1 / 11

Locws / Locysau

Locws / Locysau. Diffiniad Locws:. Locws yw llinell sy’n dangos yr holl bwyntiau sy’n bodloni’r rheol a rhoddir. Mewn geiriau eraill mae locws yn dangos sut mae gwrthrych yn symud gyda threigl amser. Locysau. Mae yna bedwar math o locws y byddwch angen eu lluniadu:

nedra
Download Presentation

Locws / Locysau

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Locws / Locysau

  2. Diffiniad Locws: Locws yw llinell sy’n dangos yr holl bwyntiau sy’n bodloni’r rheol a rhoddir. Mewn geiriau eraill mae locws yn dangos sut mae gwrthrych yn symud gyda threigl amser.

  3. Locysau • Mae yna bedwar math o locws y byddwch angen eu lluniadu: • Locws pwyntiau sydd ar bellter penodol o BWYNT penodol. • Locws pwyntiau sydd ar bellter penodol o LINELL benodol. • Locws pwyntiau sydd yr un pellter o ddwy LINELL benodol. • Locws pwyntiau sydd yr un pellter o ddau BWYNT penodol.

  4. Locws Locws pwyntiau sydd ar bellter penodol o BWYNT penodol A Er mwyn llunio locws y pwyntiau sydd yr un pellter oddi wrth A rydym yn defnyddio cwmpas. Mae hyn yn ffurfio cylch – hynny yw mae pob pwynt ar y cylch yr un pellter oddi wrth ganol y cylch (y radiws)

  5. Locws pwyntiau sydd ar bellter penodol o LINELL benodol R Rydym yn mesur y pellter penodol ac yn llunio dwy linell paralel. Ond a yw hyn yn gyflawn? Na! Er mwyn cwblhau llunio’r locws hwn mae angen i ni ddefnyddio cwmpas Rydym yn mesur y pellter rhwng y llinell penodol ac un o’r llinellau paralel (R) Nawr rydym yn ffurfio dwy hanner cylch gyda radiws y pellter yma.

  6. Locws Locws pwyntiau sydd yr un pellter o ddwy LINELL benodol Er mwyn llunio’r locws hwn rydym yn defnyddio cwmpas unwaith eto. Rydym yn defnyddio’r cwmpas i wneud dau arc ar y ddwy linell Nawr, heb newid maint y cwmpas, rydym yn ffurfio dau arc Nawr rydym yn ymuno’r pwynt lle mae’r ddau arc yn crosei a lle mae’r ddwy linell yn croesi.

  7. Locws pwyntiau sydd yr un pellter o ddau BWYNT penodol Locws A B Er mwyn ffurfio’r locws hwn rydym yn defnyddio cwmpas unwaith eto. Rydym yn defnyddio’r cwmpas i wneud arc o bwynt A. Heb newid maint y cwmpas rydym yn gwneud arc arall o B. Nawr rydym yn ymuno’r pwyntiau lle mae’r arcau’n croesi Gelwir y locws arbennig hwn yn hanerydd perpendicwlar

  8. Rheolau Ychwanegol ` Mae yna ychydig o bethau ychwanegol y mae angen ichi fod yn ymwybodol ohonynt. Enghraifft – Lluniwch locws y pwyntiau sydd a) yn llai na 3cm o bwynt A, b) yn union 3cm o A, c) yn fwy na 3cm o A, ch) o leiaf 3cm o A. a) b) ch) c) A A A A Cofiwch – os yw’r llinell yn cael ei gynnwys mae’n gyflawn, ac os nad yw’n cael ei gynnwys mae’n dorredig.

  9. Locysau Mewn Mwy o Fanylder... Nawr ein bod ni’n gwybod beth yw locws ac yn gallu llunio’r pedwar math gwahanol o locws gallwn symud ymlaen i edrych ar gwestiynau yn debyg i’r rhai sydd yn ymddangos yn yr arholiad. Ar gyfer cwestiynau arholiad mae angen i ni gyfuno mwy nag un locws ar un diagram.

  10. Enghraifft Mae gan Mrs Phillips ddau goeden yn ei gardd, labelir A a B. Mae hi eisiau plannu hadau yn ei gardd sydd yn llai na 3m i ffwrdd o goeden A, a hefyd yn llai na 3m i ffwrdd o goeden B. Lliwiwch ar y diagram isod ble mae’n bosib iddi blannu’r hadau. Mae popeth o fewn y cylch coch yn llai na 3m i ffwrdd o A Mae popeth o fewn y cylch gwyrdd yn llai na 3m i ffwrdd o B • • A B Felly ble gall Mrs Phillips blannu’r hadau? Mae Mrs Phillips yn gallu plannu’r hadau o fewn y rhan melyn

  11. Enghraifft Mae’r diagram isod yn dangos gardd Mrs Jones, sydd o flaen ei thy. Mae ganddi goeden, labelir C ar y diagram. Mae hi am blannu planhigion, ond mae’n rhaid i’r planhigion fod yn llai na 3m o’r goeden, ac yn fwy na 2m o’i thy. Lliwiwch ar y diagram isod ble mae’n bosib iddi blannu’r planhigion. Mae popeth o fewn y cylch gwyrdd yn llai na 3m i ffwrdd o’r goeden. Mae popeth o fewn y darn coch yn fwy na 2m i ffwrdd o’r ty. Ty Mrs Jones • C Felly ble gall Mrs Jones blannu’r planhigion? Mae Mrs Phillips yn gallu plannu’r hadau o fewn y rhan melyn

More Related