1 / 18

Beth nesaf? Bywyd ar ôl blwyddyn 13

Beth nesaf? Bywyd ar ôl blwyddyn 13. Beth yw’ch opsiynau ar ôl gadael yr ysgol/coleg?. Pa swydd sydd gen i?. I ddechrau ’ r wers. Dw i’n mwynhau’r awyrgylch gwaith hyblyg Mae datrys problemau yn rhan o’m swydd Dw i angen bod yn drefnus

kyrie
Download Presentation

Beth nesaf? Bywyd ar ôl blwyddyn 13

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Beth nesaf? Bywyd ar ôl blwyddyn 13 Beth yw’ch opsiynau ar ôl gadael yr ysgol/coleg?

  2. Pa swydd sydd gen i? I ddechrau’r wers • Dw i’n mwynhau’r awyrgylch gwaith hyblyg • Mae datrys problemau yn rhan o’m swydd • Dw i angen bod yn drefnus • Pasiais fy arholiadau lefel A a ches i hyfforddiant yn y gwaith • Dw i’n ennill cyflog da • Rhan o’r swydd yw rheoli’r tils ar gyfer ein bwytai a gwestai • Dw i’n gweithio yn y busnes pêl-droed • Dw i’n cysylltu pobl â gwybodaeth • Dw i’n defnyddio graffeg ac animeiddio i greu effaith weledol • Dw i angen deall y gynulleidfa darged • Mae gradd gen i • Mae angen i mi ddiweddaru fy sgiliau trwy’r amser • Dw i’n ennill cyflog da • Mae fy nghwmni yn cyflogi 40 o bobl

  3. Atebion i’r gweithgaredd Elaine – Rheolwr TG i Glwb Pêl-droed Chelsea a Chelsea Village (nifer o gwmnïau sy’n ymdrin â gwestai, marsiandïaeth deithio, cynadleddau a gwleddau a maes hyfforddi) Lisa – Dylunydd Gwefan a Rheolwr Prosiect i dîm datblygu gwe o 5 dyn Oes gradd gennych i gael y swydd rydych am ei chael? Defnyddiwch y wers hon i ddechrau meddwl am eich dyfodol chi

  4. Beth yw “Gyrfa”? Gwaith / Swydd Gweithgareddau Teulu, Cymunedol a Gwirfoddol Addysg Hyfforddiant Eich llwybr trwy fywyd

  5. Swydd neu Yrfa? Rhai diffiniadau ar gyfer y byd gwaith: • Galwedigaeth: grŵp o swyddi sydd â nodweddion tebyg sydd angen sgiliau tebyg, e.e. triniwr gwallt, athro, rheolwr prosiect. • Swydd: swydd benodol gyda dyletswyddau penodol mewn lle penodol, e.e. athro mathemateg yn Ysgol Uwchradd yr Hendre. Gall swyddi fod yn rhai amser llawn, rhan-amser, parhaol, dros dro, gyda thâl neu’n wirfoddol, ac mae gan rai pobl fwy nag un swydd ar yr un pryd. • Gyrfa: llwybr gydol oes trwy ddysgu a gwaith. Mae’n bosibl rheoli gwaith / addysg / gwaith cymunedol a gwirfoddol mewn sawl ffordd i wella’ch rhagolygon gyrfa.

  6. Mae help ar gael! Athrawon, rhieni, cynghorwyr gyrfa, ffrindiau a theulu Gwybodaeth am waith a swyddi Ffurflenni cais a CVs Gwybodaeth am gyrsiau Gwneud penderfyniadau Paratoi am gyfweliad

  7. Beth yw’r opsiynau? CHI Blwyddyn Fwlch Prifysgol Hyfforddiant Cyflogaeth

  8. Trafodwch ac ysgrifennu nodiadauPam rydych chi o blaid ac yn erbyn yr opsiynau hyn?

  9. O blaid Dechrau ennill cyflog amser llawn Ymarferol Cyfleoedd i ddysgu yn y swydd Dim dyledion prifysgol Gallwch astudio’n rhan-amser Gallwch fynd i’r brifysgol yn ddiweddarach I’w hystyried Mwy a mwy o yrfaoedd yn gofyn am raddau e.e. Cyfrifeg Gwaith cymdeithasol Y Gyfraith Newyddiaduraeth Rhagolygon tymor hir Cystadleuaeth Cyflogaeth

  10. Cyflogaeth Yn draddodiadol, ble mae’r swyddi ar ôl Lefelau A? Bancio Manwerthu Awdurdodau Lleol Lluoedd Arfog Arlwyo Swyddi dylunio technegol Iechyd – nyrsio cynorthwyol (auxiliary), ambiwlans Teithio – asiantaeth deithio, criw caban awyren Gwasanaethau cyhoeddus – yr heddlu, swyddogion tân Rhybudd GWASGFA GREDYD 2009 Mae llawer llai o swyddi ar gael ar hyn o bryd, ond cadwch lygad ar dueddiadau yn y dyfodol – bydd prinder sgiliau mewn rhai o’r meysydd hyn, a bydd angen pobl i gymryd lle pobl sy’n ymddeol.

