1 / 32

Cylched bywyd system

Cylched bywyd system. Ystyr cylchred oes system yw cyfres o gyfnodau y mae angen gweithio trwyddynt wrth ddatblygu system wybodaeth newydd. Gellir gwastraffu llawer o amser ac arian os datblygir system nad yw’n gweithio’n iawn neu nad yw’n gwneud yr union beth sy’n ofynnol.

golda
Download Presentation

Cylched bywyd system

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cylched bywyd system • Ystyr cylchred oes system yw cyfres o gyfnodau y mae angen gweithio trwyddynt wrth ddatblygu system wybodaeth newydd. • Gellir gwastraffu llawer o amser ac arian os datblygir system nad yw’n gweithio’n iawn neu nad yw’n gwneud yr union beth sy’n ofynnol. • Mae system newydd yn llawer mwy tebygol o fod yn llwyddiannus os yw wedi cael ei chynllunio a’i datblygu yn ofalus.

  2. Cyfnodau cylchred oes system Dadansoddi Gofynion ac Astudiaeth Dichonoldeb Cynnal Manyleb y gofynion Profi a Gweithredu Dylunio a chodio

  3. Dadansoddi Gofynion Darganfod Ffeithiau • Cyfweliadau • Holiaduron • Arsylwi • Dogfennaeth bresennol

  4. Manyleb y Gofynion ac Astudiaeth Dichonoldeb • Cytundeb y cytunir arno’n ffurfiol rhwng y gyfundrefn a’r dadansoddwr systemau ynghylch yr hyn y bydd y system newydd yn ei wneud • Diagramau llif data manwl • DS Gall y ddogfen hon gael ei defnyddio i fesur llwyddiant y project. • Dichonoldeb technegol / cymdeithasol / economaidd

  5. Astudiaeth Dichonoldeb • Technegol • Meddalwedd • Caledwedd • Cymdeithasol • Colli gwaith • Ailhyfforddi • Swyddi newydd • Trafodaethau gydag undebau • Economaidd • Costau ariannol • Buddion ariannol

  6. Cynnwys adroddiad dichonoldeb DADANSODDIAD COST A BUDD • Disgrifiad o’r system bresennol yn amlinellu’r hyn sy’n cael ei wneud a sut mae’n cael ei wneud; • Set o osodiadau problem yn disgrifio beth yn union yw’r problemau gyda’r system bresennol; • Set o amcanion system sy’n disgrifio’r hyn y mae’n rhaid i’r system newydd allu ei wneud; • Disgrifiad o ddatrysiadau gwahanol; • Disgrifiad o’r ffactorau technegol, economaidd, cyfreithiol a chymdeithasol sydd wedi cael eu hystyried; • Ffordd o weithredu a argymhellir.

  7. Manyleb y gofynion • Yn ystod cyfnod y dadansoddi bydd dadansoddwyr systemau yn ymchwilio i’r system bresennol i nodi beth yn union yw’r problemau gyda’r system bresennol • Bydd dadansoddwyr systemau yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau darganfod ffeithiau i gasglu mwy o wybodaeth

  8. Ymchwiliad manwl i galedwedd a meddalwedd • Modelu data • Strwythurau staffio

  9. Rhesymau sy’n dylanwadu ar ddewis • Costau • Rhwydddineb defnyddio • Perfformiad • Dibynadwyaeth • Cyfyngiadau meddalwedd • Y gallu i ehangu • Amserau ymateb • Gwarchodaeth • Cydnawsedd â’r galedwedd a’r feddalwedd bresennol

  10. Diagramau llif data a siartiau llif systemau • Ar ôl i’r dadansoddwyr systemau gwblhau eu hymchwiliad maen nhw’n cynhyrchu disgrifiad manwl o’r ffordd y mae’r system bresennol yn gweithio • Mae dulliau a ddefnyddir i helpu i ddisgrifio’r system yn cynnwys diagramau llif data a siartiau llif systemau

  11. Symbolau a ddefnyddir mewn diagramau llif data Endid allanol – ffynhonnell data neu gyrchfan data, er enghraifft pobl sy’n cynhyrchu data fel archeb gan gwsmer, neu sy’n derbyn gwybodaeth fel anfoneb. Proses – gweithrediad a gyflawnir ar y data. Mae’r ddwy linell yn opsiynol; gellir defnyddio rhan uchaf y blwch i labelu’r broses, y canol y roi esboniad cryno, a’r gwaelod i ddweud lle mae’r broses yn digwydd. Storfa ddata– fel ffeil sydd wedi’i chadw ar ddisg neu swp o ddogfennau. Llif data– mae’r saeth yn cynrychioli symudiad data rhwng endidau, prosesau neu storfeydd data. Dylai’r saeth gael ei labelu i ddisgrifio pa ddata sydd dan sylw.

