darllennydd cod-bar mewn warws yn trawsyrru data i siop neu bencadlys. • Cofnodi data Chip a PIN mewn bwytai er mwyn cofnodi manylion taliadau gyda cherdyn. • Dyfeisiau di-wifr megis argraffyddion/allweddellau ffônau symudol adisgrifiad o’u defnydd.

  31. Technoleg Bluetooth Wrth blygio’r Cerdyn Addasu Bluetooth PDA, Cerdyn PC ac Addasydd USB i’r PDA, PC neu gyfrifiadur nodfwrdd, gall ddefnyddiwr drawsyrru gwybodaeth yn ddiymdrech i ddyfeisiau Bluetooth eraill megis cyfrifiaduron nodfwrdd, dyfeisiau mewnbwn, PDAs, sganwyr, argraffyddion a hyd yn oed ffônau symudol. Yn cysylltu gyda hyd at saith dyfais Bluetooth arall ar yr un pryd.

  32. Band-eang a rhwydweithio di-wifr • Mae cysylltiad band-eang yn cyflymu cysylltau mynediad at y Rhyngrwyd ac mae llwybryddion di-wifr yn rhoi cyswllt di-wifr i’r addasydd di-wifr yn eich PC. Mae cyflymderau cartref cyfartalog o 54Mb yr eiliad yn bosib. • Nid oes angen ceblau ar dechnoleg di-wifr • Yn caniatáu defnydd o bell mewn ardaloedd di-wifr megis meysydd awyr a gwestai.

  33. Manteision Band-eang • Cysylltiad cyflymach pan fo eisiau bod ar-lein. • Arbed arian ar filiau ffôn • Llwytho rhaglenni, e-bost, caneuon wedi’u hamgáu, gwefannau llawn graffeg, animeiddiadau a fideos. • Chwarae gêmau rhyngweithiol ar y cyflymder uchaf yn erbyn chwaraewyr ar draws y byd. • Defnyddio’r ffôn a bod ar y Rhyngrwyd. • Gwasanaethau amser-real megis gwe-gamerâu, gwell safon o radio • Gellir gweithio o gartref gyda mynediad cyflym at rwydweithiau corfforaethol.

  34. Anfanteision • Costau tanysgrifio uwch • Efallai na fydd cyfnewidiadau lleol yn gallu ymdopi â thrawsyrru digidol cyflym iawn.

  35. Cydrannau meddalwedd mewn rhwydwaith Cyfrifon defnyddwyr a logiau • Rhaid i bob defnyddiwr gael cyfrif gydag enw defnyddiwr a chyfrinair. • Rhaid i’r cyfrif gael caniatâd h.y. mynediad at ffeiliau a data megis darllen yn unig, ysgrifennu yn unig, darllen ac ysgrifennu, a bydd cyfyngiadau ar y rhaglenni neu ddata ygallant gael mynediadatynt e.e. bydd aelod o’r Adran Bersonél yn gallu ysgrifennu, ychwanegu, a dileu ffeiliau gweithwyr; fydd gweithiwr unigol ddim ond yn gallu darllen ei ffeil bersonol ei hun. • Yr adnoddau: bydd lle ar y ddisg, argraffyddion y gallant eu defnyddio yn cael eu clustnodi i’w cyfrifon.

  36. Archwilio • Mae meddalwedd archwilio yn cadw cofnod o bwy sydd wedi logio ymlaen, pryd, am ba hyd, pa raglenni a data a ddefnyddiwyd a pha beth a newidiwyd. Mae modd o ddod o hyd i, a phrofi, unrhyw gam-ddefnydd o’r system.

  37. Rheoli o bellter • Erbyn hyn gellir rheoli rhwydweithiau o ystafelloedd, adeiladau neu safleoedd eraill gan gwmnïau rheoli rhwydweithiau, e.e. • Gellir logio gweithfan i ffwrdd os nad oes neb yn gweithio arni. • Gall rheolwyr y rhwydwaith arsylwi beth mae defnyddwyr eraill yn ei wneud. • Gall technegwyr ganfod a thrwsio problemau ym meddalwedd y rhwydwaith o bellter. Strategaeth diogelwch ac arbed wrth-gefn – Gweler cynllunio ar gyfer trychineb.

  38. Ffactorau i’w hystyried wrth wneud penderfyniadau am ffurfwedd. Dewisiadau Rhaglenni Meddalwedd • Pa raglenni, e.e. rhaglen fel ‘Office’, fyddai’n caniatáu mynediad haws a chymorth gan staff TG a’r gallu i rannu dogfennau a data eraill? • Pa wedd ar y bwrdd gwaith fydd yn dderbyniol? • Cyfyngiadau ar lwytho i lawr er mwyn arbed rhag meddalwedd niweidiol ar gyfer defnydd personol. Systemau gweithredu a rheolaeth o’r rhwydwaith Meddalwedd • Pa systemau gweithredu a rhwydwaith sy’n addas? • Windows 2000/ XP network; UNIX ??

  39. Caledwedd • Pa galedwedd sydd ar y rhwydwaith? Yn ddelfrydol dylai pawb gael gweithfannau tebyg er mwyn hwyluso cynnal a chadw. Nid yw hyn yn digwydd bob amser oherwydd mae’n rhaid ychwanegu gweithfannau sy’n bod eisoes i rwydwaith newydd. Byddai adnewyddu pob gweithfan yn rhy gostus i’r rhan fwyaf o sefydliadau; rhaid darwahanu’r amser ar gyfer arsefydlu fel bod y cwmni yn gallu parhau i weithio. Pa berifferolion ddylai fod ar y rhwydwaith a phwy sydd â mynediad iddynt. Amrywiaeth anghenion defnyddwyr • Bydd gan rai defnyddwyr sgiliau ac anghenion gwahanol. Efallai na fydd rhai ddim ond yn defnyddio un pecyn o bryd i’w gilydd tra bod eraill yn defnyddio meddalwedd dechnegol anodd drwy’r amser. Dylid ystyried sgiliau a hyder defnyddwyr, a’u hail-hyfforddi os oes angen.

  40. Edrych at y dyfodol: ‘Future Proofing’ • Sicrhewch fod gan y system hyd oes resymol. Mae nifer o gwmnïau yn ailosod eu cyfrifiaduron bob 3 neu 4 blynedd pan fyddant yn mynd yn rhy araf i ymdopi â meddalwedd modern. • Rhaid ystyried fformat y data. Rhaid gallu prosesu hen ddata o’r archif yn ogystal â data newydd. • Rhaid iddi fod yn bosib darllen cyfryngau storio yn y dyfodol. • Rhaid i raglenni gael ôl-gytunedd. • Rhaid i geblau ac isadeiledd y rhwydwaith - megis llwybryddion, pontydd, switshis a gweinyddion sydd wedi eu gosod yn barod - allu ymdopi ag ehangiad a mwy o draffig yn y dyfodol ar gyflymder rhesymol. • Wrth wneud penderfyniadau rhaid bod yn hyblyg a’r gallu i ehangu. Dylid osgoi gor-ddibyniaeth ar un cyflenwr; hebddynt, efallai na fydd neb yn gymwys i ddatrys problemau yn y dyfodol. • Mae system TG gyfoes yn magu hyder ymhlith cwsmeriaid ac yn creu gwell awyrgylch gweithio i’r staff.

More Related