1 / 30

CYMALAU

CYMALAU. Beth yw cymalau?. Rhannau o frawddeg yw CYMALAU Fel arfer, mae un ferf i bob cymal Beth yw trefn brawddeg syml yn y Gymraeg? BERF + GODDRYCH + GWRTHRYCH Gwelodd Sian blismon. BERF yw’r weithred Gwelodd GODDRYCH yw’r un sy’n gwneud y weithred Sian

lesa
Download Presentation

CYMALAU

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. CYMALAU

  2. Beth yw cymalau? Rhannau o frawddeg yw CYMALAU Fel arfer, mae un ferf i bob cymal Beth yw trefn brawddeg syml yn y Gymraeg? BERF + GODDRYCH + GWRTHRYCH Gwelodd Sian blismon

  3. BERF yw’r weithred Gwelodd GODDRYCH yw’r un sy’n gwneud y weithred Sian GWRTHRYCH sy’n ateb y cwestiwn ‘beth?’ i’r ferf blismon Sylwer: GWRTHRYCH BERF BERSONOL YN TREIGLO’N FEDDAL

  4. Beth yw enwau’r cymalau? Mae CYMALAU yn cael eu henwi yn ôl y gwaith maen nhw’n ei wneud • CYMAL PERTHYNOL/ANSODDIERIOL ei waith – disgrifio’r enw yn y prif gymal • CYMAL ENWOL Mae’n gwneud yr un gwaithâ gwrthrych y ferf, mae’n gweithredu fel gwrthrych i’r ferf yn y prif gymal

  5. CYMAL ADFERFOL Mae’n gwneud yr un gwaith ag adferf. Fel arfer, mae’n ychwanegu ein gwybodaeth am y ferf. Gall hefyd gael ei ddefnyddio i ddangos amod

  6. CYMAL PERTHYNOL Yn aml, dechreuir CYMAL PERTHYNOL gyda rhagenw perthynol: Cadarnhaol – a, y, yr, ‘r Negyddol – na, nac Roedd y bachgen awelais ar y teledu neithiwr, yn canu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst. Mae’r ferch na lwyddodd i basio ei phrawf gyrru am y pumed tro, wedi rhoi’r ffidil yn y to.

  7. Sut i greu brawddeg? Y gyfrinach yw creu prif gymal syml, ac yna rhoi mwy o wybodaeth am y goddrych yn y prif gymal, gan ddefnyddio rhagenw perthynol i gychwyn y cymal. Dyma’r ferch awaharddwyd o’r ysgol yr wythnos diwethaf. Roedd y bachgen na lwyddodd i gael lle yng Ngholeg Rhydychen yn hynod o siomedig.

  8. Beth am greu? • a welodd • na chlywom • a ysgrifennwyd • na lwyddodd • a fwytodd

  9. CYMAL ENWOL • Yn aml, dechreuir CYMAL ENWOL gyda ffurf ar y ferf ‘bod’ • Mae’n gweithredu fel gwrthrych y ferf yn y prif gymal h.y. mae’n ateb ‘beth?’ i’r ferf

  10. Sut i greu brawddeg? Y gyfrinach yw creu prif gymal syml, ac yna ateb ‘beth?’ i’r ferf yn y prif gymal gan ddefnyddio ffurf ar ‘bod’. Clywodd Sion ei fod wedi pasio’r arholiad BETH? Prif Gymal Cymal Enwol

  11. CYMAL ENWOL - amser presennol Er mwyn creu Cymal Enwol yn yr amser presennol, mae angen defnyddio ‘BOD’ e.e. Rydw i’n meddwl bod y gwaith yn anodd Nid oes angen MAE neu ROEDD gyda ‘bod’

  12. Ffurfiau ‘BOD’ Ar adegau mae angen rhagenw dibynnol blaen o flaen ‘bod’. Rhaid defnyddio’r ffurf gywir: fy mod i ein bod ni dy fod di eich bod chi ei fod o eu bod nhw ei bod hi Sylwer ar y treigladau

  13. Negyddu CYMAL ENWOL Wrth negyddu cymal enwol, mae’n rhaid i’r negydd ddod o flaen y ferf bod fi ddim X nad ydw i  bod ti ddim X nad wyt ti  bod o ddim X nad ydy o  bod hi ddim X nad ydy hi  bod ni ddim X nad ydym ni  bod chi ddim X nad ydych chi  bod nhw ddim X nad ydyn nhw 

  14. Beth am greu? Lluniwch frawddegau yn cynnwys CYMAL ENWOL gan ddefnyddio’r berfau canlynol: dywedodd clywais meddyliodd penderfynodd awgrymais

  15. Amserau eraill y ferf Gyda’r DYFODOL neu’r AMODOL rydyn ni’n defnyddio y + berf na + berf Clywodd Siony byddyn cael lle yn y coleg ym mis Medi Credaf na fydd hyn yn gweithio

  16. mai Defnyddir ‘mai’ mewn cymalau enwol yn hytrach na ‘bod’ pan mae angen rhoi pwyslais ar yr enw neu air cyntaf yr is-gymal e.e. Credaf mai hwn yw’r ateb cywir. Mae o’n bendant mai dyma’r ffordd ymlaen.

