1 / 17

Gwrthrychau Nefol

Gwrthrychau Nefol. Cyflwyniad. Beth yw ‘Planed’ ?. Ateb. Beth yw ‘Lloeren (lleuad)’?. Ateb. Beth yw ‘Seren’?. Ateb. Beth yw ‘Cysawd yr Haul’?. Ateb. Beth yw ‘Galaeth’?. Ateb. Beth yw ‘Y Bydysawd’?. Ateb. Planed Newydd. Gwybodaeth.

kirkan
Download Presentation

Gwrthrychau Nefol

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Gwrthrychau Nefol Cyflwyniad Beth yw ‘Planed’? Ateb Beth yw ‘Lloeren (lleuad)’? Ateb Beth yw ‘Seren’? Ateb Beth yw ‘Cysawd yr Haul’? Ateb Beth yw ‘Galaeth’? Ateb Beth yw ‘Y Bydysawd’? Ateb PlanedNewydd Gwybodaeth

  2. Edrychwch ar y clip nesaf gan sylwi ar y canlynol….. • Siap orbit y planedau • Cyflymder y planedau o’u cymharu â’u pellterau o’r Haul

  3. Yr Haul Nid yw’r planedau na’r pellter o’r Haul ar raddfa cywir

  4. Fe ddylech fod wedi sylwi ar y canlynol: • Mae’r planedau yn gwneud orbit sydd bron yn gylchoedd (elips) o gwmpas yr Haul. • Fel mae pellter y blaned o’r haul yn • cynyddu mae amser un orbit yn cynyddu.

  5. Enwau’r Planedau yn eu trefn yw… Mercher, Gwener, Y Ddaear, Mawrth, Iau , Sadwrn, Wranws, Neifion, Plwton ( Mercher yw’r agosaf at yr haul). Brawddeg iw’ch helpu gofio enwau’r planedau yn eu trefn cywir…. Meddai Gwen Dafis Mae’r Athro Ianto Smith Wedi Naddu Pensil Mercher, Gwener, Y Ddaear, Mawrth, Belt Iau, Sadwrn, Wranws, Neifion, Plwton. Asteroid,

  6. Mwy o wybodaeth… • Mae Cysawd yr Haul yn cynnwys yr Haul (ein seren), planedau, lloerennau a'r belt asteroid. • Mae’r naw planed yn gwneud orbit o gwmpas yr haul sydd yn debyg i gylchoedd wedi gwasgu (ellipses). • Maent yn cael eu cadw yn ei safle gan ddisgyrchiant yr Haul. • Mae haul yn enfawr i’w gymharu â’r planedau. • Mae’r pedair planed gyntaf yn fach ac yn greigiog, gyda natur folcanig. • Mae’r planedau allanol yn nwyon enfawr. ( mae Plwton yn eithriad). • Mae’r planedau agosaf at yr Haul yn teithio yn gyflymach, felly gyda blynyddoedd byr. • Mae maint y flwyddyn yn amrywio gyda phellter o’r Haul.

  7. Blwyddyn yw’r amser mae’n cymryd i blaned gwneud orbit o gwmpas yr Haul. • Nid yw planedau yn rhoi golau allan , maent yn adlewyrchu golau’r Haul. Mae planedau yn edrych fel eu bod yn symud ar draws sêr yn y gofod, oherwydd bod y planedau yn agosach i'r Ddaear. • Mae’r Haul, y seren yng Nghysawd yr Haul, yn aros yn yr un safle yn y gofod. Mae patrymau sêr yn yr awyr yn cael eu galw’n cysterau (constellations). • Mae’r Haul yn un o filiynau o sêr yn ein galaeth. • Mae ein galaeth yn un o filiynau yn ein bydysawd. • Mae’r pellter rhwng y planedau yn fach i gymharu â phellter rhwng y sêr. • Mae’r pellter rhwng y sêr yn fach i gymharu â phellter rhwng y galaethau.

  8. Beth yw Comed? Edrychwch ar y clip nesaf a sylwch sut mae siap orbit comed yn wahanol i orbit planed. Yn ogystal â hyn, sylwch ar gyflymder y comed fel mae agosau at yr haul ac pan mae’n mynd i ffwrdd eto

  9. Orbit Comedau Nid yw’r gomed na’r pellter o’r Haul ar y raddfa gywir

  10. Mae gan gomedau orbitau sy’n bell o fod yn gylch (eliptig iawn). Maent yn teithio’n agosach i’r Haul ar rai adegau nag eraill; ar yr adegau yma mae’n bosib eu gweld. Nid yw’r clip yn dangos hyn, ond mae gan gomed gynffon sy’n ymddangos ac yn tyfu wrth iddi agosáu at yr Haul, ac yn lleihau a diflannu wrth deithio i ffwrdd o’r Haul

  11. Planed Corff sy’n troi (gwneud orbit) o amgylch seren yw planed. Mae’r Ddaear yn blaned. Seren

  12. Lloeren Corff sy’n teithio o amgylch planed yw Lloeren. Mae gan Y Ddaear un lloeren naturiol. Ei enw yw’r Lleuad. Planed

  13. Seren Corff mawr sy’n cynhyrchu ei hegni ei hun yw seren. Seren yw ein Haul ni. Mae yng nghanol Cysawd yr Haul.

  14. Cysawd yr Haul Mae’r Ddaear yn un o naw planed, o leiaf 41 Lloeren, a miloedd o asteroidau a chomedau sy’n teithio o amgylch yr Haul gan ffurfio Cysawd yr Haul.

  15. Galaeth Mae Cysawd yr Haul a’r holl sêr a welwch yn ffurfio ein galaeth ni - Y Llwybr Llaethog (Milky Way).

  16. Bydysawd Mae’r Bydysawd yn cynnwys miliynau o alaethau. Mae’n cynnwys popeth sy’n bodoli. www.youtube.com/watch?v=zJ8CUz4MZ1M

  17. Darganfod Planed Newydd Ar 13eg o Medi, 2006, fe ddarganfuwyd planed arall y tu hwnt i Plwton. Ei henw yw ‘Eris’ ac mae ganddi un lloeren, ‘Dysnomia’ neu ‘Dy’ yn fyr. Uchod fe welir llun o Eris gyda Dy, a’r Haul yn fach iawn yn y pellter. Fel mae technoleg yn datblygu mi fydd fwy o wrthrychau nefol yn cael ei darganfod.

More Related