  12. Diagram llif data ar gyfer system archebu tocynnau theatr Gofynion Gwirio tocynnau archebion Cwsmer Seddau ar gael Enw, cyfeiriad, Nodi’r cwsmer, rhifau’r cerdyn credyd seddau, amser, dyddiad, Archebion Cwsmeriaid Gwneud nodi’r ddrama archeb Rhifau’r seddau, amser, dyddiad, teitl y ddrama Teitl, pris, Manylion y amser tocynnau Cwsmer Argraffu Dramâu tocynnau

  13. Y symbolau a ddefnyddir mewn siartiau llif

  14. Siart llif systemau

  15. Dylunio • Caiff datrysiadau posibl gwahanol eu nodi • Caiff datrysiadau gwahanol eu gwerthuso • Caiff y datrysiad gorau ei nodi • Cynhyrchir manyleb ddylunio sy’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol: • Mewnbwn • Allbwn • Storfa ddata • Rhyngwyneb defnyddiwr • Gweithdrefnau ategu ac adfer • Gweithdrefnau gwarchodaeth • Cynllun profi

  16. Rhaglennu a Phrofi Fformat nodweddiadol ar gyfer cynllun profi

  17. Gweithredu • Mae’r cyfnod hwn yn cynnwys: • Sefydlu’r system fel y bydd yn cyd-fynd â’r fanyleb ddylunio • Cynnal profion gan ddefnyddio’r cynllun er mwyn sicrhau bod pob rhan o’r system yn gweithio’n iawn gyda data normal, eithafol a gwallus • Defnyddir data prawf normal i wirio y gall system drafod y math o ddata a fyddai i’w disgwyl wrth ei defnyddio o ddydd i ddydd • Defnyddir data prawf eithafol i wirio y gall system ymdopi â data sydd ar ffiniau’r hyn sy’n dderbyniol • Defnyddir data prawf gwallus (neu eithriadol) i wirio y gall system adnabod data sy’n anghywir a’u gwrthod

  18. Profi gan ddefnyddio data normal, eithafol a gwallus

  19. Cyfranogiad a hyfforddiant defnyddwyr • Hyfforddiant mewnol • Anfon ar gyrsiau • Ergonomeg • Cynyddu hyder defnyddwyr yn y system newydd

  20. Gosod y system newydd • Gallai gynnwys: • Gosod unrhyw galedwedd a meddalwedd newydd • Trosglwyddo data o’r system bresennol i’r system newydd • Hyfforddi defnyddwyr i weithredu’r system newydd

  21. Gosod y system newydd (parhad) Mae llawer o ffyrdd gwahanol y gall system wybodaeth newydd gael ei chyflwyno. Dyma rai o’r ffyrdd mwyaf cyffredin: Gweithredu Uniongyrchol – Newid o’r hen system un diwrnod i ddefnyddio’r system newydd drannoeth Gweithredu Paralel – Defnyddio’r system newydd ochr yn ochr â’r hen system am gyfnod byr. Gweithredu Peilot a Graddol – Yn golygu cyflwyno’r system newydd mewn rhannau llai tra’n gadael gweddill rhannau’r hen system yn eu lle.

  22. Newid drosodd uniongyrchol Newid o’r hen system un diwrnod i ddefnyddio’r system newydd drannoeth • Systemau pwynt talu • Cymwysiadau amser real • Systemau archebu • Rheoli proses

  23. Rhediad Paralel Defnyddio’r system newydd ochr yn ochr â’r hen system am gyfnod byr.

  24. Peilot a Graddol • Peilot Dim ond rhan o’r gyfundrefn sydd â system newydd e.e. adran bersonél • Graddol Dim ond rhai ffeiliau sy’n cael eu cyfrifiaduro e.e. ffeiliau rhestr gyflogau

  25. Dogfennaeth Dechnegol • Manyleb ddylunio y system: • siartiau llif systemau • diagramau llif data • ffeiliau a geiriaduron data • codio a chyfrineiriau • rheoli fersiynau • disgrifiad o wahanol rannau’r system a’r hyn y mae pob un yn ei wneud • cynlluniau sgrin a dyluniadau rhyngwyneb defnyddiwr • y cynllun profi a data prawf

  26. Dogfennaeth ddefnyddiwr • disgrifiad o’r hyn y bwriedir i’r system ei wneud • gofynion lleiaf y system o ran caledwedd a meddalwedd a system weithredu • cyfarwyddiadau ynghylch sut i lwytho a rhedeg y system • cyfarwyddiadau manwl ynghylch sut i weithredu pob rhan o’r system • gwallnegesau, eu hystyr a sut i ddelio â nhw • gweithdrefnau ategu ac adfer • ble i gael mwy o help, fel llinellau cymorth ffôn a thiwtorialau ar-lein

  27. Adolygu ar ôl gweithredu Gwneir hyn ar ôl i’r system newydd redeg am ychydig o wythnosau neu fisoedd i nodi unrhyw addasiadau a all fod yn angenrheidiol.

  28. Cynnal • Perffeithiol • Addasol • Cywirol

  29. Gwerthuso • Arsylwi • Pa mor hawdd ydy hi i’r staff ei defnyddio • Boddhad cwsmeriaid • Log o ddiffygion a hysbyswyd

  30. Beth allai fynd o’i le? • Cost yn fwy na’r amcangyfrifon • Oherwydd dylunio gwael ni chaiff yr holl brosesau eu cynnwys • Yn dechnegol dda ond ni all defnyddwyr ei defnyddio • Yn chwalu gyda mewnbwn annisgwyl e.e. ffeil wag

  31. Osgoi costau ar ôl gweithredu • Dadansoddiad cychwynnol trylwyr manwl a chytuno ynghylch nodau • Dylunio manwl • Ymgynghori â staff ac undebau • Caniatáu ar gyfer ehangu yn y dyfodol

  32. Tasgau’r Dadansoddwr Systemau ar ôl Gweithredu • Hyfforddi defnyddwyr • Gwerthuso’r system derfynol • Cynnal y system newydd

More Related