1 / 17

Cadw cofnodion tywydd

Cadw cofnodion tywydd. Shw’mai Gyfeillion!. Llongyfarchiadau ar gwblhau’r dasg ddiwethaf! Rydych chi’n Wyddonwyr Gwych! Yn y dasg nesaf, byddwn ni’n trafod sut yn union mae casglu a chofnodi’r wybodaeth. Cynllunio eich Ymchwiliad.

nhi
Download Presentation

Cadw cofnodion tywydd

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cadw cofnodion tywydd

  2. Shw’mai Gyfeillion! Llongyfarchiadau ar gwblhau’r dasg ddiwethaf! Rydych chi’n Wyddonwyr Gwych! Yn y dasg nesaf, byddwn ni’n trafod sut yn union mae casglu a chofnodi’r wybodaeth.

  3. Cynllunio eich Ymchwiliad. Cyn i chi ddechrau unrhyw ymchwiliad mae’n bwysig ystyried cyn cychwyn. Cofiwch, rydym yn ceisio darganfod: ‘Sut y mae newidiadau i dymheredd y gwanwyn yn effeithio ar amser blodeuo bylbiau cennin pedr a crocws’. Beth fyddwch chi yn ei wneud? Darllenwch ymlaen am ychydig o gymorth.

  4. Cwestiynau da i’w gofyn pan yn cynllunio ymchwiliad… • Beth yr ydym yn ei ddisgwyl i ddigwydd? • Pa wybodaeth y dylem ei gasglu? • Sut fyddwn ni yn ei gasglu? • Pa offer fyddwn ni yn ei ddefnyddio? • Sut fyddwn ni yn ei wneud yn brawf teg? • A fydd unrhyw risg neu beryglon?

  5. Pa wybodaeth sydd angen i ni ei gasglu?

  6. Rhaid i ni gasglu dim ond…

  7. Pa offer ac unedau y dylid eu defnyddio ar gyfer cofnodi?

  8. Mae Athro’r Ardd yn awgrymu:

  9. Rheolau Cofnodi • Mae sut rydyn ni’n casglu gwybodaeth yn bwysig iawn i wneud yn siwr bod eich prawf yn deg, dilynwch fy rheolau cofnodi… • Rhwng Tachwedd ac Ebrill - cadwch gofnod o’r tywydd. • Rhwng Ionawr ac Ebrill cadwch gofnodion blodeuo.

  10. Offer angenrheidiol. • 1 mesurydd glaw • 1 thermomedr • 1 pren mesur • 1 siart tywydd

  11. Cadw cofnod o’r tywydd • Rhwng Tachwedd ac Ebrill, cadwch gofnodion dyddiol o’r tymheredd (°C) a’r glawiad (mm). Edrychwch ar siart tywydd eich ysgol am fanylion. • Cofiwch gadw’ch cofnodion tua’r un amser bob prynhawn – ar amser sy’n gyfleus i chi. • Ar ddiwedd pob wythnos, ewch i’r wefan www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau i anfon eich cofnodion at Athro’r Ardd. • Bydd angen i chi wybod enw defnyddiwr eich dosbarth a’ch cyfrinair.

  12. Amser ymarfer • Rhowch tipyn bach o ddwr yn eich mesurydd glaw. Gofynnwch i bawb yn y dosbarth nodi eu mesuriad yn eu tro. • Ydych chi i gyd wedi nodi’r un ateb? Os na, pam? • Gwnewch yn siwr bod pawb yn darllen yn iawn. • Gwnewch ymarfer debyg gyda’r thermomedr. Os gallwch chi, ymarferwch greu cofnodion y tywydd: Anfonwch eich straeon a’ch lluniau i’n blog bylbiau a dilynwch Athro’r Ardd ar Twitter! www.twitter.com/Professor_Plant

  13. Astudiwch a chymharwch(www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau) Ar ôl i chi anfon eich data bydd y wefan yn creu siart dywydd gan roi'ch ysgol ar fap bylbiau'r gwanwyn. Astudiwch siart dywydd eich ysgol a'i chymharu â siartiau tywydd ysgolion eraill.

  14. Cadwch gofnodion wythnosol i gael cyfle i ennill taith gweithgaredd natur!

  15. Yn cynnwys: Bws am ddim a diwrnod o weithgareddau natur dan arweiniad ar gyfer un dosbarth. Bydd enillydd o dde Cymru yn ymweld â Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru neu bydd enillydd o ogledd Cymru yn ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru. Mae Ymddiriedolaeth Edina yn trefnu teithiau lleol i ysgolion yn Lloegr a’r Alban. Ewch i www.edinatrust.org.uk.

  16. I gael cyfle i ennill:Cofiwch anfon eich cofnodion tywydd wythnosol i’r wefan erbyn 27 Mawrth. Byddwn yn cyhoeddi’r enillydd ar 27 Ebrill a caiff y trip ei gynnal ar wythnos 18 Mai. Bydd pob disgybl sy'n anfon ei gofnodion yn derbyn Tystysgrif Gwyddonydd Gwych ac ychydig o eginblanhigion. Pwysig: Os na allwch chi anfon eich data cysylltwch ag Athro'r Ardd: scan@amgueddfacymru.ac.uk

  17. Nawr, gobeithio eich bod chi’n deall: • Pa wybodaeth ddylech chi ei chasglu. • Pa offer ddylech chi ei defnyddio. • Sut i gasglu’r wybodaeth. • Llongyfarchiadau ar gwblhau’r dasg! • Rydych chi’n Wyddonwyr Gwych go iawn! • Hwyl!

More Related