  11. Hyfforddiant / Prentisiaethau O blaid • Arwain at gymwysterau a gydnabyddir - e.e. NVQs • Dull ymarferol i ddysgu • Mae’n bosibl mynd i Addysg Uwch mewn rhai achosion • Rhyddhad bloc neu ryddhad dydd i fynd i’r coleg • Mantais dros pobl ifanc 16 oed sy’n gadael yr ysgol, mwy aeddfed ac yn gallu canolbwyntio’n well • I’w hystyried • Rhaid bod yn ymrwymedig – angen 3 – 4 blynedd • Cyflog o £160-180 yr wythnos i ddechrau • Cystadleuol iawn • Rhaid bod yn fodlon dilyn y cyfleoedd e.e. symud o gwmpas Rhybudd GWASGFA GREDYD 2009 – llawer o brentisiaethau ar gael

  12. O blaid Rhaid cynllunio ac ymchwilio’n dda Gwiriwch gyda’r brifysgol a ydyn nhw’n ei gymeradwyo Cyfle i weithio a chynilo arian ar gyfer mynd i’r brifysgol Profiad teithio gwych I’w hystyried Anrhrefnus – blwch ar CV a chais prifysgol Gall fod yn ddrud – angen cynllunio Dyw rhai cyrsiau ddim yn hoffi myfyrwyr sy’n cymryd blwyddyn fwlch. GWIRIWCH YN OFALUS. Blwyddyn Fwlch cyn mynd i’r brifysgol Rhybudd GWASGFA GREDYD 2009 Mae hi’n arbennig o anodd dod o hyd i waith ar gyfer Blwyddyn Fwlch ar hyn o bryd.

  13. Addysg Uwch –Prifysgol • 40% o fyfyrwyr yn mynd i’r brifysgol • Gallu agor mwy o ddrysau – dwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith os nad oes gradd gennych • Mae graddedigion yn ennill £150,000 mwy ar hyd eu bywyd na phobl sydd heb radd • Mae angen gradd ar gyfer mwy a mwy o swyddi • Gwaith cymdeithasol, Nyrsio, Cyfrifeg • Rhybudd GWASGFA GREDYD 2009 - • Mae mwy o fyfyrwyr yn gwneud cais am leoedd, felly bydd mwy o gystadlu ar gyfer y lleoedd hynny.

  14. Addysg Uwch – Prifysgol Cymwysterau trwy Addysg Uwch Doethuriaeth (PhD) Gradd Meistr (MSc, MA, MBA) Gradd Israddedig (BA, BSc, LLB) Gradd Sylfaen

  15. Pam rydym ni’n meddwl am hyn nawr? • Blwyddyn 12- Tymor yr Haf – dechrau meddwl am eich dyfodol a dechrau gwneud ymchwil • Blwyddyn 13- Medi – mae rhai cynlluniau blwyddyn fwlch yn cymryd blwyddyn i’w trefnu • Hydref 15fed – Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i Rydychen / Caergrawnt / Meddygaeth / Milfeddygaeth / Deintyddiaeth • Hanner tymor mis Hydref – Mae angen amser ar athrawon i ysgrifennu’ch geirda • Ionawr 15fed – Dyddiad cau ar gyfer pob cais • Ionawr – prentisiaethau / cynlluniau hyfforddi / swyddi sy’n cael eu hysbysebu ar gyfer dechrau yn yr haf

  16. Dyddiadau cau • Cewch ychwanegu eich dyddiadau eich hun yma

  17. Diffinio’r penderfyniad Sefydlu’r opsiynau Casglu gwybodaeth am yr opsiynau Ystyried y pethau positif a negyddol Dewis yr opsiwn orau Gwneud eich penderfyniad Beth rydych eisiau ei wneud ar ôl blwyddyn 13? Beth yw’ch dewisiadau? Gwneud ymchwil ar UCAS.com, gwefannau prifysgolion, prosbectysau, cyfleoedd swyddi, prentisiaethau a chyllid. Edrych ar y ddwy ochr o’ch opsiynau Beth rydych wir eisiau ei wneud – efallai byddwch yn newid eich meddwl tra byddwch yn gwneud eich ymchwil Dechrau ar eich cais Gwneud penderfyniadau – eto!

  18. Gwerthuso’ch penderfyniadYdych chi wedi dysgu unrhyw beth i newid eich meddwl?

More Related