1 / 11

Ymddygiadaeth

Ymddygiadaeth. Edrychwch ar y datganiad a phenderfynu a yw’n wir ai peidio. Anwir. Pavlov wnaeth ddyfeisio cyflyru clasurol. Pavlov oedd y cyntaf i ddisgrifio’r broses ond roedd y broses yn bodoli erioed. Gwir. Mae Ymddygiadwyr yn tueddu i ddefnyddio dull gwyddonol.

Download Presentation

Ymddygiadaeth

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Ymddygiadaeth Edrychwch ar y datganiad a phenderfynu a yw’n wir ai peidio.

  2. Anwir • Pavlov wnaeth ddyfeisio cyflyru clasurol. • Pavlov oedd y cyntaf i ddisgrifio’r broses ond roedd y broses yn bodoli erioed.

  3. Gwir • Mae Ymddygiadwyr yn tueddu i ddefnyddio dull gwyddonol. • Maent yn edrych ar ffenomenau y gellir eu harsylwi ac mae hynny’n wyddonol.

  4. Anwir • Dysgu yw’r hyn sy’n digwydd yn yr ysgol • Fe all ddigwydd mewn ysgol ond y mae’n bendant yn digwydd mewn amgylcheddau eraill hefyd. Nid yw seicolegwyr yn cytuno’n hollol beth yw dysgu, na sut y mae’n gweithio.

  5. Anwir • Mae ymosodedd yn digwydd o ganlyniad i’w weld ar y teledu • Nid yw pawb sy’n gwylio trais ar y teledu yn ymddwyn yn ymosodol wedyn.

  6. Gwir • Gellir defnyddio dadsensiteiddio systematig i drin ffobia. • Mae’n gweithio trwy gysylltu teimladau o hedd gyda gwrthrych yr ofn.

  7. Gwir • Cafodd B F Skinner ei hyfforddi fel awdur ffuglen a newyddiadurwr. • Daeth yn seicolegydd fel myfyriwr ôl-radd, ond dyfeisiodd y Blwch Skinner pan oedd yn dal i fod yn fyfyriwr.

  8. Gwir • Mae damcaniaeth dysgu cymdeithasol yn awgrymu bod dysgu’n digwydd trwy arsylwi. • Mae’r ddamcaniaeth yn dadlau fod pobl yn dynwared model ac y gallant ymddwyn fel y mae’r model yn ymddwyn.

  9. Anwir • Mae damcaniaeth dysgu cymdeithasol yn dadlau y gallwch ddysgu heb fod yn ymwybodol o hynny. • Mae Bandura’n mynnu bod rhoi sylw yn rhan bwysig o’r broses o ddysgu.

  10. Gwir • Mae cyflyru gweithredol yn seiliedig ar ymddygiad gwirfoddol. • Mae’n wahanol i gyflyru clasurol sy’n seiliedig ar weithred atgyrch, megis glafoerio.

  11. Gwir • Gall cyflyru gweithredol fod yn fwy effeithiol os nad oes atgyfnerthu cadarnhaol bob amser. • Ond gall yr unigolyn weithiau arddangos lefelau uwch o orbryder.

More Related