1 / 13

Y BRENIN SOLOMON

Y BRENIN SOLOMON. Ar ôl marwolaeth y Brenin Dafydd, daeth ei fab, Solomon yn frenin Israel. Ymddangosodd Duw i Solomon mewn breuddwyd un noson a dywedodd, “Gofyn beth bynnag a fynni gennyf?"

ida
Download Presentation

Y BRENIN SOLOMON

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Y BRENIN SOLOMON

  2. Ar ôl marwolaeth y Brenin Dafydd, daeth ei fab, Solomon yn frenin Israel. Ymddangosodd Duw i Solomon mewn breuddwyd un noson a dywedodd, “Gofyn beth bynnag a fynni gennyf?" Nawr, gallai Solomon fod wedi gofyn am gyfoeth, hir oes, neu fuddugoliaeth dros ei elynion, ond ni ofynnodd am unrhyw un o’r pethau hyn. Meddai, “Rho i mi galon ddeallus i reoli dy bobl, fel fy mod yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg. Helpa fi i farnu dy bobl niferus."

  3. DUW YN YMDDANGOS I SOLOMON

  4. Rhoddodd Duw y doethineb a ddymunai iddo, a rhoddodd bethau eraill iddo hefyd: cyfoeth, hir oes, a buddugoliaeth dros ei elynion. Roedd Solomon yn gwybod am lawer o bethau! Gallai siarad am y coed ac anifeiliaid, adar a physgod. Roedd yn gwybod pethau nad oedd pobl eraill yn eu gwybod a daeth pobl o bedwar ban byd i’w glywed. Daeth brenhines o Sheba i’w glywed unwaith. Roedd wedi syfrdanu gan yr hyn a welodd ac a glywodd.

  5. Roedd dwy fenyw yn Jerwsalem a aeth i weld y Brenin â phroblem mawr. Roedd y ddwy fenyw wedi cael baban yn ystod y nos ac roedd un o’r babanod wedi marw. Yn ddistaw iawn, newidiodd mam y baban a fu farw ei baban marw am faban y fenyw arall.

  6. Dywedodd y fenyw yr oedd ei baban wedi cael ei ddwyn wrth y Brenin ei bod wedi mynd i fwydo’i baban a’i fod wedi marw. Yna gwelodd nad y baban marw oedd ei baban hi. Dywedodd y naill fenyw a’r llall fod y baban yn perthyn iddi hi. Roedd yn rhaid i’r Brenin Solomon ddarganfod pwy oedd mam go iawn y baban. Gwnaeth y Brenin Solomon doeth rhywbeth rhyfedd iawn. Dywedodd wrth filwr am dorri’r baban yn ei hanner fel y gallai pob un o’r menywod gael rhan o’r baban. Ymbiliodd y fam oedd piau’r plentyn byw ar y Brenin i beidio â lladd y baban ond rhoi’r baban i’r fenyw arall yn lle hynny.

  7. Ond roedd y fenyw arall yn barod i dorri’r baban yn ei hanner. Nawr, pwy yn eich tyb chi oedd y fam go iawn? Gyda doethineb Duw mae’r ateb yn hawdd. Rhoddodd Solomon y baban i’r fenyw a oedd yn barod i roi’r baban i rywun arall er mwyn achub ei fywyd.

More Related