1 / 7

Datblygu Gyrfa

Datblygu Gyrfa. Mae datblygu gyrfa'n golygu bod y gweithiwr yn gwneud cynnydd yn eu sgiliau, cyfrifoldebau a hynafedd.

Download Presentation

Datblygu Gyrfa

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Datblygu Gyrfa

  2. Mae datblygu gyrfa'n golygu bod y gweithiwr yngwneudcynnydd yn eu sgiliau, cyfrifoldebau a hynafedd • Wrth i weithwyr ddod yn fwy profiadol a medrus, maen nhw'n dymuno cael dyletswyddau newydd, tasgau newydd, ac awdurdod dros weithwyr eraill, ac wrth gwrs maen nhw eisiau cael eu gwobrwyo am y gwaith hwn – cyflog uwch, taliadau bonws ac ati. Felly sut mae datblygu gyrfa'n digwydd ?

  3. Hyfforddiant Hyfforddiant a nodi anghenion hyfforddiant • Heb hyfforddiant, ni fyddai gweithwyr yn cyflawni eu potensial, a byddent yn teimlo'n siomedig tuag at eu cyflogwyr. • Mae hyfforddi gweithwyr yn creu hyblygrwydd, mae gweithwyr sydd wedi cael eu hyfforddi yn gallu ymaddasu'n haws i newidiadau a chyfrannu mwy i'r cwmni. Mae hyfforddiant yn rhoi cymhelliant, ac yn caniatáu i weithwyr gyflawni eu potensial a chyfrannu'n llawn i’r busnes.

  4. Mathau o Hyfforddiant – wrth y gwaith • Wrth y gwaith, dysgudrwy wneud. Gyda hyfforddiant wrth y gwaith, dangosir i weithiwr sut i gyflawni tasgau neu fe’i haddysgir i’w gwneud gan weithiwr mwy profiadol. • Buddion hyfforddiant wrth y gwaith ·Dim aflonyddu ar y gweithledrwyabsenoldebgweithiwr ·Pris isel ·Hyfforddiant sy'n uniongyrchol berthnasol i'rswydd • Costau hyfforddiantwrth y gwaith ·Yr amser a dreulir gan reolwyryncynllunio'r hyfforddiant ·Yr amser a dreulir ganreolwyrneuoruchwylwyr yn gwneud yr hyfforddiant ·Gostyngiadposibl yn ansawdd y cynnyrch wrth i'r hyfforddai gyflawni'r gwaith

  5. Mathau o Hyfforddiant – i ffwrdd o'r gwaith • Hyfforddianti ffwrdd o'r gwaith, lle mae'r gweithiwr yn mynd i goleg i astudio am gymwysterau fel CGCC (GNVQ), neu drwy ddysgu o bell neu drwy ddefnyddio cyrsiau mewnol (yn y gweithle) sydd wedi'u strwythuro'n benodol ar gyfer anghenion y cwmni. Buddion hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith ·Dysgirystod ehangach o sgiliau ·Mewnbynnu syniadau newyddi‘r gweithle ·Mae'r gweithiwr yn ennill cymwysteraugwerthfawr • Costau hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith • ·Colli cynhyrchu, ac aflonyddu ar y gweithle pan fydd y gweithiwr yn absennol • ·Costau gwirioneddol cyrsiau • ·Gallai'r gweithiwr geisio defnyddio ei gymwysterau i chwilio am well cyflogaeth yn rhywle arall

  6. Mathau o Hyfforddiant – tystysgrifedig Mae cwrs neu raglen hyfforddiant tystysgrifedig yn gwrs sydd wedi cael ei achredu gan gwmni neu reolydd diwydiant. Mae hyfforddiant tystysgrifedig yn bwysig mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau, oherwydd, yn aml, ni all gweithwyr wneud y gwaith heb yr ardystiad perthnasol. • Ceir enghreifftiau o hyn yn y diwydiannau cyfleustodau e.e. mae'n rhaid i ffitiwr nwy gael ardystiad CORGI, ac mewn cyfrifiadura, mae'n rhaid cael hyfforddiant ardystiedig gan Microsoft ar gyfer amrywiaeth eang o swyddi technegydd TG.

  7. Cynllun Datblygiad Personol Bydd CynllunDatblygiadpersonol yn edrych ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad presennol y gweithiwr ac ynnodi unrhyw wendidau. Yna bydd y CynllunDatblygiad yn caniatáu rhoi pecyn hyfforddi at ei gilydd sy'n datblygu sgiliau a gwybodaeth.

More Related