140 likes | 310 Views
GLUDWAITH DARLUNIADOL. BETH YW GLUDWAITH DARLUNIADOL ?. Cyfrwng sy’n gweld artist yn gludo papur a deunyddiau eraill at arwyneb y llun i greu delwedd. Weithiau bydd artist yn peintio ac yn darlunio ar arwyneb y gludwaith – gelwir hyn yn CYFRWNG-CYMYSG.
E N D
GLUDWAITH DARLUNIADOL BETH YW GLUDWAITH DARLUNIADOL? Cyfrwng sy’n gweld artist yn gludo papur a deunyddiau eraill at arwyneb y llun i greu delwedd. Weithiau bydd artist yn peintio ac yn darlunio ar arwyneb y gludwaith – gelwir hyn yn CYFRWNG-CYMYSG. http://www.flickr.com/photos/peregrineblue/2299694882/
Mae rhai artistiaid gludwaith darluniadol yn defnyddio deunyddiau maen nhw wedi’u ffeindio mewn ffyrdd diddorol a doniol. Allwch chi weld unrhyw darluniadolyn y fersiwn hon o Ystafell Wely Van Gogh? Ffenestr wedi’i gwneud o flwch grawnfwyd Sun & Sunbisk. Cadair ar y llawr – Adlewyrchiad? Cysgod? Nikko Nonni - Van Gogh’s Bedroom 2005
Pa fath o ddeunyddiau gludwaith allwch chi eu gweld yn y darn hwn? Sgôrcerddorol, penawdau cylchgrawn cerdd, nodiadau…
Beth am hwn? Beth yw prif ddeunydd y ddelwedd hon? Ie - MAPIAU! http://www.flickr.com/photos/migrainechick/3084691406/
Beth rydym ni wedi’i ddysgu? Rydym yn gwybod mai techneg sy’n cynnwys gludo papur a deunyddiau amrywiol i arwyneb er mwyn creu delwedd yw gludwaith darluniadol.
Sut gallwn ni ddefnyddio gludwaith darluniadolyn ein gwaith? Beth sydd ei angen arnom cyn dechrau? Delwedd A3 sy’n cynnwys GOLYGFA O BERSBECTIF Gwnewch AMLINELLIAD. Beth yw’r enw a roddir ar hynny? LLUNWEDD!
Gwnewch ail amlinelliad neu TROSGLWYDDWCH eich LLUNWEDD i gerdyn gwyn A3. Pa broblemau sy’n codi pan fyddwch yn trosglwyddo’r ddelwedd?
Rhaid cofio troi’r papur dargopïodrosodd er mwyn trosglwyddo’r GRAFFIT! Byddwch yn creu delwedd adlewyrchol os nad ydych yn dargopïoar y cefn ac yna ar y blaen unwaith eto!
Nesaf, TACLUSWCH eich llinell. Nid oes angen Dyson neu Hoover arnoch i wneud hyn! AMLYGWCH eich llinell.
Nesaf, penderfynwch pa ddeunyddiau a phrosesau sy’n addas ar gyfer pob rhan o’ch llun.
Mae PEINTIO’R awyr yn syniad da. Gallwch ddefnyddio dull sgraffito, sbwnjo, deunyddiau o bapurau newydd a chylchgronau, papur wal a deunyddiau eraill mewn rhannau eraill.
BYDD ANGEN EICH FFILM DARGOPÏOARNOCH ER MWYN DARGOPÏO POB SIÂPNEU RAN ARNO I’R DEUNYDD O’CH DEWIS. GWYLIWCH YR ARDDANGOSFA HON
Geirfa • Gludwaith Darluniadol • Cyfrwng • Llunwedd • Graffit • Tacluso • Deunyddiau wedi’u darganfod neu wedi’u hailgylchu • Persbectif • Sgraffito • Sbwnjo • Deunyddiau • Proses
NAWR – mewn parau, adolygwch eich gwaith o wers heddiw. • Bydd angen i chi: • Drafod dwy agwedd gadarnhaol neu lwyddiannus o’r ddelwedd. • Nodi un rhan y gellir ei gwella. • Byddwch yn adeiladol a rhannwch gyda’ch partner sut y gallen nhw gryfhau’r rhan neu’r agwedd benodol hon o’r gwaith.