  17. negyddol Defnyddir ‘nad’ wrth ffurfio cymal negyddol nid ‘mai ddim’ Credaf nad hwn yw’r ateb cywir Mae o’n bendant nad dyma’r ffordd ymlaen.

  18. Beth am greu? Lluniwch frawddegau yn dangos ystyr a defnydd y canlynol: na fydd mai nad fy mod i y byddaf Cofiwch roi prif gymal syml ar gychwyn y frawddeg

  19. CYMAL ADFERFOL Mae CYMAL ADFERFOL yn gwneud yr un gwaith ag adferf. • Fel arfer, mae’n ychwanegu at ein gwybodaeth am y ferf. • Gall gael ei ddefnyddio i ddangos amod hefyd

  20. Roedd y bachgen yn gweithio yn dda Roedd y bachgen yn gweithio fel pe bai ar frys Sylwer mai dweud mwy am y ferf a wneir yma ADFERF CYMAL ADFERFOL

  21. Gwahaniaethu rhwng ‘a’ ac ‘y’ Mae’r rhagenw perthynol ‘a’ yn cymryd lle enw ac ymuno dwy frawddeg e.e. Dyma Sion. Achubodd Sion yr eneth. Yn hytrach nag ail-adrodd Sion, gallwn ddefnyddio’r rhagenw perthynol i ymuno’r ddwy frawddeg e.e. Dyma Sion a achubodd yr eneth

  22. Gwelwn fod yr ‘a’ yn gwneud yn lle yr enw Sion, mae’n cyfeirio’n ôl at Sion. Mae Sion felly’n RHAGFLAENYDD i’r rhagenw perthynol ‘a’: Dyma Sionaachubodd yr eneth o’r afon Hwn yw’r dyna saethodd y ci defaid Caia losgodd ei wallt yn fflam y gannwyll

  23. SYLWER Mae’n beth doeth cadw’r rhagenw perthynol yn agos at ei ragflaenydd e.e. Dyma’r fercha welais neithiwr Cafodd y planta dorrodd y ffenestr ffrae gan yr athro

  24. Y YR a ‘R Defnyddir y rhagenw perthynol Y, YR neu ‘R pan ddylynir y rhagenw perthynol gan ragenw personol neu arddodiad personol Rhagenw personol = fy, dy, ei, ein, eich, eu Arddodiad personol = arddodiad rhedadwy e.e. arno fo, amdanyn nhw, iddi hi, wrthon ni, ganddyn nhw, ata i a.y.y.b.

  25. Enghreifftiau Dyma’r dyn y gwelais ei gar yn yr afon Hwn yw’r car yr eisteddodd yr eliffant arno Hon yw’r ferch y gwelais ei brawd yn y dref

  26. Cywiro brawddegau Dyma’r man a welais ei ysbryd neithiwr. a welais > y gwelais Angen y rhagenw perthynol ‘y’ gan fod rhagenw personol yn dilyn y rhagenw perthynol

  27. Dyma’r dyn yr enillodd y fedal arian. yr enillodd > a enillodd Angen y rhagenw perthynol ‘a’ gan nad oes rhagenw personol nac arddodiad rhedadwy yn dilyn y rhagenw perthynol

  28. Derbyniais y feirniadaeth bod fi ddim yn gweithio’n ddigon caled. bod fi ddim > nad ydw i Rhaid i’r negydd ddod o flaen y ferf wrth negyddu cymal

  29. Fe adwaenon nhw ei gilydd yn yr orsaf er eu bod nhw ddim wedi cwrdd cyn hynny. eu bod nhw ddim > nad oedden nhw Rhaid i’r negydd ddod o flaen y ferf wrth negyddu cymal

  30. Dw i’n sicr mae o’n fy adnabod mae o’n > ei fod o’n Angen defnyddio ‘bod’ wrth greu cymal enwol a rhoi rhagenw dibynnol o’i flaen

More Related