html5-img
1 / 13

Croeso!

Croeso!. Dyma ragflas byr o’r E-lyfr newydd am Y Gyfraith…. a ddatblygwyd gan CBAC i gydfynd â’r fanyleb U/UG newydd ac i gefnogi ei haddysgu. Cefndir. Ysgrifennwyd yr E-lyfr gan athrawon gweithredol Mae’n rhoi cyflwyniadau cyffredinol i bob rhan o’r fanyleb

onan
Download Presentation

Croeso!

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Croeso! Dyma ragflas byr o’r E-lyfr newydd am Y Gyfraith… a ddatblygwyd gan CBAC i gydfynd â’r fanyleb U/UG newydd ac i gefnogi ei haddysgu.

  2. Cefndir • Ysgrifennwyd yr E-lyfr gan athrawon gweithredol • Mae’n rhoi cyflwyniadau cyffredinol i bob rhan o’r fanyleb • Mae’n cynnig awgrymiadau o gynlluniau gwersi ynghyd â chyflwyniadau PowerPoint i gynorthwyo â’r addysgu, yn ogystal ag adnoddau eraill • Gellir ei ddefnyddio gyda’r holl dechnoleg bwrdd gwyn rhyngweithiol sydd ar gael • Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei hychwanegu ato’n gyson i’w gadw’n gyfoes

  3. Sut mae’n edrych? Mae diwyg yr E-lyfr yn debyg i lyfr go iawn, ac yn cynnwys tudalennau mewn penodau.

  4. Tabiau tudalen Tabiau Pennod Tabiau pennod a thudalen Mae’n rhwydd iawn gweithio’ch ffordd trwy’r E-lyfr gan ddefnyddio’r tabiau pennod a thudalen. Mae lliwiau’r tabiau tudalen yr un peth â lliw tab y bennod benodol er mwyn sicrhau bod y defnyddiwr yn gwybod pa ran o’r E-lyfr sy’n cael ei defnyddio.

  5. Gellir cynyddu/lleihau maint y ffont yn ôl yr angen. Gellir newid lliw’r testun a/neu’r cefndir. Hygyrchedd Mae cyfleuster chwilio eang ar gael er mwyn i chi gyrraedd y wybodaeth rydych ei hangen.

  6. Tudalennau rhagarweiniol Gallwch sgrolio trwy’r wybodaeth ar bob tudalen sy’n amlinellu’r cwrs i chi. Gallwch gysylltu ag adnoddau penodol megis y copïau diweddaraf o’r fanyleb, deunyddiau asesu enghreifftiol a’r canllawiau i athrawon a fydd o gymorth i chi wrth fynd i’r afael â’r cwrs.

  7. Tudalennau mewn pennod Mae pob tudalen yn y penodau’n cyfeirio at y fanyleb. Rhoddir gwybodaeth gefndirol ar bob testun. Gallwch lwytho i lawr gynlluniau gwersi a ffeiliau Word defnyddiol eraill a’u teilwra i’ch hanghenion chi. Mae cyflwyniadau Power Point ar gael hefyd i’ch helpu chi wrth addysgu’r cwrs.

  8. Enghraifft o gynllun gwers Mae pob cynllun gwers yn cyfeirio at y fanyleb, ac yn amcangyfrif faint o amser y bydd yn ei gymryd i addysgu’r testun. Rhoddir nodau ac amcanion, ac mae’r geiriau allweddol wedi’u haroleuo. Rhoddir gweithgareddau athro a disgybl ar ffurf strwythuredig.

  9. Yn ogystal â’r cynllun gwers... I’r rhai ohonoch sy’n newydd i’r pwnc, neu sy’n dysgu’r Gyfraith ond heb arbenigo yn y maes, mae setiau o gwestiynau wedi’u cynnwys hefyd i’w gofyn i’r myfyrwyr, ynghyd â’r atebion sy’n cael eu disgwyl.

  10. Mae lliwiau’r PowerPoint yr un peth â lliw tab y bennod, er mwyn eich helpu chi wrth addysgu.

  11. Gellir cyrchu’r holl gynlluniau gwersi a chyflwyniadau’n rhwydd o’r bennod adnoddau hefyd.

  12. Pen sy’n Siarad Ar rai o dudalennau’r llyfr, ceir ‘Pen sy’n Siarad’ wedi’i animeiddio a fydd, wrth glicio ar y llygoden, yn cyflwyno testun trafod wedi’i seilio ar y rhan honno o’r llyfr.

  13. Ydych chi eisiau gwybod mwy? I gael mwy o fanylion, a chopi o’r E-lyfr, cysylltwch â Swyddog Cefnogaeth Pwnc Y Gyfraith CBAC… Christopher Barfoot 029 2026 5094 christopher.barfoot@wjec.co.uk gyda rhif ac enw eich canolfan. Diolch am eich amser.

More Related